12/22/2009

Galw am arian i CFfI Sir Gâr

Mae Cyng Eirwyn Williams wedi annog Cyngor Sir Gâr i roddi arian i CFfI yn y sir. Cododd y mater yng nghyfarfod diwetha’r cyngor llawn, gan dynnu sylw at y symiau a roddir gan gynghorau cyfagos.

“Mae Ceredigion yn cyfrannu £16,000, ac mae Sir Benfro’n rhoi £8650,” dywedodd Cyng Williams. “Ond nid yw’r sir hon yn cyfrannu dim tuag at gyllid greiddiol y CFfI, a dyna sydd ei angen arnynt. Mae angen iddyn nhw weld y Cyngor Sir yn eu helpu i gynllunio at y dyfodol tymor hir, ac i gynnal eu gweithgareddau craidd traddodiadol, nid i ariannu gweithgareddau ffasiynol tymor byr yn unig.”

Tynnodd Cyng Williams sylw at waith y mudiad o ran datblygu sgiliau a doniau. “Mae llawer o’r arweinwyr yn ein sir, ym mhob math o faes, wedi mireinio’u sgiliau yn eu hymwneud a’r CFfI; rydyn ni’n siarad felly am wneud buddsoddiad yn nyfodol ein sir.

“Roedd yn syndod mawr i mi – sioc hyd yn oed – glywed ymateb arweinydd y cyngor, Cyng Meryl Gravell. I bob pwrpas, dywedodd y dylai CFfI beidio â chodi mwy o arian i neb arall, a defnyddio eu hamser a’u hymdrechion i godi arian at eu defnydd eu hunain. Ond mae helpu pobl eraill, a gwneud gwaith gwirfoddol, yn elfen allweddol o waith ac ethos y CFfI. Rydyn ni am i’n pobl ifanc ddatblygu gyda theimlad o gyfrifoldeb tuag at eu cyd-ddinasyddion, nid gyda ffocws cul ar eu lles eu hunain. Byddai’n ddiwrnod trist iawn i’n cymdeithas pe byddai pob un ohonom ond yn gwneud yr hyn sy’n iawn i ni’n hunain.”

12/18/2009

Galw am arwyddion dwyieithog

“Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod cwmnïoedd preifat yn dilyn esiampl y sector cyhoeddus ac yn codi arwyddion dwyieithog,” yn ôl cynghorydd Plaid Cymru yn Sir Gâr. Roedd Cyng Arwel Lloyd yn siarad ar ôl clywed mewn cyfarfod nad oedd modd defnyddio’r rheoliadau cynllunio i fynnu bod cwmnïoedd yn codi arwyddion dwyieithog.

Dywedodd Cyng Lloyd wrth y cyngor bod Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin wedi ysgrifennu at un cwmni yn ei annog i godi arwyddion dwyieithog, ond wedi derbyn ymateb yn datgan bod holl arwyddion y cwmni yn y DU yn cael eu gwneud yn ganolog, ac nad oedd y cwmni’n barod i godi arwyddion gwahanol yng Nghymru.

“Mae hyn yn dangos diffyg parch, a diffyg dealltwriaeth o natur y wlad y maen nhw’n gweithredu ynddi,” dywedodd Cyng Lloyd. “Mae Cymru’n wlad ddwyieithog, ac yn y sir hon, mae’r mwyafrif yn medru’r Gymraeg. Mae’n gwbl annerbyniol fod cwmni mawr yn cael anwybyddu’r ffaith honno.

Mae Cyng Lloyd wedi gofyn i Nerys Evans AC weld a oes modd i’r Cynulliad Cenedlaethol newid y rheoliadau cynllunio er mwyn rhoi’r hawl i awdurdodau lleol fynnu arwyddion dwyieithog. Dywedodd Ms Evans, “Byddaf yn gofyn am newid y rheoliadau hyn. Mae hyn yn gam bach, ond mae’n rhoi status a phresenoldeb i’n hiaith. Ac wrth wneud arwyddion yn ddwyieithog pan fyddan nhw’n cael eu codi, mae’r gost yhcwanegol yn fach iawn.”

Mae’r syniad wedi’i gefnogi’n gryf hefyd gan ymgeisydd seneddol y Blaid, John Dixon, a ychwanegodd “Mae dweud eu bod am gadw eu holl arwyddion yn union yr un yn ddadl hurt ac anonest. Mae llawer o’r cwmnïoedd mawr sy’n gweithredu yng Nghymru hefyd yn gweithredu mewn nifer o wledydd eraill, ac ym mhob achos, maen nhw’n addasu eu harwyddion i gynnwys yr iaith leol. Nid oes unrhyw gyfiawnhâd trin Cymru a’r Gymraeg yn wahanol.”

12/17/2009

Penderfyniad yn anghyfreithlon medd y Blaid

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi croesawu penderfyniad y cyngor i ail-feddwl am gau pedwar cartref gofal, ond maen nhw wedi honni fod y ffordd y mae penderfyniadau ers hynny wedi cael eu cymryd yn anghyfansoddiadaol, ac o bosib yn anghyfreithlon. Dywedodd arweinydd y Blaid ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Trechwyd cynnig y Bwrdd Gweithredol gan y Pwyllgorau Craffu, a phasiwyd cynnig Plaid Cymru. Yn amlwg, roedd hynny’n golygu fod yn rhaid i’r cyngor newid cyfeiriad, ond dwi’n pryderu’n fawr o ddarllen y datganiad a roddwyd i’r cyfryngau gan y cyngor yn sgil hynny. Mae’r datganiad yn dweud fod penderfyniad arall wedi’i wneud gan y Bwrdd Gweithredol mewn ‘cyfarfod anffurfiol’. Nid yma’r ffordd i wneud penderfyniadau, ac nid yw cyfansoddiad y cyngor yn caniatáu hyn.

Mae’n rhaid i unrhyw gyfarfod lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud gael ei alw’n ffurfiol, gyda rhybudd priodol, ac mae’n rhaid caniatáu i’r cyfryngau a’r cyhoedd fynychu’r cyfarfod. Mae cymryd penderfyniadau mewn ‘cyfarfod anffurfiol’ yn anghyfansoddiadol – ac mae bronn yn sicr ei bod yn anghyfreithlon hefyd. Ymddengys i fi nad yw’r prosesau priodol wedi’u dilyn, a dwi wedi gofyn i’r Prif Weithredwr am esboniad brys o’r broses a ddilynwyd yn yr achos hwn.

“Ar ben hynny, ymddengys eu bod wedi penderfynu rhywbeth gwahanol i’r hyn yr oedd aelodau’r pwyllgor yn credu eu bod nhw wedi penderfynu. Ar ôl i’r cynnig gwreiddiol gael ei drechu, awgrymwyd gan yr aelod o’r Bwrdd Gweithredol a oedd yn bresennol bod grŵp yn cael ei sefydlu i ystyried y mater o’r newydd. Roeddem ni i gyd yn deall taw Grŵp Gorchwyl a Gorffen fyddai hyn – yn cynrychioli’r holl bleidiau ar y cyngor. Fodd bynnag, ymddengys fod y Bwrdd Geithredol – yn ei ‘gyfarfod anffurfiol’ – wedi newid hynny, gan benderfynu sefydlu grŵp o swyddogion o wahanol gyrff i gwrdd yn breifat heb graffu democrataidd. Mae hyn yn ddatblygiad sy’n achosi cryn bryder i mi.”

Dywedodd Cllr Dyfrig Thomas, dirprwy arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor, “Mae’n amlwg nad oedd y Bwrdd Gweithredol wedi ystyried am eiliad bod modd i’w cynnig gael ei wrthod. Maen nhw’n arfer â chael eu ffordd eu hunain ar bopeth, ac roedden nhw’n disgwyl i’w haelodau ddilyn yn gaeth yn hytrach na gwrando ar y dadleuon. O ganlyniad, ymddengys fod y penderfyniad wedi achosi cryn banig iddyn nhw, ac yn awr maen nhw’n ceisio cyflwyno’r penderfyniad fel un a wnaed ganddyn nhw. Yn y broses, ymddengys eu bod wedi llwyr diystyru rheolau a phrosesau’r cyngor ei hun.

“Un o’r cwestiynau mawr nawr yw hyn – beth wnaiff y Blaid Lafur? Roedd eu haelodau’n cefnogi Plaid Cymru wrth geisio gwrthod y cynnig gwreiddiol, ac os maen nhw’n dal eu tir, gallwn ladd y cynnig am byth. Ond os maen nhw’n caniatáu i Meryl Gravell a’i chriw eu gorfodi i’w chefnogi, wedyn mae’n debyg y bydd y cyngor yn ceisio rhoi’r un cynnig gerbron unwaith yn rhagor. Beth fydd eu dewis nhw?”

12/15/2009

Rheoli nifer y cerbydau

Croesawyd y syniad o wneud mwy i herio'r angen am gerbydau'r cyngor. Yn ei gyfarfod diwethaf, cytunodd y cyngor fod angen dull mwy pendant o sicrhau profi'r angen am bob cerbyd, ac o sicrhau fod y defnydd gorau'n cael ei wneud ohonynt.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths, "Ymddengys i mi fy mod yn gweld cerbydau'r cyngor dros y lle yn y sir yma. Mae llawer o bobl eraill wedi dweud yr un peth wrthyf i. Yn wir, dwi wedi cael ar ddeall fod gan y cyngor oddeutu 700 o gerbydau i gyd. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod o brofiad personol faint mae'n costio i redeg un car; rhaid fod 700 yn costio'n sylweddol i'r cyngor. Yn amlwg, mae angen digon i gyflawni dyletswyddau'r cyngor, ond dwi wedi amau'n aml a oes angen cymaint ag sydd gyda ni. Mae gwneud mwy i fonitro hyn yn gam cadarnhaol, a dwi'n ei groesawu'n fawr."

12/07/2009

Ail-osod yr offer chwarae!

Mae'r ddau gynghorydd sir sy'n cynrychioli ward Llannon ar Gyngor Sir Gâr wedi galw am ail-osod offer charae ym maes chwarae Maes Gwern yn y Tymbl. Cyflwynodd y ddau gynghorydd ddeiseb i'r cyngor yn ei gyfarfod llawn diwethaf. Roedd dros 180 o drigolion lleol wedi llofnodi'r ddeiseb.

Dywedodd Cyng Phil Williams, "Roedd y Cyngor Sir wedi symud yr offer chwarae heb unrhyw rybudd o gwbl i'r gymuned leol - cyrhaeddodd tîm o ddynion, ac aethan nhw â'r offer. Bu hyn yn ergyd drom i'r gymuned, a sefydlodd y maes chwarae ym 1979 ar sail gwaith lleol. Cliriwyd y safle - oedd wedi bod yn dir diffaith - gan y plant lleol eu hunain, oherwydd yr oedden nhw am gael ardal chwarae yn lleol. Ac eithrio cyfraniad Mr Evan Bowen, sy'n byw ger y safle, gwnaed y gwaith i gyd gan y plant, y rhan fwyaf ohonynt rhwng 11 a 13 oed. Yn dilyn ymgyrch lleol, cytunodd y cyngor yn y diwedd i ddarparu offer, bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1984.

"Pan oedd y tywydd yn braf, roedd hyd at 60 o blant yn defnyddio'r safle, ac er bod safle arall y tu ôl i Ysgol y Tymbl, nid yw hynny'n addas i blant hŷn. Mewn gwirionedd, mae'n addas ar gyfer plant hyd at 7 oed yn unig. Dwi wedi erfyn ar y cyngoir sir i osod offer chwarae newydd ar y safle yn lle'r offer a ddymchwelwyd, fel y gall y plant ddal i chwarae mewn ardal ddiogel."

Dywedodd ei gyd-gynghorydd, Emlyn Dole, "Yn gymharol ddiweddar, dywedodd arweinwyr y cyngor sir wrthom ni nad oedd angen y dddeddfwriaeth newydd y mae Dai Lloyd AC yn ei gyrru trwy'r cynunlliad i sicrhau ymgynghori cyn colli cyfleusterau. Ond mae'r ffordd y mae'r cyngor wedi gweithredu yn fan hyn yn dangos yn union pam fod angen y fath gyfraith. Mae'n gwbl annerbyniol fod offer chwarae'n gallu cael ei dymchwel heb unrhyw rybudd neu ymgynghori ymlaen llaw."

11/20/2009

Newid trefn casglu trethi dŵr

Mae cynghorydd Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi galw am newid y drefn am gasglu trethi dŵr gan denantiaid y cyngor. Mae Cyng Marion Binney wedi dweud ei bod wedi delio â nifer o achosion lle mae tenantiaid yn hwyr gyda thaliadau i'r cyngor, nid am eu bod wedi methu â thalu eu rhenti, ond oherwydd eu bod wedi methu â thalu trethi dŵr. Y drefn bresennol yw bod y Cyngor Sir yn talu'r trethi dŵr cyn eu casglu o'r tenantiaid gyda'u rhent, ac mae Cyng Binney'n dweud bod hyn yn gam di-angen yn y broses, ac y gall arwain at berygl y bydd tenantiaid yn colli eu cartrefi oherwydd dyledion i gwmni arall, nid i'r cyngor.

"Dwi'n credu y dylai tenantiaid dalu eu trethi dŵr eu hunain yn uniongyrchol," dywedodd Cyng Binney. "Byddai hynny'n osgoi sefyllfa lle mae'r cyngor yn mynd ar ôl tenantiaid am ddyledion i gorff arall. Byddai hefyd yn rhoi'r tenantiaid yn yr un sefyllfa â phawb arall - yn gyfrifol am dalu eu biliau dŵr yn uniongyrchol i'r cwmni dŵr. Byddai hyn yn helpu'r tenantiaid ac yn helpu'r cyngor.

"Deallaf y byddai hefyd yn golygu fod rhai teuluoedd yn gallu ceisio am wahanol gynlluniau sydd ar gael trwy'r cwmnïoedd dŵr; cynlluniau nad ydyn nhw'n gymwys amdanyn nhw os bydd y cyngor yn casglu'r trethi a'u hanfon ymlaen i'r cwmni. Er enghraifft, mae'n bosib i deulu gyda thri o blant dan 19 sydd ar fudd-daliadau neu rywun sydd â rhai anhwylderau penodol ac sy'n derbyn budd-daliadau, fod yn gymwys. Dwi'n amau fod y cyngor yn derbyn comisiwn o ryw fath gan y cwmni dŵr am gasglu'r trethi ar ei ran, ond ni ddylai'r fath yna o drefn fod yn bwysicach na diwallu anghenion y tenantiaid. Ac yn bendant, ni ddylai fod yn sail i denantiaid wynebu'r posibiliad o golli eu cartrefi am ddyledion i gorff hollol wahanol."

11/17/2009

Cyngor yn methu'r targed

Mae Cyngor Sir Gâr yn debyg o fethu â chyrraedd ei darged ei hunan am dai fforddiadwy yn ôl Cyng John Edwards. Roedd Cyng Edwrads yn siarad ar ôl cyfarfod o'r pwyllgor craffu. Yn ystod y cyfarfod, daeth yn amlwg fod nifer o broblemau o ran cyrraedd y targed.

Dywedodd Cyng Edwards, "Y mae llai a llai o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu o dan gytundebau adran 106, lle mae'r cyngor yn rhoi caniatad cynllunio ar yr amod fod tai fforddiadwy yn cael eu darparu. Ar ben hynny, mae'r sefyllfa ariannol yn golygu ei bod hi'n anos cael morgais, gyda'r benthycwyr yn mynnu blaendal uwch."

"I wneud pethau'n waeth," meddai Cyng Edwards, "ymddengys fod rhi o'r benthycwyr yn gwrthwynebu'r amod ar ail-werthu. Gwell ganddyn nhw allu gwerthu'r tai ar y farchnad agored fel bod mwy o sicrwydd ganddyn nhw, y banciau. Ond mae'r amod ar ail-werthu'n hanfodol er mwyn sicrhau fod y tai yn dal ar gael i bobl leol. Mae'n gwbl annerbyniol i'r polisi ar ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol gael ei danseilio gan y banciau er mwyn diogelu eu helw nhw."

11/16/2009

Anfodlon â'r enw newydd

Mae trigolion Alltwalis yn anfodlon â'r bwriad i ail-enwi'r fferm wynt sydd newydd ei hadeiladu yn eu hardal, yn ôl eu cynghorydd lleol, Cyng Linda Evans. Mae'r tyrbeinau'n cael eu comisyunu ar hyn o bryd, ac mae'r cwmni am ail-enwi'r datblygiad yn Fferm Wynt Alltwalis. Dim ond oddeutu 40 o dai sydd yn Alltwalis ei hunan, ond mae trigolion lleol wedi casglu llofnodau o ymron i bob un ohonyn nhw, yn gwrthwynebu'r enw newydd.

Mae Cyng Evans wedi cyflwyno'r ddeiseb i'r cwmni, a dywedodd "Mae'r cwmni am newid yr enw, ond nid wyf i na'r trigolion lleol yn deall paham eu bod am ei enwi ar ôl un o'r pentrefi lleol. Ymgynghorwyd â'r trigolion yn yr holl bentrefi lleol, gan ofyn pa un ddylai fenthyca ei enw i'r Fferm Eynt. Mae'n wir fod y rhan fwyaf wedi cefnogi Alltwalis fel yr enw, ond ymddengys fod yr holl bleidleisiau ar gyfer yr enw hwnnw wedi dod o bob pentref ac eithrio Alltwalis. Mae'n annheg defnyddio enw un pentref ar sail pleidleisiau'r pentrefi eraill.

"Paham nad ydyn nhw'n trefnu cystadleuaeth agored i bobl leol i awgrymu enw newydd yn hytrach na defnyddio enw un o'r pentrefi? Neu hyd yn oed gofyn i'r plant yn yr ysgolion newydd awgrymu enw Cymraeg da? Byddai hynny'n well o lawer nae'r hyn a wnaed gan y cmwni hyd yma."

11/13/2009

Trethu'r Sul

Cafwyd ymateb cryf gan Blaid Cymru yn Sir Gâr i awgrym fod y Pleidiau Llafur ac Annibynnol yn y sir ar fin codi tâl am barcio ar y Sul ym meysydd parcio’r dref yn y dyfodol agos. Er bod yn rhaid talu rhwng 8:00am a 6:00pm o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn ar hyn o bryd, ni chodir am barcio min nos neu ar ddydd Sul.

Dywedodd John Dixn, ymgeisydd seneddol y Blaid am yr ardal, “Byddai hyn yn effeithio ar gannoedd, os nad miloedd, o bobl sy’n cael parcio am ddim ar ddydd Sul ar hyn o bryd. Byddai’n effeithio ar bawb sy’n gyrru i’r dref er mwyn mynychu’r eglwysi a’r capeli yng nghanol y dref, yn ogystal â’r rhai sy’n dod i’r dref i siopa ar y Sul neu am resymau eraill. Mae’n dreth gudd ar y Sul – codi am rywbeth sydd wedi bod yn rhad ac am ddim hyd yma - ac yn rhwystr arall i’r rhai sydd am ddefnyddio canol y dref yn hytrach na chanolfannau manwerthu mawr ar y cyrion. Beth nesaf? Codi am barcio min nos hefyd? Mae’r Blaid Lafur a’r Blaid Annibynnol yn gweld popeth yn nhermau ariannol; mae cyfle i godi arian at goffrau’r cyngor yn bwysicach iddyn nhw nag anghenion pobl a busnesau’r sir. Bydd y Blaid yn gwneud popeth yn ein gallu i atal y cynllun hwn.”

Dywedodd Cyng Peter Hughes Griffiths, arweinydd y Blaid ar y cyngor sir, “Pan glywais si fod y fath gynllun yn cael ei ystyried, roeddwn i’n methu â chredu’r peth. Ond, pan ofynnais i’r cyngor beth oedd yn digwydd, cefais gadarnhad fod y cynnig hwn yn cael ei ystyried. Mae’n awgrym crintachlyd, a’r unig fwriad yw codi mwy o arian o bocedi trigolion lleol. Bydd hyn yn dreth ar y rhai sy’n dod i’r dref i addoli – rhywbeth na ddylai’r cyngor byth fod yn ei ystyried.”

Cefnogwyd y ddau yn gryf gan Gynghorydd Arwel Lloyd, sydd wedi arwain ymgyrch y Blaid yn erbyn y cynllun i godi am barcio yn Heol Awst. “Mae ein hymgyrch wedi cael cefnogaeth eang iawn,” meddai. “Ar ôl gweld cryfder y gwrthwynebiad i’r cynigion ar gyfer Heol Awst, mae’n anhygoel i mi y gallan nhw hyd yn oed ystyried codi am barcio ar ddydd Sul. Bydd hyn yn effeithio ar hyd yn oed mwy o bobl na’r cynnig ar gyfer Heol Awst. Bydd pobl Caerfyrddin yn gynddeiriog ynghylch y syniad. Gallaf addo y bydd y cyngor yn gwynebu ymgyrch gref iawn yn erbyn y cynnig hwn.”

Roedd cynghorwyr eraill Plaid Cymru yn y dref, Gareth Jones ac Alan Speake, hefyd yn addo eu cefnogaeth lawn i’r ymgyrch yn erbyn y cynnig hwn.

11/06/2009

Gwallau yn yr ymgynghoriad

Roedd gwallau mawr yn y ffordd yr ymynghorwyd â rhieni yngylch dewis iaith addysg uwchradd yn ardal Gwendraeth a Dinefwr yn ôl grŵp y Blaid ar y cyngor. Yn ôl adroddiad ar ganlyniadau’r arolwg ymhlith rhieni, a anfonwyd at bob cynghorydd, llai na hanner y rhieni atebodd o gwbl. Dywedodd arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, fod hyn yn sail hollol annigonol ar gyfer asesiad go iawn o ddymuniadau rhieni yn yr ardal.

Roedd y Blaid eisoes wedi beirniadu’r holiadur am gael ei drefnu ar frys, ac am fod yn aneglur, gan ddweud nad oedd y cyngor sir hyd yn oed wedi dilyn ei bolisi ei hun yn y ffordd y cyflwynwyd y cwestiwn. Mae’r Blaid bellach yn dweud fod y canlyniad yn profi yr oedden nhw’n iawn yn y lle cyntaf, ac mae’r Blaid wedi galw ar y cyngor, unwaith yn rhagor, i gynnal arolwg trylwyr a diffuant.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Ar y cychwyn, gwrthododd y cyngor gynnal unrhyw fath o arolwg o gwbl, ac fe fynnon nhw basio cynnig yn y cyngor yn ymwrthod â’r syniad. Wedyn, dan bwysau o gyfeiriad Llywodraeth Cymru, fe ruthron nhw i gynnal arolwg ar sail holiadur gwallus na chyflwynodd y cwestiwn i rieni mewn ffordd deg nag eglur. Roedd llawer o rieni’n methu â deall beth oedd y cwestiwn a ofynnwyd iddyn nhw. ‘Sdim syndod o gwbl nad oes ond 40% wedi ymateb.

“Mae’r cyngor yn honni ei fod yn annog rhieini i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant; ond nid oedd y dogfennau a anfonwyd at rieini’n sôn am hynny o gwbl. Ni wnaed unrhyw ymdrech i hyrwyddo polisi’r cyngor; ond yn waeth na hynny, ni esboniwyd yr opsiynau i rieni yn glir ychwaith. Y canlyniad yw set o ffigyrau di-ystyr, a’r lle priodol iddyn nhw yw’r bin ailgylchu.”

Roedd Cyng Hughes Griffiths hefyd yn tynnu sylw at adroddiad diweddar Estyn yn y sir, gan ddweud, “Ymddengys fod y cyngor yn benderfynol o ruthro ymlaen gyda model ysgolion ‘dwyieithog’; model sydd wedi methu. Mewn un adroddiad yn ddiweddar, roedd Estyn wedi tynnu sylw penodol at rai agweddau o bolisi dwyieithrwydd un o’n hysgolion ‘dwyieithog’. Y gwir plaen yw fod model dwyieithrwydd y cyngor yn y rhan fwyaf o’n hysgolion uwchradd wedi methu’n llwyr, a dangoswyd hynny tro ar ôl tro. Mae’r model hwn wedi’i wrthod gan y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru, sydd wedi cydnabod taw ysgolion Cymraeg yw’r unig ffordd effeithiol o symud ymlaen. Mae’r cyngor yn honni ei fod yn cefnogi’r iaith Gymraeg mewn addysg, ond mae’r honiad hwnnw yn gwbl groes i’r ffeithiau mewn ardaloedd helaeth o’r sir.”

Mae’r Blaid wedi galw am ail-feddwl sylfaenol ar ran y cyngor, gan ddweud y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i atal gweithredu cynlluniau niweidiol y cyngor. Gorffennodd Cyng Hughes Griffiths trwy ddweud, “Rydyn ni wedi dweud o’r cychwyn cyntaf fod angen canfod gwir lefel y galw am addysg Gymraeg yn y sir. Ymddengys fod pob cyngor arall yng Nghymru’n gwybod yn iawn fod y galw yn fwy na’r ddarpariaeth a bod y galw’n dal i gynyddu. Ymddengys fod Sir Gâr yn ceisio celu ac atal y galw trwy gynnal ffug-arolygon i’w asesu. Nid ydyn nhw’n gwasanaethu’r sir na’r genedl, a byddwn yn ymladd bob cam yn erbyn eu cynigion.”

10/30/2009

Croeso i gynllun nwy

Mae'r cynllun i ymestyn y rhwydwaith nwy i Frynaman Uchaf wedi'i groesawu gan gynghorydd Plaid Cymru ar gyfer yr ardal, Helen Wyn. Mae Cyngor Sir Gâr wedi cytuno i gefnogi'r cynllun a fydd hefyd yn cynnwys rhaglen effeithlonrwydd ynni ar gyfer yr ardal.

Dywedodd Cyng Wyn, "Hyd yma, mae'r dewis sydd ar gael i bobl yn yr ardal wedi'i gyfyngu i olew a thanwydd solet, ac mae'r ddau yn llai cyfleus ac yn aml yn ddrutach na nwy. Mae cynllun sydd nid yn unig yn dod â chyflenwad nwy i'r ardal, ond hefyd yn helpu pobl i wneud y defnydd gorau o ynni yn gam mawr ymlaen o ran sicrhau gwres fforddiadwy yn y gymuned. Mae tlodi tanwydd - lle mae pobl yn gwario dros 10% o'u hincwm ar danwydd - yn broblem fawr i rai, a dwi'n falch iawn fod cynllun da ar gael i ddechrau mynd i'r afael â'r broblem.

"Mae'n bwysig, fodd bynnag, nad ydym yn stopio ym Mrynaman Uchaf. Mae ardaloedd eraill yn fy ward a fyddai hefyd yn hoffi manteisio ar nwy, a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau gwelliannau ymhellach i'r rhwydwaith."

10/27/2009

Pryderon am drethi ar fusnes

Mae Plaid Cymru wedi galw am newid sylfaenol yn y trethi a delir gan fusnesau, yn sgil adroddiadau fod llawer o fusnesau'n wynebu problemau.

Dywedodd John Dixon, ymgeisydd seneddol y Blaid ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, "Un o'r costau mwyaf i fusnesau yng nghanol ein trefi yw'r trethi. Mae hyn yn fath hynod o annheg o dreth, gan nad yw'n cyfateb o gwbl i elw'r busnes.

"Golyga hyn y gall dwy fenter debyg, mewn lleoliad tebyg, dalu'r un trethi - hyd yn oed os yw un yn gwneud elw da tra bod y llall yn colli arian. Gall hyn fod yn ergyd drom i rai busnesau - digon i'w cau. Ac nid yw'r dirwasgiad yn helpu ychwaith. Mae'r dreth hefyd yn gweithredu i atal busnesau rhag buddsoddi mewn gwella neu ymestyn eu swyddfeydd neu eu siopau er mwyn gwella eu gwasanaeth i'w cwsmeriaid. Mae unrhyw fusnes sy'n gwneud hynny'n debyg o wynebu bil treth uwch o ganlyniad. Mae'n bryd i ni ddiddymu'r dreth hon a gosod treth decach yn ei lle - treth sy'n seiliedig ar elw'r cwmni.

Cafodd Mr Dixon gefnogaeth gan un o gynghorwyr y Blaid yn y dref. Dywedodd Cyng Alan Speake, "Dwi wedi bod yn siarad â nifer o fusnesau yng nghanol Caerfyrddin. Maen nhw'n dweud wrthyf i eu bod yn cael anhawster mawr ar hyn o bryd. 'Dydy'r datblygiadau mawr sydd ar y gweill yn y dref yn helpu 'chwaith. Mae llawer ohonyn nhw'n dweud wrthyf i bod eu trosiant wedi lleihau ers i Heol y Gwyddau gau, gan i'r traffig waethygu sut gymaint. Maen nhw'n pryderu na fydd y cwsmeriaid hyn yn dychwelyd ar ôl i'r ffordd ail-agor.

Dywedodd arweinydd y Blaid ar y Cyngor Sir, Cyng Peter Hughes Griffiths, ei fod wedi ysgrifennu at fwrdd gweithredol y cyngor yn gofyn iddyn nhw a oedd unrhyw help y gallan nhw ei roi trwy ostwng y trethi dros dro. Dywedodd, "Rydyn ni i gyd yn gwybod fod pethau wedi bod yn anodd yn ystod y datblygu, a dwi'n meddwl y byddai o help petasai'r cyngor yn gallu ystyried unrhyw fodd posib o gynorthwyo busnesau. Wedi'r cyfan, os bydd unrhyw fusnes yn cau, mae'r cyngor yn colli'r cyfan o'r trethi gan y busnes hwnnw - gwell o lawer yw ei helpu i leihau ei gostau a chadw'r busnes yn fyw i'r tymor hir."

10/25/2009

Mwy addas i Essex

Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ddathlu ail-agor Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin yn fwy addas i Essex nag i Gaerfyrddin, yn ôl arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths. Mae’r Theatr wedi bod ar gau ers chwe mis, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafwyd buddsoddiad sylweddol i’w hadnewyddu. Mae’r ardaloedd cyhoeddus a’r cyfleusterau y tu ôl i’r llwyfan wedi’u gwella, a bydd y Theatr ar ei newydd wedd yn ganolbwynt i’r celfyddydau perfformio yn y sir.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Dwi’n hynod o falch fod y Theatr yn ail-agor, ac wrth gwrs dwi’n falch iawn o weld y buddsoddiad a wnaed. Mae pawb yn y dref wedi bod yn edrych ymlaen at ail-agor y Lyric, ac roeddwn yn disgwyl rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ddathlu’r achlysur. Mae llu o bobl dalentog yn y sir – pobl sy’n gallu perfformio yn y ddwy iaith – ond mae’r doniau hynny wedi’u hanwybyddu’n llwyr. Mae’r rhaglen a drefnwyd yn rhaglen debyg i’r hyn y byddai rhywun yn ei disgwyl mewn unrhyw dref yn Lloegr. Does dim byd, dim byd o gwbl, gdag unrhyw deimlad lleol, neu fynegiant o Gymreictod iddo, a dwi wedi’m synnu’n fawr fod y cyngor sir yn gallu credu am eiliad fod y gyfres hon o ddigwyddiadau yn addas mewn unrhyw ffordd.

“Yn lle dathlu talent lleol a thalent Cymru’n fwy cyffredinol, beth sydd gyda ni? Sgrinio’r ffilm ‘Rocky’, ffilm dawel o 1923, a thriawd o denoriaid o’r Alban! Wrth gwrs mae lle am y cyfan o’r digwyddiadau hyn dros gyfnod o flwyddyn mewn canolfan o safon fel y Lyric – ond i ddathlu ail-agor y Theatr? Wrth gwrs nid yw’n addas. Petasen nhw wedi trefnu un digwyddiad o’r tri gyda blas lleol neu flas Cymreig iddo, byddai hynny wedi bod yn well. Ni allaf ddeall sut mae unrhyw un wedi dod i’r casgliad fod y rhaglen hon yn ffordd addas neu synhwyrol o ddathlu ail-agor y Lyric.”

10/19/2009

Galw am y ffeithiau ar y sianel deledu

Mae arweinwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi galw am gael gwybod costau llawn y sianel deledu y mae'r cyngor sir a chyrff cyhoeddus eraill yn y sir am ei lansio. Dywedodd arweinydd y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, "Wrth i ni ofyn mwy o gwestiynau, mae'r sefyllfa'n dod yn llai eglur. Rydym yn gwybod fod y cyngor wedi cytuno i dalu hyd at £30,000, a bod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol wedi cytuno i gyfrannu £10,000 ychwanegol, ond ymddengys fod nifer o gyrff cyhoeddus eraill wedi derbyn cais am arian hefyd.

"Mae hyn yn ffordd gwbl annerbyniol o weithredu. Mae pob un o'r cyrff cyhoeddus yn derbyn cais am arian, ond ymddengys nad yw neb yn gwybod cyfanswm cost y prosiect. Yn amlwg, bydd y gost derfynol yn dibynnu i raddau ar y broses dendro, ond ymddengys i mi fod penderfyniadau'n cael eu gwneud heb wybod y ffeithiau. Dwi'n credu fod gan y cyhoedd hawl i wybod o leiaf pa gyrff sydd wedi derbyn cais am arian - ac yn ddelfrydol, dylem ni i gyd ddeall yn fras beth fydd cyfanswm y gost. Dwi'n pryderu'n fawr y gall y gost derfynol fod yn uwch o lawer nag ydy'r un o'r cyfrannwyr unigol yn sylweddoli."

10/18/2009

Wythnos ola'r ddeiseb


Mae'r cyfnod o gasglu enwau ar ddeiseb y Blaid yn erbyn codi am barcio yn Heol Awst ar fin dirwyn i ben, ac aeth y Blaid â stondin i ganol Caerfyrddin i roi cyfle i fwy o bobl lofnodi'r ddeiseb.

Cefnogwyd Cyng Arwel Lloyd, sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch, gan Cyng Peter Hughes Griffiths ac ymgeisydd seneddol y Blaid, John Dixon. Dywedodd Cyng Lloyd, "rydym wedi cael cefnogaeth arbennig o dda i'n hymgyrch, ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl wedi bod yn falch o lofnodi'r ddeiseb. Mae'r ddeiseb ar gael mewn nifer o siopau yn Heol Awst hefyd. Byddwn yn cau'r ddeiseb ymhen wythnos, fel y gallwn ei chyflwyno i'r Cyngor Sir. Dwi'n annog unrhyw un sydd am ei llofnodi nawr i wneud hynny mewn un o'r siopau, neu i gysylltu â fi yn uniongyrchol."

Byddai codi am barcio yn Heol Awst yn ergyd drom i fusnesau yng nghanol y dref, yn ôl John Dixon. Dywedodd, "Yng nghanol dirwasgiad economaidd, mae llawer o fusnesau'n dioddef yn barod. Y peth olaf sydd ei angen arnynt ydy rhoi rheswm arall i bobl beidio â defnyddio siopau lleol. O'r hyn mae'r busnesau yn Heol Awst yn dweud wrthym, rydym yn gwybod fod llawer iawn o bobl yn defnyddio'r parcio rhad ac am ddim yn Heol Awst i wneud ymweliad cyflym ag un neu ddwy o siopau - ofnwn y bydd cynlluniau'r cyngor yn gyrru'r bobl hyn i lefydd eraill yn lle dod i'r dref. Mae angen i ganol y dref fod yn lle bywiog, ond ymddengys fod y cyngor yn fodlon aberthu rhai o fusnesau'r dref er mwyn casglu ychydig o arian am barcio."

Y llynedd, llwyddodd cynghorwyr y Blaid i ddarbwyllo'r cyngor i beidio â chyflwyno'r taliadau am flwyddyn, ond roeddent wedi rhybuddio ar y pryd nad oedd oedi'n ddigonol, a byddai angen ymgyrch arall i atal y cynllun yn gyfangwbl. Dywedodd arweinydd y Blaid ar y cyngor sir, Cyng Peter Hughes Griffiths, "Mae'r flwyddyn ar fin dirwyn i ben, ac mae'n hanfodol ein bod yn rhoi cymaint o bwysau ag sy'n bosib ar y cyngor i anghofio'r cynlluniau gwael hyn. Byddwn yn cyflwyno'r dddeiseb i'r cyngor cyn bo hir, ond rydym hefyd yn annog pobl y dref i fynegi eu barn trwy ysgrifennu at y cyngor. Bydd yn rhy hwyr ar ôl i'r cynllun gael ei weithredu."

10/17/2009

Beirniadu'r cwmni bysys

Daeth i'r amlwg yr wythnos hon fod Cwmni bysys First Cymru yn bwriadu rhoi terfyn ar nifer o wasanaethau yn Sir Gâr. Mae'r cmwni wedi ennill contract gan Gyngor Sir Gâr ar ôl proses dendro, ond maen nhw'n dweud yn awr eu bod yn tynnu allan o'r contract, a bydd raid i'r cyngor ddod o hyd i gwmni arall i ddarparu'r gwasanaethau.

Ymhlith y gwasanaethau sy'n cael eu canslo yw'r gwaanaeth i Lynderi, Tanerdy. Mae'r cynghorydd lleol am y ward, Cyng Peter Hughes Griffiths, wedi mynegi ei siom am y sefyllfa.

"Mae swyddogion y cyngor sir yn gweithio i geisio dod o hyd i gwmni arall a fydd yn fodlon derbyn y contract," dywedodd Cyng Hughes Griffiths. "Dwi'n gwybod fod pobl sy'n ei chael hi'n anodd i fynd allan wedi dibynnu ar y gwasanaeth hwn a gwasanaethau tebyg eraill, a mawr obeithiaf y bydd y cyngor yn gallu trefnu gwasanaethau amgen rhywsut."

Ond roedd Cyng Hughes Griffiths yn llym ei feirniadaeth o'r cwmni ac o'r system sy'n caniatau iddynt roi terfyn ar wasanaethau fel hyn. "Mae'n annerbyniol," meddai fe, "fod cwmni'n gallu tendro am gontract, ei ennill, ac wedyn cerdded i ffwrdd. Nhw oedd wedi dewis tendro am y contract, sy'n rhoi arian cyhoeddus iddyn nhw am ddarparu'r gwasanaethau. Ond ymddengys eu bod yn gallu torri'r contract pryd bynnag maen nhw eisiau."

10/12/2009

Cyngor yn ystyried y tymor byr yn unig

Mae un o gynghorwyr y Blaid yn Sir Gâr wedi mynegi ei bryder am y ffordd y mae'r cyngor yn edrych ar y tymor byr yn unig wrth ystyried y lefel staffio mewn adran allweddol. Roedd Cyng. David Jenkins yn ymateb i wybodaeth fod yr Adran Gaffael wedi bod yn brin o staff ers dros 9 mis.

Dywedodd Cyng. Jenkins, "Mae'r adran gaffael wedi gwneud gwaith arbennig yn ystod y blynyddoedd diweddar i leihau costau'r cyngor, ac mae wedi gwneud yn well na'r targed a osodwyd ar ei chyfer. Ond cawsom wybod yn ddiweddar fod y cyngor wedi arbed arian trwy adael un swydd heb ei llenwi ers 9 mis, a llenwi swydd arall ar sail rhan-amser yn unig am dri mis. Er ei bod yn wir fod y cyngor yn arbed arian trwy beidio â llenwi'r swyddi hyn yn y tymor byr, gall y cyngor arbed mwy yn y tymor hir, yn fy marn i, trwy sicrhau llenwi pob swydd yn yr adran hon. Dwi'n credu fod y cyngor yn gwneud camgymeriad enfawr wrth beidio â chynnal nifer y staff yn yr adran hon er mwyn sicrhau arbedion mwy yn y tymor hir."

10/11/2009

Galw am ail-ystyried arian o werthu ysgol

Anogwyd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr i ail-feddwl ar ôl iddyn nhw benderfynu peidio â gwneud unrhyw gyfraniad i'r Gymdeithas Gymunedol leol o'r arian a geir o werthu Ysgol Llanarthne. Mae'r ysgol wedi'i chau o dan Raglen Moderneiddio Addysg y sir, a rhoddodd y cyngor gyfle i'r gymuned leol baratoi cynllun busnes am ddefnyddio'r ysgol at anghenion lleol. Ateb y gymuned oedd fod gyda nhw neuadd yn barod, a gwell ganddyn nhw ymestyn y neuadd honno na chymryd cyfrifoldeb am adeilad ychwanegol. Gofynasant, felly, am gyfraniad o'r arian a geir o werthu'r ysgol. Gwrthodwyd hyn yn unfrydol gan y Bwrdd Gweithredol - sy'n cynnwys y cynghorydd lleol, Wyn Evans, o'r Blaid Annibynnol.

Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru, Cyng Peter Hughes Griffiths, wedi galw iddynt ail-ystyried. Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, "Dwi'n credu y gallant fod wedi dangos mwy o gydymdeimlad yn fan hyn. Mae gormod o bentrefi wedi colli eu hysgolion dan raglen y cyngor, a gall colli ysgol fod yn ergyd drom i unrhyw gymuned. Mae ond yn deg fod y gymuned yn cael rhyw fantais uniongyrchol o werthu hen ysgolion, er mwyn dod dros y golled a dod o hyd i ddulliau eraill o gryfhau'r gymuned. Mae'r bwrdd gweithredol wedi penderfynu helpu'r gymuned i ddod o hyd i ffynonellau arian amgen, ac mae hyn yn gam cyntaf rhesymol. Ond credaf y dylai'r cyngor sir fod yn barod i ail-ystyried y cais os oes angen, os na cheir digon o arian o'r ffynonellau amgen hynny."

10/05/2009

Mwy o gwestiynau am Deledu Sir Gâr

Mae gwleidyddion Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi codi mwy o gwestiynau am y defnydd o arian y trethdalwyr i ariannu sianel teledu ar y rhyngrwyd yn Sir Gâr. Mae Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir, dan arweiniad y Cyng “Annibynnol” Meryl Gravell, a’r Bartneriaeth Gwasanaethau Lleol eisoes wedi cytuno i roi symiau sylweddol tuag at y gost. Mae’r Cyngor wedi cytuno i dalu hyda at £30,000 (heb gynnwys cost amser y swyddogion – a’r disgwyl yw y bydd hynny’n swm sylweddol ychwanegol), ac mae Bwrdd y Bartneriaeth wedi cytuno i gyfrannu £10,000. Nid yw cyfanswm y gost wedi’i gyhoeddi, ond mae’r Cyngor Sir yn honni fod y rhan fwyaf o’r arian yn dod o lywodraeth y Cynulliad. Deëllir fod disgwyl y bydd cyrff cyhoeddus eraill hefyd yn gwneud cyfraniadau sylweddol tuag at y gost.

Daeth y cynnig i sefydlu’r sianel gan gwmni preifat sydd a’i bencadlys yn y sir. Aethan nhw at y cyngor sir a chyrff cyhoeddus eraill, ar ôl i rai cynghorau yn Lloegr lansio cynlluniau tebyg. Lansiodd Cyngor Sir Caint, er enghraifft, wasanaeth peilot a gostiodd £1.2 miliwn am y ddwy flynedd gyntaf, a £400,000 yn ychwanegol am y drydedd blwyddyn. Mae Cynghorwyr Plaid Cymru bellach wedi codi cwestiynau am y broses a ddilynwyd.

Mae arweinydd y Blaid ar y cyngor, y Cyng Peter Hughes Griffiths wedi ysgrifennu at Brif Swyddog y cyngor i ofyn pam na ddilynwyd proses dendro ffurfiol. Dywedodd, “Am ymron i bopeth mae’r cyngor yn ei wneud, mae’n rhaid i ni fynd trwy broses dendro ffurfiol, fel bod nifer o ddarparwyr yn cael cyfle i gynnig eu gwasanaethau, ac fel bod y cyngor yn sicrhau gwerth am arian. Ond, yn yr achos hwn, roedd yn ymddangos i mi na wnaed unrhyw ymdrech i weld a oedd cwmnïoedd eraill oedd yn gallu darparu’r gwasanaeth. Yr argraff a roddwyd oedd fod y cyngor wedi rhoi’r contract i’r cwmni cyntaf i awgrymu’r syniad. Roeddwn yn falch o gael gwybod nad oedd yr argraff hwn yn gywir o gwbl. Er bod un cwmni wedi dod at y cyngor, dwi wedi derbyn sicrwydd y bydd proses gystadleuol i benderfynu pa gwmni sy’n derbyn y contract, a chymryd fod pob un o’r cyrff perthnasol yn cytuno i gyfrannu.

“Rydym ni fel grŵp yn dal i gredu taw camgymeriad yw’r holl gynllun, a’i fod yn wastraff o arian cyhoeddus. Ond, os yw’r cyngor yn bernderfynol o yrru’r cynllun hwn yn ei flaen, y lleiaf y dylen nhw ei wneud ydy dilyn eu prosesau arferol eu hunain, a sicrhau cystadleuaeth am y contract. Heblaw am ddim byd arall, mae hynny’n rhoi cyfle arall i ni geisio rhwystro’r cyngor rhag cyfrannu at y cynllun hwn. Ac un cwestiwn allweddol nas atebwyd hyd yma yw beth yw cyfanswm cost y cynllun. Faint mae’r cyhoedd yn talu ar ôl cyfrif yr holl gyfraniadau gan y gwahanol gyrff cyhoeddus?

Codwyd cwestiynau hefyd am yr arian sydd i ddod gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae Nerys Evans, AC rhanbarthol yr ardal, wedi dweud ei bod hi’n holi Llywodraeth y Cynulliad am y mater. “Ar adeg pan mae’n debyg y bydd angen cwtogi gwariant llywodraeth leol, ymddengys yn od iawn i mi,” dywedodd Ms Evans, “fod Llywodraeth y Cynulliad yn dargyfeirio arian o wasanaethau’r rheng flaen i wasanaeth teledu. Dwi’n gofyn i’r gweinidogion perthnasol egluro faint maen nhw’n cyfrannu, o ba gyllideb y daw, a sut y cytunir y contract.”

10/02/2009

Anwybyddu Glanymôr

Mae anghenion Glanymôr yn cael eu hanwybyddu yn ôl Cyng Winston Lemon. Dywedodd Cyng Lemon, "Mae pobl Glanymôr wedi hen flino ar glywed, blwyddyn ar ol blwyddyn, taw Glanymôr yw'r ward dlotaf yn Sir Gâr, tra bod ardaloedd mawr o dir, oedd â diwydiant arno gynt, yn cael eu hadfer ar gyfer tai. Mae ffatrioedd yn cau, sy'n arwain at golli swyddi yn yr ardal. Mae trethdalwyr yn dod ataf trwy'r amser yn dweud eu bod nhw'n synnu faint o swyddfeydd sy'n cael eu hadeiladu.

"Mae llawer gormod o dai cyngor yn wag, ac maent yn dirywio a pheri costau ychwanegol oherwydd difrod gan fandaliaid. Hefyd, defnyddir rhai tai ar gyfer tipio anghyfreithlon. Dwi'n pryderu hefyd am y cynllun i godi ysgol ar Barc y Goron, gan fod 98% o'r trigolion yn gwrthwynebu'r cynllun yn gryf. Nid yn unig y bydd y cynllun yn mynd â chyfleusterau hamdden o'r bobl, ond bydd hfeyd yn ychwanegu at broblemau carthffosiaeth yng Nglanymôr ac ymhellach."

Ychwanegodd Cyng Lemon, "Mae'n hen bryd i'r datblygwyr preifat ymneilltuo a gadael 'r cyhoedd weld eu harian yn cael ei fuddsoddi yn eu cymunedau."

9/25/2009

Galw am gasglu gwydr min y ffordd

Mae Cyng Alan Speake, o Dref Caerfyrddin, wedi galw am i Gyngor Sir Gâr gasglu gwydr min y ffordd. Dywedodd Cyng Speake, "Mae'r Cyngor Sir yn gwneud llawer i gasglu sbwriel a'i ailgylchu, ond ar hyn o bryd, nid ydynt yn casglu gwydr. Mae'r Cyngor yn beio rheolau Iechyd a Diogelwch, ond mae cynghorau eraill yn llwyddo i gasglu poteli ac ati yn ddi-drafferth.

"Er bod y Cyngor yn fodlon darparu mway o finiau mawr lle mae modd dod o hyd i safle, mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd mynd â'u gwydr i fan gasglu, yn arbennig pobl hŷn a'r rheiny heb gar. Mae'r cyngor yn llygad ei le yn dymuno cynyddu'r ganran o sbwriel a ailgylchir, ond credaf eu bod yn colli cyfle trwy beidio â gwneud mwy i helpu pobl."

9/24/2009

Croesawu penderfyniad ar Ysgol Caeo

Mae penderfyniad Cyngor Sir Gâr i beidio â chau Ysgol Caeo wedi'i groesawu gan y gymuned leol. Roedd y Llywodraethwyr, y rhieni, a'r staff yn falch o glywed y penderfyniad ar ôl cyfnod o ansicrwydd. Dywedodd y Cynghorydd Sir lleol, Cyng Eirwyn Williams, "Dwi'n llongyfarch bwrdd gweithredol y cyngor am sylweddoli o'r diwedd ei bod yn gamgymeriad cau ysgolion bach cyn adeiladu'r ysgolion newydd. Dyma bwynt dwi wedi bod yn ei godi ers blynyddoedd.

"Mae'n gwbl annerbyniol gwasgaru plant dros nifer o ysgolion eraill, yn hytrach na rhoi cyfle iddynt ddatblygu fel aelodau'r un gymuned. Gobeithio y bydd yr awdurdod bellach yn mynd ati i ddarparu ysgol newydd i'r ardal, ac y bydd yr adran addysg yn rhoi'r holl gymorth angenrheidiol i'r ysgol barhau i ddarparu addysg o safon uchel i'r plant."

Nododd Cyng Williams hefyd fod y penderfyniad yn gyson â'r hyn y mae'r Blaid wedi bod yn galw amdano ers misoed, gan ddweud, "Rydym wedi dadlau'n gyson am foratoriwm ar gau ysgolion bach, ac, yn yr achos hwn, mae'r bwrdd gweithredol wedi gwneud y penderfyniad iawn."

9/17/2009

Syndod ar gyflogau

Mae arweinwyr y Blaid yn Sir Gâr wedi mynegi eu syndod am lefel y codiadau cyflog a roddwyd i uchel swyddogion y cyngor. Cafwyd adroddiadau mewn papurau newydd yr wythnos ddiwethaf bod cyflog y Prif Weithredwr wedi cynyddu o £26,000 dros y tair blynedd ddiwethaf. Dywedodd yr adroddiadau hefyd fod nifer y staff sy'n ennill dros £80,000 wedi codi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf o 13 i 21.

Dywedodd arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, "Wrth gwrs fod angen swyddogion da i redeg ein gwasanaethau, ac mae Sir Gâr yn ffodus iawn o ran llawer y swyddogion sydd gyda ni. Ond mae'n rhaid i fi ofyn a oes angen talu cyflogau mor uchel â'r rhai sydd yn cael eu talu bellach. Cafwyd llawer o sylw yn ddiweddar i gyflogau ACau ac ASau etholedig, ond mae nifer cynyddol o brif swyddogion mewn llywodraeth leol yn derbyn cyflogau uwch na nhw.

"Ar adeg pan mae rhan fwyaf o staff y cyngor wedi derbyn cynnig codiad cyflog llawer yn is, sef 0.5%, ni allaf innau gyfiawnhau talu codiadau llawer yn uwch i'r prif swyddogion. Dwi'n gwybod ei bod yn bosib nad oedd yr adroddiadau yn hollol gywir, ac felly dwi'n ysgrifennu at arweinydd y cyngor, Cyng Meryl Gravell, yn gofyn am fanylion llawn o'r codiadau yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Mae'n annerbyniol nad oedd y rhan fwyaf o'r cynghorwyr wedi gwybod dim am hyn tan ddarllen amdano yn y wasg."

Ychwanegodd Cyng Dyfrig Thomas, dirprwy arweinydd y grŵp, "Mae angen i ni gael mwy o dryloywder ynghylch cyflogau, yn arbennig pan ddaw at brif swyddogion. Nid y cyngor sy'n rhoi'r codiadau hyn, ond y Bwrdd Gweithredol, mewn cyfarfodydd cyfrinachol. Y peth cyntaf y mae'r rhan fwyaf o'r cynghorwyr yn gwybod yw pan fyddan nhw'n darllen manylion yn y papurau newydd. All hynny ddim fod yn iawn, ac rydym yn gofyn am sefydlu panel sy'n cynrychioli pob grŵp ar y cyngor i adolygu cyflogau prif swyddogion y cyngor".

9/08/2009

Pryderon am wariant ar gyhoeddusrwydd

Mae Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi mynegi pryderon am y ffaith bod y cyngor sir ar fin gwario miloedd o bunnoedd yn ychwanegol ar gyhoeddusrwydd trwy gytuno contract gyda chwmni teledu i sefydlu sianel deledu ar y rhyngrwyd.

Dywedodd Cyng Peter Hughes Griffiths, arweinydd grŵp y Blaid ar y cyngor, "Ychydig iawn o wybodaeth sydd gyda ni fel cynghorwyr am y cynllun hwn, gan na fu'r drafodaeth yn agored i ni. Rydym yn gwybod mwy o ddarllen cofnodion Partneriaeth Sir Gâr nag yr ydym wedi'i chael gan y Cyngor Sir!

“Yn ôl cofnodion y Bartneriaeth ym mis Ebrill, sydd yn agored i bawb ar y rhyngrwyd, mae'r Bartneriaeth wedi neilltuo £10,000 tuag at y prosiect, ar yr amod fod y partneriaid eraill yn cyfrannu hefyd, ond nid oes unrhnyw sôn am gyfanswm y gost. Ond dwi'n gwybod fod Cyngor Sir Caint wedi gwneud rhywbeth tebyg - a'r gost iddyn nhw oedd £600,000!

"Rydym yn gwybod yn barod fod Cyngor Sir Gâr yn gwario mwy ar hunan-gyhoeddusrwydd na chynghorau eraill - yn ystod dirwasgiad, a chydag arweinwyr y cyngor yn cwyno'n ddibaid am ddiffyg arian gan y Llywodraeth, nid oes unrhyw esgus i gynyddu eu gwariant yn y maes hwn."

Cyngor yn anwybyddu ei bolisi ei hun

Mae cynghorydd Llwynhendy, Meilyr Hughes, wedi galw am arwyddion stryd newydd mewn rhan o'i ward, ar ôl i'r arwyddion presennol golli eu lliw dros amser. Dywedodd Cyng Bowen yr wythnos hon, "Dwi wedi galw am arwyddion newydd yn Heol Llandafen, Heol Pemberton, Heol Llwynhendy, a Heol y Gelli, lle mae llygredd y traffig wedi effeithio arnynt yn wael. O ganlyniad i ddatblygiadau diweddar yn yr ardal, mae Heol y Gelli bellach yn rhan o'r B4297, tra bod y ffyrdd eraill i gyf yn rhan o'r 'hen A484', sydd yn golygu fod angen ystyried yn ofalus lle yn union i roi'r arwyddion newydd."

Mae Cyng Bowen hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod hyn yn creu cyfle i'r cyngor weithredu polisi sydd wedi'i anwybyddu hyd yma. "Polisi swyddogol y cyngor yw defnyddio'r fersiwn Gymraeg yn unig o'r enw lle mae hwnna wedi'i ddefnyddio ers peth amser," dywedodd Cyng Bowen. "Hyd yma, mae'r cyngor wedi codi arwyddion gyda'r ddau enw, ond, fel engraifft, dim ond Heol y Gelli sydd ei angen o dan bolisi'r cyngor ei hunan."

8/28/2009

Buddsoddiad yn gam cyntaf

Mae dau o gynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr, sydd wedi mynegi eu pryderon o'r blaen am y gwasanaeth rheilffordd i Gaerfyrddin, wedi rhoi croeso i gynlluniau'r Llywodraeth i fuddsoddi yn y rheilffyrdd, a all wella'r sefyllfa.

Dywedodd Cyng Alan Speake, "Newyddion da yw clywed fod Gweinidog Trafnidiaeth Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau y caiff y rheilffordd ei drydaneiddio mor bell ag Abertawe, er yr oedd llywodraeth Llundain yn bwriadu mynd mor bell â Bryste yn unig. Ond rhaid i ni weld hyn fel cam cyntaf. Mae'n hanfodol i Orllewin Cymru fod gweddill y lein, i Gaerfyrddin ac ymhellach, yn cael ei drydaneiddio hefyd, fel y gall trenau fynd trwodd yn hytrach na gorfod newid trên yn Abertawe."

Ychwanegodd Cyng Linda Davies Evans, "Mae Llywodraeth Cymru'n Un wedi cytuno hefyd i fuddsoddi er mwyn dyblu'r trac o gwmpas gorllewin Abertawe, a bydd hyn yn caniatáu i drenau redeg yn fwy aml i Orllewin Cymru. Mae hyn yn gam pwysig arall, a gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau'n fuan, fel bod modd rhedeg mwy o drenau, a sicrhau fod y gwasanaeth i gyd yn fwy dibynadwy."

8/14/2009

Cais am gyfyngu cyflymdra yn Denham Avenue

Mae Cynghorydd Sir Plaid Cymru, Mari Dafis, wedi gofyn am gyfyngu cyflymder traffig i 20mya yn Denham Avenue, Llanelli, am resymau diogelwch. Dywedodd Cyng Dafis yr wythnos hon, "Mae problemau difrifol yn Denham Avenue. Er bod cyfyngiad o 30mya ar hyn o bryd, mae nifer o gerbydau yn teithio ar gyflymder o hyd at 50mya ar y ffordd hon.

"Cafwyd problemau wrth i geir ddifrodi ceir wedi'u parcio o ganlyniad, a dwi'n pryderu'n fawr y gallwn weld damwain difrifol os nad ydym yn gweithredu. Y mae dwy ysgol yn y cyffiniau, a dylai hynny fod yn rheswm digonol dros ostwng y cyfyngiad i 20mya a chymryd camau eraill i sicrhau fod y traffig yn cadw o fewn y cyfyngiad.

"Mae'r Cyngor yn dweud wrthyf nad oes modd gweithredu eleni oherwydd y sefyllfa ariannol, ond byddaf yn dal i bwyso am hyn yn y gobaith y gallwn weithredu mor fuan ag y bydd arian ar gael."

8/08/2009

Ymateb y Blaid i'r strategaeth dysgu Cymraeg

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth ddrafft newydd ar gyfer Addysg Gyfrwng Cymraeg, a'r wythnos hon mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi ei ymateb. Dywedodd arweinydd y grŵp, y Cyng Peter Hughes Griffiths, "Mae Sir Gâr yn un o'r ychydig siroedd yng Nghymru gyda mwyafrif o Gymry Cymraeg o hyd. Mae'n hanfodol o bwysig i sir fel hon fod â strategaeth glir a chadarn am ehangu addysg Gymraeg, ac rydym yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi'r strategaeth genedlaethol gyntaf erioed ar gyfer hynny. Fodd bynnag, y mae nifer o wendidau yn y ddogfen, ac yr ydym wedi amlygu'r rheiny yn ein hymateb.

"Rydym yn croesawu'n fawr cynnig Llywodraeth Cymru'n Un i sicrhau cynnal arolwg trylwyr a chadarn o'r galw am addysg Gymraeg. Rydym wedi galw am hyn yn y cyngor sir yn barod, ond mae'r pleidiau Llafur ac Annibynnol sy'n rhedeg y sir wedi gwrthod. Yn wir, dim ond arolwg ffug a gawsom, mewn rhan yn unig o'r sir, heb unrhyw ymgais i esbonio manteision addysg Gymraeg. Ond yn bwysicaf oll, nid oes unrhyw ddiben gorfodi cynghorau i gynnal arolwg heb eu gorfodi wedyn i ymateb i'r galw hwnnw yn llawn.

"Roeddem ni'n teimlo hefyd nad oedd y llywodraeth yn gosod targedau digon uchelgeisiol, yn arbennig mewn sir fel hon, ac rydym wedi galw ar y llywodraeth i osod targedau mwy heriol."

8/03/2009

Croeso i gynllun i ehangu addysg Gymraeg yn Llanelli

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi croesawu adroddiad gan swyddogion y sir sy'n cymell nifer o opsiynau ar gyfer cynyddu nifer y llefydd sydd ar gael ar gyfer addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd Llanelli. Mae'r galw am addysg Gymraeg wedi cynyddu'n syfrdanol yn y dref, ac mae'r Cyngor Sir wedi cael anawsterau mawr wrth ymateb i lefel y galw ers rhyw ddwy flynedd bellach. Yn ôl y cynlluniau diweddaraf, mae'r Cyngor yn bwriadu cynyddu nifer y llefydd ym mhob un o'r ysgolion Cymraeg presennol, ac yn cydnabod fod angen cynllunio nawr am fwy o ysgolion Cymraeg yn y dyfodol agos.

Dywedodd Cyng Dyfrig Thomas, "Mae mwy a mwy o rieni'n dewis addysg Gymraeg i'w plant yn yr ardal. Maen nhw'n deall y manteision o sicrhau fod eu plant yn gwbl ddwyieithog, ac yn deall hefyd taw ysgolion Cymraeg yw'r ffordd orau o wneud hynny.

“Dwi'n croesawu'n fawr y cynlluniau i gynyddu nifer y llefydd yn Ysgol Dewi Sant yn ogystal â chynnydd mawr iawn yn Ysgol Ffwrnes, ac mae hyn ar ben yr ysgol newydd ar gyfer Brynsierfel. Ond ymateb tymor byr yn unig yw hyn - mae'r ffigyrau'n dangos yn glir fod angen dod o hyd i safle am un ysgol newydd ar frys, ac mae'n debyg fod angen cynllunio am ysgol arall ar ôl hynny."

Ychwanegodd Cyng Thomas, "Mae'n galonogol iawn i nodi fod y galw'n cynyddu ym mhob rhan o'r dref, gan bobl ym mhob cymuned."

7/31/2009

Angen ail-ystyried blaenoriaethau trafnidiaeth

Mae angen ail-ystyried rhai o'r blaenoriaethau yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin Cymru, yn ôl cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr.

Dywedodd Cyng Siân Thomas ei bod yn croeswu'r ffaith fod ffordd osgoi Llandeilo yn un o'r blaenoriaethau uchaf, ond yn pryderu am yr amserlen ar gyfer y gwaith. "Yn ôl y cynllun," dywedodd hi, "mae'r ffordd hon yn un o'r prif flaenoriaethau am y sir, ond nid oes disgwyl cychwyn ar y gwaith tan o leiaf 2014, gyda phob tebygrwydd o oedi ymhellach ar ôl hynny."

Galwodd Cyng John Edwards am roi mwy o flaenoriaeth i waith ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham, lle cafwyd nifer o ddamweiniau'n barod. Dywedodd, "Mae gwir angen gweithredu ar rai o'r cyffyrdd ar hyd y ffordd hon, er mwyn arbed bywydau a chadw pobl yn ddiogel."

7/29/2009

Cefnogaeth i neuadd boblogaidd

Bydd Neuadd Bro Fana, yn Ffarmers, yn elwa o grant o hyd at £15,500 o Lywodraeth y Cynulliad o dan Gynllun Datblygu Cymru Gwledig. Croesawyd y newyddion gan y cynghorydd sir lleol, Eirwyn Williams, a ddywedodd, "Mae hyn yn ardal wledig iawn, ond mae'r neuadd yn cael ei defnyddio gan ystod eang o grwpiau a chymdeithasau. Mae pwyllgor y neuadd wedi cytuno derbyn cynnig gan y ddwy wraig oedd yn arfer darparu cinio i'r ysgol gynradd i sefydlu caffe a siop yn y neuadd i wasanaethu'r pentref, os ydynt yn derbyn caniatâd cynllunio.

"Mae'n siwr gen i y bydd hyn yn wasanaeth y bydd y gymuned yn ei groesawu a'i ddefnyddio. Ond bydd hefyd yn galluogi ehangu defnydd y neuadd, gan y bydd y grant yn mynd tuag at adnewyddu'r gegin a'r storfa, a bydd y rheiny ar gael ar gyfer digwyddiadau cymunedol hefyd. Dwi'n hynod o falch fod y cais hwn am grant wedi bod yn llwyddiannus, ac yn dymuno'n dda i'r fenter newydd."

7/27/2009

Galw am oedi cyn datblygu yn Llandeilo

Yn ei gyfarfod diwwethaf, clywodd Cyngor Sir Caerfyrddin alwadau am oedi datblygiad mawr yn Llandeilo. Mynegodd aelodau Plaid Cymru o'r cyngor eu pryderon am y problemau traffig yn Llandeilo, gan ddadlau y byddai ychwanegu'n sylweddol at faint y dref cyn adeiladu ffordd osgoi'n gwaethygu'r broblem.

Dywedodd Cyng Siân Thomas, "Mae Pwyllgor yr Amgylchedd wedi clywed yn barod am y pryderon am lefel uchel y llygredd awyr yn Stryd Rhosmaen, a does dim ffordd o ychwanegu at y draffig heb wneud hynny'n waeth. Prys mae'r ffordd osgoi'n dod? Mae cynlluniau diwethaf y llywodraeth yn awgrymu na fydd cyn 2014 o leiaf, a ddylem ni ddim hyd yn oed ystyried adeiladu ar y raddfa hon cyn hynny."

Gofynnodd arweinydd y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, "Ydyn ni'n gyffyrddus mewn gwirionedd i adael i'r datblygiad hwn fynd yn ei flaen cyn datrys y broblem?"

Dywedodd Cyng John Edwards ei fod yn croesawu'r ffordd yr oedd swyddogion y cyngor wedi paratoi cynllun drafft ar gyfer y datblygiad, ond yr oedd yntau hefyd yn rhannu'r pryderon am yr amseru. "Mae'n well o lawer ein bod yn cynllunio fel hyn," dywedodd. "Mae gosod patrwm am y datblygiad ymlaen llaw yn hytrach nag ymateb i ddatblygwyr yn well ffordd o wneud pethau. Dwi'n croeswu hyn, ac yn diolch i'r swyddogion am eu gwaith. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod yn rheoli amseriad y datblygiad yn ogystal â'i ffurf."

Angen meithrin talent lleol

Nid oes digon yn cael ei wneud i feithrin talent lleol ym myd chwaraeon, yn ôl un o gynghorwyr Plaid Cymru yn Llanelli. Mae Cyng Winston Lemon, sy'n cynrychioli ward Glanymor, yn ymgyrchu dros gael cae rygbi ar Barc y Goron yn y dref. Dywedodd, "Byddai hyn yn beth da iawn yn lleol, gan helpu i feithrin sgiliau at y dyfodol. Byddai hefyd yn sicrhau cartref i glwb lleol y Warriors. Byddai'n rhoi cartref sicr iddyn yn y gymuned leol, ac yn helpu annog eraill - pobl ifanc yn arbennig - i ymwneud â chwaraeon."

7/24/2009

Anwybyddu anghenion lleol

Mae anghenion lleol am dai yng Nglanymor, Llanelli, yn cael eu diystyru, yn ôl y cynghorydd lleol, Winston Lemon o Blaid Cymru. Dywedodd Cyng Lemon yr wythnos hon fod gormod o bwyslais ar adeiladu tai preifat newydd, er bod anghenion pobl leol am dai i'w rhentu heb eu diwallu. "Gwaeth na hynny," dywedodd Cyng Lemon, "mae llawer yn ormod o dai cyngor yn wag, a dylai'r rhain gael eu defnyddio ar gyfer pobl leol.

"Mae'r bwyslais yn gwbl anghywir ar hyn o bryd. Yr hyn sydd ei angen ydy polisi ar gyfer tai a datblygu sy'n cychwyn gyda dadansoddi'r anghenion lleol, ac wedyn ymdrechu i'w diwallu. Ond yr hyn sydd gyda ni yw polisi a yrrir gan bennaf ar sail buddiannau'r datblygwyr."

7/23/2009

Mwy o bryder am doriadau i'r gyllideb addysg

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi mynegi pryderon ymhellach am doriadau i'r gyllideb addysg yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Cyng Gareth Jones ei fod yn hynod o anfodlon gweld y toriadau i'r gyllideb ar gyfer Theatr Arad Goch. "Mae gwaith y grŵp theatr hwn yn werthfawr iawn," dywedodd. "Mae'n mynd o gwmpas yr ysgolion a gweithio gyda'r plant. Bydd cwtogi ar y gyllideb hon yn lleihau'r cyfleoedd sydd ar gael i'n plant. Mae Arad Goch yn medru cyflwyno agweddau o waith mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn rhoi cyfle i blant i weithio fel unigolion ac i ddatblygu sgiliau tîm yn ogystal â magu hunan hyder. Mae'r grŵp yn werthfawr gyda ei gynhyrchiadau wedi anelu at y cwricwlwm."

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cwtogi £62,000 o gyllideb Gwasanaethau Plant trwy ddirwyn ei gytundeb gyda Chymorth i Fenywod i ben. Dywedodd Cyng Dyfrig Thomas, "Mae'r corff hwn yn gwneud gwaith pwysig iawn, ac yng nghanol dirwasgiad bydd yr angen am ei wasanaethau'n cynyddu. Mae'r gwaith a wneir ganddynt yn ategu gwasanaethau'r cyngor ei hunan, a dwi'n siomedig iawn i weld y cytundeb hwn yn dod i ben."

7/20/2009

Croeswu cynnydd ar yr ysgol newydd

Mae Cynghorydd Meilyr Hughes o Lwynhendy wedi croesawu'r newyddion am y cynnydd ar adeiladu ysgol newydd ym Mrynsierfel. Yn ôl y cyngor sir, bydd y gwaith o ddymchwel yr hen ysgol yn cychwyn yng nghanol mis Awst, ac yn cael ei gwblhau erbyn 4ydd Medi, pan fydd gwaith adeiladu'n cychwyn ar yr ysgol newydd.

Dywedodd Cyng Hughes, "Dwi'n croesawu'r cynnydd ar yr gwaith yma. Mae gwir angen yr ysgol newydd hon, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau mor fuan â phosib."

Ar hyn o bryd, mae disgyblion Brynsierfel yn cael eu haddysg yn Ysgol yr Ynys, a disgwylir i'r ysgol newydd fod yn barod ymhen dwy flynedd.

7/10/2009

Osgoi trafodaeth gyhoeddus

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymddwyn mewn modd annemocrataidd a thwyllodrus yngylch yr adrefnu arfaethedig o ysgolion uwchradd,” yn ôl Plaid Cymru. Ceisiodd arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, godi’r mater yng nghyfarfod llawn y cyngor yr wythnos hon, ond fe’i rhwystrwyd o dan reolau sefydlog y cyngor.

Yn siarad ar ôl y cyfrafod, dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Ond ychydig fisoedd yn ôl, gofynnon ni fel grŵp am i’r cyngor gynnal arolwg o ddymuniadau rhieni yn ardal Dinefwr, ond bu i’r aelodau Llafur ac Annibynnol i gyd bleidleisio yn erbyn ein cynnig. Nawr, ymddengys fod yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sy’n gyfrifol am Addysg wedi penderfynu cynnal arolwg wedi’r cyfan. Efe ei hun gymerodd y penderfyniad, mewn cyfarfod lle nad oedd yr un cynghorydd arall yn bresennol – ac i bob pwrpas, mae wedi gwyrdroi penderfyniad y cyngor llawn. Nid hynny yn unig – ond roedd y penderfyniad wedi’i weithredu cyn i weddill y cyngor gael gwybod amdano. Mae’r broses hon yn sylfaenol wallus.”

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths fod y cwestiwn sydd wedi’i roi i rieni yn rhy aneglur, gan nad oedd yn glir am y gwahaniaeth rhwng gwahanol gategorïau o ysgol. “Maen nhw wedi cyfeirio at ysgol categori 2B fel ysgol ddwyieithog,” dywedodd. “Mae hyn yn lol pur. Er y gall fod ysgol 2B yn ’cynnig’ ystod o bynciau yn y Gymraeg mewn theori, mae’r ymarfer yn wahanol iawn, ac yn aml ond ychydig iawn o ddysgu sy’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Maen nhw wedi rhuthro i mewn i’r arolwg yma yn hytrach na’i gynllunio’n ofalus ac yn drywadl. Ni chafwyd unrhyw ymdrech i esbonio i rieni mewn manylder beth yw goblygiadau’r gwahanol ddewisiadau, er bod hyn yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y gall unrhyw riant ei wneud am addysg ei blant.

“Un o’r agweddau gwaethaf o’r holl sefyllfa, fodd bynnag,” ychwanegodd Cyng Hughes Griffiths, “yw na chawsom ni fel cynghorwyr unrhyw gyfle i drafod hyn. Ni chyflwynywd yr adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r cynghorwyr i’w trafod o gwbl. Ymddengys taw un dyn sy’n penderfynu polisi addysg y sir. Mae angen mwy o atebolrwydd democrataidd na hyn; mae’n hollol annerbyniol nad ydym ni fel cynghorwyr yn gallu herio’r hyn sy’n digwydd.”

Perygl i oiechyd plant

Iechyd ein plant yn y blynyddoedd i ddod oedd prif bryder Cynghorydd Siân Thomas o Blaid Cymru wrth sirad mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y pwyllgor yn trafod Llygredd yn yr Aer, ac roedd pryderon Cyng Thomas yn ymwneud â phlant Llandeilo. O dan y Ddeddf Amgylchedd 1995, mae'n ofynnol paratoi "Diweddariad ar Reoli Ansawdd yr Aer". Er nad yw llygredd gan ddiwydiant o bryder mawr yn Sir Gâr, mae llygredd o drafnidiaeth yn fater difrifol. Y mae chwe safle yn Sir Gâr lle mae lefel yr NO2 yn uwch na'r lefel dderbyniol, sef 40.

Mae pump o'r rhain yn Llanelli, ac mae'r Cyngor yn credu fod y problemau hyn yn debyg o gael eu datrys wrth i fwy o lorïau ddefnyddio ffordd gyswllt newydd Morfa Berwick i osgoi canol y dref, ac o ganlyniad i'r systemau newydd i draffig lifo o gwmpas eglwys Santes Elli.

Fodd bynnag, erys un broblem fawr yn Stryd Rhosmaen yn Llandeilo, lle'r mae'r lefel yn cyrraedd 48.

Gelwir hyn yn "Effaith Ceunant", gyda'r adeiladau tal ar ddwy ochr y ffordd yn dal allyriadau'r lorïau. I wneud pethau'n waeth, nid yw'r lorïau, gan amlaf, yn gallu gyrru'n syth trwy'r dref; maen nhw'n stopio a chychwyn yn aml, sy'n gwaethygu lefel yr allyriadau.

"Yr hyn sydd o bryder i mi," dywedodd Cyng Thomas, "yw bod y llygredd gyn uwch na'r lefelau diogel, ac mae hynny wrth fesur y lefelau trwy osod synhwyryddion yn uchel ar y polion fel nad oes modd i fandaliaid eu cyrraedd. Mae'r plant sy'n cerdded i'r ddwy ysgol yn y dref yn llawer nes at y ffordd, ac felly'n nes at y llygredd. Mae wynebau plant bach ar yr un lefel a'r egsosts. Beth fydd effaith hyn ar eu hiechyd yn y blynyddoedd i ddod?"

"Yr unig ateb ydy ffordd osgoi o'r A40 i lawr i Lanelli neu'r M4. Mae Plaid wedi bod yn ymladd dros hyn ers i fi ymuno â'r cyngor. Ond pan ofynnon ni yn y cyfarfod, cawsom wybod fod y ffordd wedi'i hoedi eto, tan 2014 o leoaf. 'Dyw hyn ddim yn ddigon da. Rhaid i ni ymladd dros iechyd ein plant. I fi, mae'r ffordd hon yn flaenoriaeth ar sail Iechyd a Diogelwch."

7/09/2009

Mwy o doriadau yn y gyllideb addysg

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio'r ymadrodd "arbedion effeithlonrwydd" i guddio cyfres o doriadau i'r gyllideb addysg, yn ôl cynghorwyr Plaid Cymru. Mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu yn ddiweddar, cyflwynwyd rhestr o 'arbedion' i'w hystyried.

Dywedodd Cyng Dyfrig Thomas, a oedd yn y cyfarfod, ac a siaradodd yn erbyn y toriadau, "Mae disgrifio'r rhestr a gawsom fel 'arbedion' yn ddehongliad diddorol o'r gair, a dweud y lleiaf. Ymhlith yr 'arbedion' a gynigiwyd, y mae sôn am gwtogi ar y ddarpariaeth gwasaanaethau cerddoriaeth i ysgolion, a chodi tâl ar rieni am gludo'r plant i sesiynau ymarfer. Mae wedi bod yn gryfder gwasanaeth cerddoriaeth y sir ers blynyddoedd nad yw plant yn cael eu heithrio oherwydd y gost, ond dwi'n pryderu fod y cyngor am greu gwasanaeth dwy haen.

"Mae'r glymblaid Llafur/ Annibynnol sy'n rheoli'r sir hefyd yn ystyried cau canolfannau addysg gymunedol, a chodi'r gost o addysg gymunedol ac addysg i oedolion. Mae'r pecyn hwn, yn ei grynswth, yn newyddion drwg i'r sir a'i thrigolion."

Mynegodd Cyng Thomas ei bryderon hefyd am y sgôr a gafodd y gwasanaeth Cymraeg i Oedolion. "Ar adeg pan yr oedd y sgôr, 3, yn is nag y byddai neb yn dymuno gweld, dwi'n pryderu'n fawr am y toriadau arfaethedig yn y gwasanaeth addysg i oedolion."

7/06/2009

Plaid yn lansio deiseb yn Heol Awst

Lansiwyd deiseb fel rhan o'r ymgyrch i geisio dwyn perswâd ar y cyngor sir i newid ei benderfyniad i gyflwyno taliadau parcio yn Heol Awst. Mae'r ddeiseb wedi'i threfnu gan y pedwar cynghorydd sir o Blaid Cymru sy'n cynrychioli'r dref. Dywedodd Cyng Arwel Lloyd, sy'n arwain yr ymgyrch, "Tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf, roeddem ni wedi llwyddo i ddarbwyllo'r cyngor i ohirio cyflwyno'r taliadau hyn am flwyddyn, ond ni chytunodd y cyngor i wrthod y cynllun yn gyfangwbl. Oni bai ein bod yn gallu eu perswadio i newid eu meddyliau, cyflwynir y taliadau hyn y flwyddyn nesaf; felly mae ein hymgyrch yn parhau."

Bydd y ddeiseb ar gael mewn nifer o siopau yn Heol Awst ei hun, ac anogir y bobl sy'n defnyddio'r siopau hynny i ddangos eu cefnogaeth trwy lofnodi'r ddeiseb. Roedd cynghorwyr y Blaid hefyd yn tynnu sylw at brofiad trefi eraill. "Cafwyd adroddiad yn ddiweddar," dywedodd Cyng Lloyd, "am Billericay yn Swydd Essex. Penderfynodd y cyngor ddiddymu'r taliadau parcio, gyda'r canlyniad fod pobl wedi dychwelyd i'r Stryd Fawr i wneud eu siopa. Gall taliadau parcio wneud gwahaniaeth mawr i fywiogrwydd canol y dref. Mae hefyd yn werth nodi nad oes yr un siop ddi-ddefnydd yn Heol Awst ar hyn o bryd - sefyllfa bur wahanol i lawer o drefi eraill.

"Os ydym ni am gadw'r siopau sydd gyda ni yn Heol Awst, ar adeg economaidd wael iawn, mae'n rhaid i ni ymwrthod yn llwyr â chynllun y cyngor."

7/03/2009

Croeswu Argymhelliad y Cynulliad

Mae adroddiad gan Bwyllgor Iechyd, Lles, a Llywodraeth Leol y Cynulliad ar y broses craffu mewn cynghorau lleol wedi'i groesawu gan gynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr. Roedd y grŵp wedi cyflwyno tystiolaeth i'r pwyllgor wrth i'r pwyllgor ystyried y mater, ac roedd aelodau'r pwyllgor wedi ymweld â Sir Gâr i weld sut mae'r broses yn gweithredu ar lawr gwlad.

Yn eu tystiolaeth i'r Pwyllgor, roedd cynghorwyr y Blaid wedi gofyn am gydbwysedd wleidyddol wrth benodi cadeiryddion pwyllgorau craffu, ac mae'r Pwyllgor wedi mabwysiadu'r syniad yna fel un o'i argymhellion. Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, "Rydym wedi teimlo o'r cychwyn cyntaf nad yw'n iawn i'r cadeiryddion gael eu penodi gan y bobl maen nhw i fod craffu arnynt. Nid yw hyn yn rhoi digon o annibyniaeth 'r cadeiryddion yn ein tŷb ni.

"Roeddem wedi gofyn i'r Pwyllgor sicrhau fod penodi'r holl gadeiryddion yn digwydd yn gwbl annibynnol o arweinydd y cyngor, fel y gallan nhw wneud y gwaith craffu yn effeithiol. Nid yw'r pwyllgor wedi mynd mor bell â hynny, ond bydd cyfraith newydd i sicrhau cydbwysedd yn gam mawr ymlaen, ac yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu. Mae'n drueni mawr wrth gwrs i nodi taw'r unig ffordd o gael cydbwysedd a thegwch gan gynghorwyr 'Annibynnol' Sir Gâr yw trwy eu gorfodi trwy ddeddf."

6/30/2009

Croesawu llwyddiant ysgol

Mae'r newyddion fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ennill gwobr am waith a wnaed yn Ysgol Carwe wedi derbyn croeso cynnes gan y cynghorydd lleol, Tyssul Evans. Mae'r cynllun yn ymwneud â Llwybrau Diogel i'r ysgol, ac enillwyd y wobr yn y categori 'lleihau anafiadau i blant".

Dywedodd Cyng Evans o Blaid Cymru, sydd hefyd yn gadeirydd y Cyngor Sir eleni, "Dwi'n hynod o falch o glywed am y wobr hon am waith a wnaed mewn ysgol yn fy ward i. Mae cynllun Llwybrau Diogel yn gynllun pwysig; ac mae ennill gwobr yn dangos sut y gall hyd yn oed ysgol gymharol fach chwarae rhan mewn cynlluniau o'r fath. Llongyfarchiadau i bawb am hyn - ond yn arbennig, wrth gwrs , i staff a disgyblion yr ysgol."

6/29/2009

Plaid yn herio am dai fforddiadwy

Mewn cyfarfod o Gyngor Sir Caerfyrddin, heriwyd arweinwyr y cyngor gan arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, ar dai fforddiadwy. "Mae polisi'r cyngor yn dda iawn, ar y cyfan," dywedodd Cyng Hughes Griffiths, "ond mae gen i rywfaint o bryder nad ydym bob amser yn glynu ato. Pan fydd datblygwyr yn ceisio caniatad i adeiladu mwy o dai yn y sir, mae'r cyngor yn ceisio bob tro i gael cytundeb fod canran o'r tai yn dai fforddiadwy. Ymddengys ar adegau, fodd bynnag, ei bod yn rhy hawdd i'r datblygwyr ddod yn ôl i'r cyngor ar ôl derbyn caniatad, a newid y cytundeb - fel arfer er mwyn lleihau nifer y tai fforddiadwy.

"Y canlyniad yw bod y datblygiadau a welwn yn ein pentrefi a'n trefi'n methu â mynd yn ddigon pell i ddiwallu anghenion pobl leol. Mae'n fater anodd, oherwydd i swyddogion y cyngor ein rhybuddio'n glir fod yn rhaid i ni fod yn barod i drafod yn rhesymol, neu ynteu fod perygl o apêl gostus; a gallai'r cyngor golli'r fath apêl. I mi, mae hyn yn dangos fod gwendid yn y system cynllunio. Pan fydd y cyngor yn gwneud penderfyniad, dylem ddisgwyl gweithredu'r penderfyniad hwnnw."

Mynegodd Cyng John Edwards ei bryder yntau na fydd y cyngor yn cwrdd â'i dargedau ei hunan ar gyfer tai fforddiadwy ar sail y ffigyrau a gyflwynwyd i'r cyngor. Ychwanegodd, "Beth sydd ei angen yw system o gynllunio sy'n cychwyn trwy asesu'r anghenion lleol ac wedyn yn ymateb i'r anghenion hynny, yn hytrach na system lle mae datblygwyr yn ceisio adeiladu'r tai fydd yn creu'r elw mwyaf iddyn nhw. Dylid cynllunio ar sail angen."

6/24/2009

Dryswch ynghylch adeiladu tai

Yn sgil apêl gan gynghorydd Llafur y dylai'r llywodraeth fod yn annog Cyngor Sir Caerfyrddin i adeiladu mwy o dai, mae Plaid Cymru wedi ymateb trwy dynnu sylw at y ffaith taw'r Blaid Lafur sy'n rhwystro'r cyngor rhag gwneud hyn.

Dywedodd llefarydd Tai'r Blaid ar y Cyngor, y Cyng Joy Williams, "Dwi'n falch iawn o weld fod y cyngor yn ymddangos i fod yn unfrydol o blaid cael yr hawl i adeiladu mwy o dai cyngor. Gall hyn fod yn rhan bwysig o'n hymateb i'r galw am fwy o dai fforddiadwy yn ein cymunedau. Ymddengys fod pob grŵp ar y cyngor yn cytuno â hyn.

"Fodd bynnag, ymddengys nad yw'r Blaid Lafur yn deall taw rheolau'r Trysorlys yn Llundain sy'n ein rhwystro, nid Llywodraeth y Cynulliad. Canghellor y Trysorlys o'r Blaid Lafur sy'n gyfrifol am y sefyllfa hon."

6/22/2009

Rheoli'r traffig yn well trwy Lannon

Yn sgil sylwadau a wnaed gan Cynghorwyr Sir Plaid Cymru, Emlyn Dole a Phil Williams, mae'r Cyngor Sir wedi cytuno i ystyried cymryd camau i dawelu'r traffig ar y priffordd yr holl ffordd trwy Lannon. Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Cyng Emlyn Dole, "Mae'r ffordd hon yn syth iawn mewn mannau, a'r canlyniad yw fod gyrwyr yn gyrru'n gynt na'r cyfyngiad swyddogol. Mae hyn yn beryglus i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, yn arbennig plant. Gobeithio y bydd yr hyn a wneir gan y cyngor yn helpu sicrhau fod gyrwyr yn cadw at y cyfyngiad cyflymdra, ac y bydd hynny'n gwella diogelwch."

Ar hyn o bryd, nid oes penderfyniad pendant ar natur y camau sydd i'w cymryd. Mae'r ddau gynghorydd wedi trefnu sesiwn agored yn y pentref, lle bydd swyddogion y cyngor yn amlinellu eu cynlluniau, a byddant ar gael i glywed barn trigolion am y ffordd orau ymlaen.

Ychwanegodd Cyng Dole, "Dwi'n falch fod y cyngor sir mor fodlon gwrando ar y farn leol ar y mater hwn, ac yn edrych ymlaen at weithredu buan ar ôl i'r trigolion ddweud eu dweud."

6/18/2009

Goryrru trwy Lanllwni

Ysgol Llanllwni yw'r unig ysgol yn Sir Gâr lle na chyfyngir cyflymdra cerbydau i 30mya neu'n llai, yn ôl y cynghorydd sir lleol, Linda Davies Evans.

Mae'r cynghorydd, sy'n aelod o Blaid Cymru, yn gweithio gyda swyddogion y Cyngor Sir i geisio gostyngiad yn y cyflymder uchaf ac i ystyried camau eraill y gellir eu cymryd y tu allan i'r ysgol, a thrwy bentref Llanllwni yn gyffredinol, er mwyn gwella diogelwch.

"Mae Ysgol Llanllwni wrth ymyl y briffordd," meddai'r Cynghorydd Evans. "Rydyn ni i gyd yn gwybod yn iawn fod cyflymder yn cael effaith mawr ar ddififoldeb unrhyw anafiadau mewn damwain. Mae'r cyfyngiad yn 30 neu hyd yn oed 20mya y tu allan i bob ysgol arall yn y sir, ac mae'r galw am gyfyngiad o 20mya y tu allan i bob ysgol yn cynyddu. Ond yn fan hyn, y cyfyngiad yw 40mya. Mewn gwirionedd, mae hynny'n golygu fod y traffig yn gyrru heibio ar gyflymder o hyd at 50mya.

"Dwi'n gofyn i'r Cyngor Sir osod cyfyngiad is ar unwaith, ac hefyd i ystyried camau eraill y gellir eu cymryd i sicrhau fod gyrwyr yn cadw at y cyfyngiad newydd. Rhaid rhoi'r flaenoriaeth i ddiogelwch, yn arbennig diogelwch ein plant," dywedodd Cyng Evans.

6/08/2009

Pryderon am werth tai cyngor

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi mynegu eu pryder am yr oedi wrth roi pwerau newydd dros Dai i'r Cynulliad. Mae'r Cynulliad wedi gofyn am yr hawl i atal gwerthu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae prinder tai, ond mae ASau Llafur a Thorïaidd wedi bod yn cydweithio ers misoedd i rwystro'r Cynulliad rhag cael y pwerau hyn. Hyd yma, nid oes ateb i'r broblem, ond mae'r sefyllfa'n newid yn lleol yn y cyfamser.

Dywedodd Cyng Linda Davies Evans yr wythnos hon, "Mae Sir Gâr yn un o'r ychydig gynghorau yng Nghymru sydd wedi penderfynu cadw ei stoc o dai cyngor yn hytrach na'u trosglwyddo i asiantaeath allanol, a dwi'n cefnogi hynny'n gryf iawn. Nid hynny'n unig - mae'r cyngor hefyd yn buddsoddi'n sylweddol er mwyn gwella'r tai sydd yn ei feddiant.

"Y mae perygl, fodd bynnag, y gall hyn arwain at golli nifer o dai, gan y bydd y tai'n fwy deniadol i'w prynu. Dwi ddim yn awgrymu am eiliad na ddylem ni ddim gwella'r tai - wrth gwrs fe ddylem ni. Mae'n hanfodol fod y cyngor yn landlord da, ac yn darparu tai o safon i'w denantiaid. Ond mae hefyd angen i ni sicrhau fod y buddsoddiad yn helpu nid yn unig tenantiaid heddiw, ond hefyd tenantiaid y dyfodol, a bod tai ar gael i'n pobl ifanc."

Ychwanegodd llefarydd Tai y Blaid ar y Cyngor, Cyng Joy Williams, "Mae Llywodraeth Cymru'n Un wedi cydnabod y problemau a all godi, ac wedi gofyn am rymoedd newydd i sicrhau fod cynghorau'n gallu dal eu gafael ar dai ar ôl eu gwella. Mae'n hollol annerbyniol fod ASau Llafur a Cheidwadol yn tanseilio hyn yn y fath fodd; ac mae'n bosib eu bod nhw'n peryglu gallu'r cyngor i ddal i ddarparu cartrefi yn y dyfodol."

5/22/2009

Cyngor yn esgeuluso meysydd chwarae

Mae Cyngor Sir Gâr yn esgueluso offer chwarae a meysydd chwarae yn ôl un cynghorydd o Blaid Cymru. Mae Cyng Siân Thomas o Benygroes wedi beirniadu'r cyngor am gwtogi ar offer chwarae, ac am fethu â gwario er myn cynnal a chadw meysydd chwarae.

"Yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthym ni mewn cyfarfod diweddar," meddai Cyng Thomas, "fydd dim gwario o gwbl ar barciau chwarae plant yn y dyfodol. Mae'r glymblaid Llafur/ Annibynnol sy'n rheoli'r cyngor wedi penderfynu cau pob pwll padlo mewn blwyddyn, onibai fod y cynghorau cymuned lleol yn derbyn cyfrifoldeb amdanynt, ac os oes rhaid symud offer chwarae oherwydd problemau diogelwch, fydd dim offer newydd yn ei le. Cyn bo hir, bydd gyda ni nifer o barciau heb unrhyw offer o gwbwl i blant bach chwarae arnynt. Byddant yn mynd yno a fydd dim byd ond sgwarau lle bu gynt offer. Gyda gwyliau ysgol yr haf yn agosau mae hwn yn bryder mawr i mi. Y lle gorau i blant fod yw allan yn yr awyr agored."

Ymddengys na fydd dim gwario ar feysydd chwarae ychwaith. Dywedodd Cyng Thomas, "Mae'r Sir yn esgus eu bod yn poeni am gadw ein poblogaeth yn iach ac yn heini ond ar y llaw arall yn gwrthod gwario ceiniog ar gadw ein meysydd chwarae mewn cyflwr boddhaol. Fydd dim gwaith adfer na gwelliannau. Bydd ein meysydd ar gyfer chwaraeon megis rygbi yn dirywio. Does dim gobaith meithrin arwyr chwaraeon i'r dyfodol, a fydd y Sgarlets byth yn bencampwyr ar bopeth fel dylent fod yn eu cartref newydd heb dalentau newydd lleol i'w bwydo."

5/08/2009

Galw am well arwyddion i Barc y Scarlets

Mae diffygion gyda'r arwyddion o gwmpas Parc y Scarlets yn achos problemau traffig di-angen yn ôl y cynghorydd sir lleol, Cyng Meilyr Hughes.

Dywedodd Cyng Hughes, "Dwi wedi cael adroddiad o un digwyddiad lle stopiodd bws ger y cylchfan, gan adael i'r holl deithwyr adael y bws i gyrraedd y Stadiwm. Bu raid iddyn nhw atal y traffig a chroesi dwy ffordd brysur er mwyn cyrraedd. Dwi'n cael ar ddeall nad yma'r unig broblem a fu. Fe welwyd pobl eraill yn ceisio neidio dros y ffens o gwmpas y Parc Manwerthu, ac wedyn cerdded trwy draffig prysur er mwyn cyrraedd y Stadiwm.

"Dwi'n hollol argyhoeddiedig y byddai arwyddion cliriwch, sy'n dangos lleoliad meysydd parcio ceir a bysus, yn helpu atal y problemau hyn. Ond mae angen llwybrau diogel fel y gall pobl gerdded i'r Stadiwm hefyd, er mwyn gwella diogelwch cefnogwyr a'r traffig yn gyffredinol."

5/02/2009

Tystiolaeth ar gael ar-lein

Mae ymateb cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr i gynigion y Cyngor Sir am ad-drefnu addysg uwchradd yn ardaloedd Dinefwr a Gwendraeth bellach ar gael ar-lain yma.

4/30/2009

Galw am fuddsoddi yn ein rheilffyrdd

Mae dau gynghorydd Plaid Cymru wedi galw am fwy o fuddsoddi yn y rheilffyrdd sy'n gwasanaethau Sir Gâr.

Dywedodd Cyng Alan Speake, "Mae'r gwasanaeth i'r gorllewin o Abertawe yn wael iawn ar hyn o bryd. Yn aml iawn, mae'r trenau'n orlawn, ac mae llawer o'r trenau yn hen ac mewn cyflwr gwael. Mae angen buddsoddiad sylweddol - ar drenau ac ar y trac - er mwyn cynyddu capasiti'r system. Mae ansawdd gwael y gwasanaeth presennol yn golygu bod pobl yn dewis defnyddio eu ceir yn hytrach na'r rheilffordd; ond o safbwynt amgylcheddol, dylem fod yn annog pobl i adael eu ceir yn ôl a defnyddio'r tren."

Mae'r cynghorwyr wedi galw am fwy o gerbydau ar y trenau o Abertawe i'r gorllewin. Maen nhw hefyd wedi galw am ddeuoli'r trac lle nad oes ond un trac ar hyn o bryd, er mwyn caniatau i drenau redeg yn fwy aml yn y ddau gyfeiriad.

Dywedodd Cyng Linda Davies Evans, "O brofiad personol, diffyg lle yw'r broblem fwyaf. Mae angen mwy o gerbydau ar y trenau, fel bod modd i fwy o bobl deithio'n gyffyrddus. Dwi'n amau weithiau sut maen nhw'n cael cario cymaint o bobl mewn cyn lleied o le heb dorri rheolau Iechyd a Diogelwch. Mae'n waeth pan fydd digwyddiad mawr, megis gem rygbi. Maen nhw'n addo darparu mwy o le, ond ymddengys i mi nad yw hynny byth yn digwydd mewn gwirionedd."

4/29/2009

Colli cyfle i ddiogelu meysydd chwarae

Mae Cyngor Sir Gâr wedi colli cyfle i ddiogelu meysydd chwarae yn ôl dau gynghorydd Plaid Cymru. Yn ei gyfarfod diwethaf, penderfynodd y cyngor dderbyn cymhelliad y Bwrdd Gweithredol na ddylid cefnogi cyfraith newydd y mae Dai Lloyd AC yn ceisio ei hyrwyddo yn y Cynulliad. Byddai Mesur Mr Lloyd yn ei gwneud yn anos gwerthu maes chwarae trwy fynnu ystyriaeth lawn o'r effaith ar y gymuned leol yn gyntaf. Teimlodd Bwrdd Gweithredol y cyngor fod y sefyllfa bresennol yn ddigonol i ddiogelu meysydd chwarae, ac nid oes angen gwneud mwy. Fodd bynnag, fe heriwyd hyn yn gryf gan gynghorwyr Plaid Cymru yng nghyfarfod y cyngor.

Tynnodd y Cyng Siân Thomas sylw at y ffaith yr oedd y maes chwarae ym Mharc Penygroes dan fygythiad oherwydd penderfyniad gan Bwyllgor Cynllunio'r cyngor ei hunan. "Ni fydd meysydd chwarae'n ddiogel," meddai, "tra bod y Pwyllgor Cynullion'n gallu caniatau adeiladu ar ein parciau."

Cafodd hi gefnogaeth gan y Cyng Emlyn Dole, a ddywedodd, "Mae offer chwarae yn fy ward i wedi diflannu, a 'sdim byd wedi'i wneud i ddarparu offer newydd. Nid oedd unrhyw ymgynghori o gwbl. Dwi ddim yn deall sut y gall neb ddweud fod y parciau yn ddigon diogel ar hyn o bryd."

4/27/2009

Beirniadu cylchlythyr y cyngor

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi ymosod unwaith eto ar y cyngor am gyhoeddi ei bapur newydd ei hunan. Dosbarthwyd y rhifyn ddiwethaf yn y cyfnod cyn y Pasg, ond, yn ôl y Blaid, nid yw'n llawer mwy na thaflen propaganda ar ran y grwpiau sy'n rhedeg y cyngor.

Dywedodd Cyng Dyfrig Thomas, diprwy arweinydd grŵp y Blaid, "Un o'r rhesymau a roddwyd gan y cyngor am gyhoeddi'r daflen oedd bod hyn yn ffordd rhad o hysbysebu swyddi gyda'r cyngor. Ond nid oes ond un hysbysebiad yn y rhifyn ddiwethaf, er bod hyn yn cyfeirio at ddwy swydd wahanol, ac mae'n gwbl hurt i ddweud fod cyhoeddi papur newydd 36 o dudalennau yn ffordd gost-effeithiol o hysbysebu dwy swydd! Ar ben hynny, mae gan y dudalen ganol, sy'n rhestru aelodau'r cyngor sir, gymaint o gamgymeriadau fel ei bod bron yn ddi-werth i'r cyhoedd. Ymddengys nad yw'r sawl sy'n gyfrifol am y cyhoeddiad ddim yn gwybod pwy yw rhai o'r cynghorwyr, beth yw enwau rhai ohonynt, a pha wardiau maen nhw'n eu cynrychioli."

Bu Cyng Thomas hefyd yn beirnadu'n llym rhai o'r datganiadau yn y papur am y ffordd y rheolir y cyngor, gan ddweud, "Byddai'r sawl sy'n darllen yr erthygl yn credu fod y cyngor i gyd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau. Mae hynny'n hollol anwir. Y realiti yw taw dim ond y deg aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd ag unrhyw ddylanwad ar benderfyniadau'r Cyngor.

"Yn olaf oll," dywedodd Cyng Thomas, "nid yw'r papur - a ddosbarthwyd yn fuan cyn y Pasg - ddim hyd yn oed yn cynnwys manylion o gasgliadau sbwriel dros gyfnod yr Ŵyl Fanc. Dyna wybodaeth a fyddai o ddefnydd i'r cyhoedd, ond 'sdim sôn am y peth. Ni allaf ond ail-adrodd yr hyn yr ydym wedi'i ddweud o'r blaen - dylai'r cyngor roi'r gorau i gyhoeddi'r propaganda hwn, gan ddefnyddio'r arian ar wasanaethau'r cyngor."

4/22/2009

Ysgol newydd "yn y lle anghywir"

Mae Cyngor Sir Gâr yn bwriadu adeiladu ysgol newydd Glanymôr yn y lle anghywir, yn ôl Cyng Winston Lemon, sy'n cynrychioli'r ward dros Blaid Cymru. Mae Cyng Lemon wedi cwrdd â swyddogion y cyngor a grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y mater i drafod yr ysgol. Mae'r Cyngor Sir yn bwriadu adeiladu'r ysgol ar Barc y Goron.

Dywedodd Cyng Lemon yr wythnos hon, "Mae'r parc hwn yn adnodd gwerthfawr iawn i'r gymuned leol, ond fe gollwn ni fe os yw'r cynllun hwn yn mynd yn ei flaen. Byddem ni'n colli'r pwll padlo, hefyd. Dwi wedi siarad â llawer iawn o drigolion yr ardal, ac maen nhw i gyd wedi dweud wrthyf y byddai'n well ganddyn nhw weld yr ysgol yn cael ei hadeiladu ar safle Draka yn lle. Byddai'n lleoliad cystal o ran anghenion yr ysgol, ac mae'n osgoi adeiladu ar safle 'gwyrdd'. Byddai hefyd yn golygu fod y gymuned yn cadw'r parc."

Tynnodd Cyng Lemon sylw hefyd at oblygiadau'r cynllun o ran traffic a diogelwch. "O roi'r ysgol yn fan hyn, ni fydd modd osgoi mwy o draffig yn yr ardal, a dwi'n pryderu am ddiogelwch y trigolion. Dwi ddim yn credu y gall y ffyrdd lleol ymdopi gyda'r cynnig hwn."

4/17/2009

Banciau heb wneud digon

Er i'r trethdalwr roi biliynau o bunnoedd i'r banciau i'w hachub, maen nhw'n dal i fethu â rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i gadw busnesau'n mynd, yn ôl Plaid Cymru yn Sir Gâr. Mae Cyng David Jenkins, llefarydd Cyllid y Blaid ar y Cyngor Sir wedi croesawu'r hyn mae'r cyngor yn ei wneud i geisio cefnogi busnesau lleol yn ystod y dirwasgiad, ond mae hefyd wedi beirniadu'r banciau am beidio â gwneud digon.

"Rydym ni'r trethdalwyr wedi rhoi biliynau o bunnoedd i'r banciau er mwyn eu hachub," dywedodd Cyng Jenkins, "ond ymddengys eu bod yn dal heb ddarparu'r credyd sydd ei angen i gadw busnesau lleol yn fyw. Y mae nifer fawr o fusnesau lleol sy'n gynaliadwy yn y tymor hir, ond sy'n dioddef anawsterau tymor byr, ond ymddengys fod y banciau'n anfodlon iawn eu helpu."

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi cymeradwyo adroddiad sy'n amlygu nifer o gamau y bydd y cyngor yn eu cymryd i gynnig cefnogaeth i fusnesau lleol, gan gynnwys benthyciadau tymor byr, a gohirio taliadau treth a rhent. Dywedodd Cyng Jenkins ei fod yn croesawu'r cynigion hyn, ac yn cefnogi ymdrechion y cyngor i helpu. Roedd ganddo air o rybudd hefyd, fodd bynnag, gan ddweud, "Mae perygl y bydd y Cyngor Sir mewn sefyllfa lle mae'n rhoi benthyciasdau ar lefel uchel o risg, lle mae'r banciau eisoes wedi gwrthod helpu. Credaf fod y cyngor yn iawn i wneud hyn, o dan yr amgylchiadau presennol, gan fod gweithredu felly yn well i drigolion y sir na gadael i fusnesau fethu. Ond wir, ni ddylai fod angen i'r cyngor sir ymgymryd â gwaith y banciau. Dylai'r llywodraeth ganolog wneud mwy i sicrhau fod y banciau'n gwasanaethu anghenion ein heconomi."

4/16/2009

Gollwng y gath o'r cwd

Yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 8fed Ebrill, datganodd Arweinydd y Cyngor fod gan y Grŵp Annibynnol 'bleidlais rydd' ar fater cynyddu lwfansau aelodau. Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Cyng Gwyn Hopkins (Plaid), "Trwy wneud hyn, mae hi yn amlwg yn cyfaddef nad oes dim 'pleidlais rydd' fel arfer! Mae'n amlwg fod disgwyl i'r aelodau 'Annibynnol' ddilyn lein yr arweinydd, yn yr un modd â phetasen nhw'n aelodau o blaid wleidyddol arall. Maen nhw'n gorfod pleidleisio gyda'i gilydd, yn unol â chyfarwyddyd yr arweinydd.

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cyngor wedi cofnodi sut mae pob aelod yn pleidleisio ar bedair adeg, ac ym mhob achos (ac eithrio'r ail bleidlais, pan fu i dri aelod ymatal rhag pleidleisio), mae'r holl aelodau 'Annibynnol' a oedd yn bresennol wedi pleidleisio en bloc gyda'i gilydd. Mae hyn yn dangos yn glir fod yr aelodau hyn ymhell o fod yn 'Annibynnol'. Mae'r geiriadur yn dweud fod 'annibynnol' yn golygu nad ydynt dan ddylanwad neu reolaeth neb arall. Ond y gwir yw taw'r unig adeg y cân nhw unrhyw ryddid o gwbl yw pan fydd yr arweinydd yn dweud wrthynt. Dylai etholwyr felly fod yn wyliadwrus o unrhyw berson sy'n ei ddisgrifio ei hunan fel cynghorydd neu ymgeisydd 'annibynnol' neu 'anwleidyddol'. Ar sail y dystiolaeth, mae'r fath ddigrifiad yn aml iawn yn gwbl ffug."

4/10/2009

Cyngor yn chwarae gyda'r rheolau

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi beirniadu'r weinyddiaeth Plaid Lafur / Plaid Annibynnol am chwarae gemau gyda chyfansoddiad y cyngor. Yng nghyfarfod y Cyngor ar 6ed Mawrth, cynigiodd grŵp y Blaid y dylid cynnal arolwg o'r galw am addysg Gymraeg cyn symud i ail-drefnu ysgolion uwchradd y sir. Mewn ymateb, roedd y grwpiau sy'n rheoli'r cyngor wedi cynnig gwelliant a ddileodd bob gair o gynnig y Blaid, gan adael cynnig na chyfeiriodd at arolwg o gwbl.

Bu i'r Cyng Gwyn Hopkins ymosod yn gryf ar y cyngor am hyn. "Os nad oedden nhw'n hoffi'n cynnig, roedd ganddyn nhw berffaith hawl i bleidleisio yn ei erbyn," meddai. "Mae ganddyn nhw fwyafrif, ac mae hynny'n golygu y gallan nhw bleidleisio yn erbyn unrhyw beth yr ydym ni'n ei gynnig. Mae nhw bob tro yn gwneud hynny. Ond mae cyflwyno cynnig cwbl wahanol a'i alw'n welliant yn groes i unrhyw drefn trafod arferol, ac yn bendant yn groes i ysbryd rheolau sefydlog y cyngor. Mae hyn ond yn chwarae gemau gyda rheolau'r cyngor."

4/03/2009

Buddsoddiad yn Sir Gâr yn cael ei groesawu

Mae cyhoeddiad gan Lywodraeth y Cynulliad ei bod yn buddsoddi'n sylweddol mewn cynlluniau trafnidiaeth yn y sir wedi'i groesawu gan gynghorwyr Plaid Cymru yn y sir. Dywedodd Cyng Siân Thomas, llefarydd y Blaid ar Drafnidiaeth ar y Cyngor Sir, "Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi bod cyllid o £1.7 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau pwysig yn Sr Gâr. Mae hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn isadeiladd trafnidiaeth y sir, ac yn dangos ymrwymiad llywodraeth Cymru'n Un i weithio gydag awdurdodau lleol er lles y gymuned."

Mae'r pecyn o wariant a gyhoeddwyd gan Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru yn cynnwys ffordd gyswllt Gogledd Caerfyrddin a Cheredigion, sy'n derbyn £200,000 a Chyfnod Un o'r gwaith ar y ffordd ddosbarthu newydd yn Rhydaman, sy'n derbyn £600,000. Ar ben hynny, mae Llwybr Beicio Dyffryn Aman yn derbyn £350,000, mae £100,000 yn mynd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol ein trefi, ac mae £52,000 yn mynd ar gynllun i wella hygyrchedd i drafnidiaeth. Ac mae Prosiect 'Llwybrau Diogel' Yn Nafen / Felinfoel yn derbyn grant o £388,000.

Ychwanegodd Cyng Thomas fod y cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn gynllun arbennig o bwysig. Dywedodd, "Mae'r cynllun yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun blaenorol, 'Llwybrau Diogel i'r Ysgol', ac yn anelu at ddarparu llwybrau cerdded a beicio diogel mewn cymunedua sy'n hwyluso cyrraedd cyfleusterau eraill mwgis canolfannau hamdden, parciau, ysbytai a chanolfannau gofal."

4/01/2009

Blwch ffôn yn ail-ymddangos

Mae'r ymgyrch i adfer y blwch ffôn yn Llanfhangel-ar-arth wedi llwyddo. Dinistriwyd y blwch gan gerbyd, ac wedyn aeth BT â'r blwch i ffwrdd, gan ddweud nad oedden nhw'n bwriadu ei roi yn ei ôl. Gwrthododd trigolion lleol dderbyn y penderfyniad hwn, gan dynnu sylw at yr angen yn y pentref am y ffôn hwn.

Bu Cyng Plaid Cymru lleol, Linda Davies Evans, yn brwydro ar ran y pentrefwyr gan lobïo BT a chyflwyno deiseb i'r cwmni. Mae BT bellach wedi ildio, ac mae'r blwch yn ôl yn ei le. Dywedodd Cyng Evans, "dwi'n falch iawn fod BT wedi bod yn barod i wrando ar lais y bobl ar y mater hwn, a bod synnwyr cyffredin wedi ennill. Mae'n dangos y gall ymgyrch cymunedol wneud gwahaniaeth."

3/26/2009

Dryswch ynghylch offer chwarae

Mae diffyg cyfleusterau i blant yn ardal Llwynhendy, ac mae anghydfod rhwng y Cyngor Sir a'r cwmni a oedd yn gyfrifiol am ddatblygiad Pemberton yn drysu'r sefyllfa, yn ôl Meilyr Hughes, cynghorydd Plaid Cymru am yr ardal. Roedd arfer bod ramp bwrdd sglefrolio a seddau ar y safle cyn y datblygiad, ond maen nhw wedi diflannu ers dros flwyddyn heb gael dim byd yn eu lle.

Mae Cyng Hughes wedi bod wrthi'n ceisio datrys y broblem, a dywedodd yr wythnos hon, "Rydyn ni'n cael dwy stori hollol wahanol - un gan Costain a'r llall gan y Cyngor Sir. Yn ôl Costain, fe dynnon nhw'r offer ar gais y cyngor sir, gan eu cadw'n saff i'r cyngor eu casglu. Cymerodd y Cyngor sir ymron i flwyddyn cyn dod amdanynt, ac wedyn aethan nhw â'r ramp yn unig, gan adael y seddau.

"Fodd bynnag, yn ôl y cyngor, gwrthododd y datblygwyr ryddhau'r offer i'r cyngor. Ni all y ddwy stori hon ill dwy fod yn wir, ond y canlyniad yw fod y ddwy ochr yn dewud taw'r llall sy'n gyfrifol, a'r llall ddylai dalu iawndal neu ddarparu offer newydd."

Dywedodd Cyng Hughes nad oedd yn pryderu gormod am bwy sydd ar fai na phwy sy'n dweud y gwir. Ei brif bryder e yw cael offer yn ôl yn yr ardal ar gyfer y plant. "Y plant sydd ar eu colled," dywedodd. "Mae'n iawn i'r oedolion ddadlau am hyn, ond y plant sydd heb offer chwarae ers dros flwyddyn. Bydda i'n dal i bwyso am ddatrys y broblem hon mor fuan ag sy'n bosibl."

3/17/2009

Llundain yn rhywstro codi tai

Mae llywodraeth Llundain yn rhwystro cyngorau Cymru rhag codi mwy o dai cyngor, yn ôl Plaid Cymru. Ond mae cynghorwyr y Blaid yn Sir Gâr yn galw am newid y polisi, fel bod modd i gynghorau ddechrau adeiladu tai eto. Dywedodd Cyng John Edwards, llefarydd Plaid Cymru ar Dai ar y cyngor, "Mae'r rheolau sy'n clymu cynghorau yn wahanol i'r rheolau sy'n ddilys ar gyfer cymdeithasau tai. Yr effaith yw ei bod yn fwy cost-effeithiol rhoi grantiau tai cymdeithasol i gymdeithasau tai nag i gynghorau. Mae hyn, yn ei dro, yn atal cynghorau rhag adeiladu tai.

"Mae Prif Weinidog y DU wedi sôn yn ddiweddar am annog cynghorau i adeiladu mwy o dai, a buaswn i'n croesawu'r cyfle. Byddai'n helpu ni i gwrdd ag anghenion tai lleol, a hefyd hyrwyddo'r economi lleol. Ond, ar hyn o bryd, y rheolau a osodwyd i lawr gan lywodraeth Llundain sy'n ein rhwystro ni. Ac rydyn ni i gyd yn gwybod pwy oedd yn Ganghellor y Trysorlys am y rhan fwyaf o'r 12 mlynedd ddiwethaf."

3/16/2009

Y Blaid yn cyflwyno cynllun amgen

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi cyhoeddi eu hymateb i gynigion y cyngor sir am ddiwygio addysg uwchradd yn y sir. Dywedodd arweinydd y grŵp, Cyng Peter Hughes Griffiths, ei fod wedi cyflwyno copi yn ffurfiol i'r Cyfarwyddydd Addysg. Gan ymwrthod yn llwyr â dull gweithredu'r cyngor, mae'r grŵp wedi galw am atal beth mae'n nhw'n ei ddisgrifio fel proses sylfaenol ddiffygiol.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, "Ymddengys fod y cyngor yn benderfynol o ruthro ymlaen gyda chynllun sy'n anwybyddu elfennau allweddol o'r cyngor a roddwyd iddyn nhw gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn benodol, gofynnwyd iddyn nhw baratoi cynllun ar gyfer y sir gyfan, ond maen nhw wedi paratoi cynllun am ran o'r sir yn unig; gofynnwyd iddynt ystyried trefniadau traws-ffiniol posib, ond maent wedi dewis peidio; a gofynnwyd iddynt ystyried pob partner posib megis Coleg Sir Gâr, ond eto, maent wedi dewid peidio. Ar ben hynny i gyd, maent wedi anwybyddu eu cynllun addysg Gymraeg eu hunain, ac wedi gwrthod aros am i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi strategaeth ar fater addysg Gymraeg. Maen nhw hyd yn oed wedi gwrthod cynnal arolwg i asesu gwir lefel y galw am addysg Gymraeg.

"Rhwng popeth, maen nhw wedi paratoi cynllun ar frys, heb feddwl trwy'r goblygiadau, ac mae'r cynllun yn ddiffygiol iawn. Maent wedi achosi cryn dipyn o bryder yn ddi-angen trwy gydol yr ardal, ac wedi cyhoeddi opsiynau sy'n annerbyniol i lawer ianw o rieni. Ni allwn gefnogi'r cynlluniau fel y maent, ac rydym wedi annog y cyngor sir i atal y broses hon yn syth, a pharatoi cynllun cynhwysfawr, ar sail ymgynghoriad ystyrlon gyda phawb sydd â diddordeb yn y mater.

"Mae'n hollol annerbyniol i adael ardal fel Llanymddyfri i fod yn rhyw fath o 'anialwch addysgol' ar lefel uwchradd, fel ymddengys yw bwriad y cyngor. Ac mae gadael ardal Dinefwr heb unrhyw ddarpariaeth uwchradd gyfrwng Gymraeg yn anywybyddu natur iethyddol yr ardal a'i hanes. Hyd yn oed lle maent wedi ceisio diogelu ac ehangu darpariaeth gyfrwng Gymraeg, megis yng Nghwm Gwendraeth, mae eu cynllun yn methu â mynd i'r afael â'r problemau sy'n codi wrth geisio darparu ar gyfer y cannoedd o blant sydd ar hyn o bryd yn derbyn eu haddys yn bennaf neu'n gyfangwbl trwy gyfrwng y Saesneg yn yr ardal. Maen nhw wedi llwyddo i greu sefyllfa, trwy ruthro, lle maent wedi llwyddo i blesio bron neb."

Fe wnaeth cynghorwyr y Blaid gynnal cyfres o gyfarfodydd ymgynghori eu hunain ar y mater. Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, "Yn wahanol i'r cyngor, ni aethom ni i'r cyfarfodydd gyda chyfres o opsiynau i gyfyngu ar y drafodaeth. Aethom ni gyda meddyliau agored - i wrando, nid i siarad. Roedd pobl yn agored, ac yn barod i drafod, ond nid ydynt yn hoffi sefyllfa lle'r mae'r cyngor yn gorfodi 'fait accompli' arnynt. Hyd yn oed yn awr, rydym yn annog y cyngor i ail-feddwl, a llunio cynllun sy'n ystyried pob agwedd o'r mater ar draws y sir, yn hytrach na rhai materion yn unig mewn rhan yn unig o'r sir."

3/12/2009

Galw am weithredu sydyn ar welyau haul

"Dylid tynnu'r gwelyau haul o Ganolfannau Hamdden Sir Gaerfyrddin yn syth", ddywedodd un cynghorydd yr wythnos hon. Mae Cyng Gareth Jones, Llefarydd Hamdden Plaid Cymru ar y cyngor, wedi dweud fod ganddo bryderon mawr ar ol clywed fod Sir Gâr yn un o ddim ond pedwar cyngor yng Ngymru sy'n dal i ganiatau defnyddio'r gwelyau yn eu canolfannau, er gwaethaf digwyddiadau diweddar.

Mae'r cyngor sir wedi addo tynnu'r gwleyau o'r canolfannau yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond dywedodd Cyng Jones nad yw hyn ddim yn ddigon cyflym. "Mae perygl y gwelyau hyn yn gwbl amlwg bellach," meddai, "fel y dangoswyd yn ddiweddar yn y Barri. Dwi am i'r cyngor atal gweithredu'r gwelyau hyn ar unwaith, a dwi hefyd yn gofyn am adroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu."

3/11/2009

Y Blaid yn erbyn codi'r dreth

Yng nghyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos ddiwethaf, ceisiodd grŵp y Blaid atal codi’r dreth gyngor o fwy na chwyddiant eleni. Roedd y glymblaid rhwng y pleidiau Llafur ac Annibynnol sy’n rhedeg y cyngor wedi cynnig codi’r dreth o 3.3%, er bod disgwyl i chwyddiant gwympo i sero neu lai yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd Arweinydd grŵp y Blaid, Cyng. Peter Hughes Griffiths, “Mae’r sefyllfa economaidd bresennol yn gwbl eithriadol. Ymddengys nad dim ond dirwasgiad o’r math a welwn o bryd i’w gilydd yw hyn, ond rhywbeth llawer gwaeth. Ar hyn o bryd, does neb yn gwybod pa mor ddwfn fydd e, neu am faint fydd e’n para. O dan y fath amgylchiadau, mae ond yn iawn i’r cyngor fod yn gweithredu mewn ffordd eithriadol i ymateb i’r argyfwng, ac felly roeddwn i a fy ngrŵp wedi dadlau y dylem anelu - am eleni yn unig - i gadw’r codiad mor agos at sero ag sy’n bosib. Cynigion ni nifer o syniadau er mwyn cyflawni hynny, ond yn anffodus, doedd y glymblaid ddim yn fodlon gwrando ar ein dadleuon.”

Un awgrym a wnaed gan y grŵp oedd cyfrif y grantiau ychwanegol a ddisgwylir gan Lywodraeth y Cynulliad - cyfanswm o ryw £1.9 miliwn. Dywedodd Cyng. Gwyneth Thomas, “Mae’r Cyngor wedi derbyn gwybodaeth y bydd yn derbyn grant ychwanegol, ond mae wedi dewis anwybyddu’r arian hyn yn gyfan gwbl wrth lunio’r gyllideb. Mae angen cwrdd â rhai amodau cyn derbyn yr arian, ac mae’n bosib y bydd rhai costau bach er mwyn cwrdd â’r amodau hynny. Ond dwi’n hyderus y bydd y rhan fwyaf o’r arian hwn ar gael i’r cyngor. Hyd yn oed os nad oedden nhw ond yn cyfrif hanner o’r arian, byddai gyda nhw ddigon i dorri’r codiad treth yn sylweddol. Yn lle gwneud hynny, ymddengys eu bod nhw am anwybyddu’r arian yn llwyr, gan ofyn i’r trethdalwyr dalu mwy.

Roedd Cyng. David Jenkins wedi tynnu sylw at lwyddiant y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf yn arbed arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau. Nododd fod y cyngor wedi cyrraedd ei darged ynghynt na’r disgwyl, ac yn dal i wella ei berfformiad. Dywedodd Cyng. Jenkins, “Nid yw’r arbedion ychwanegol hyn wedi’u cynnwys yn y gyllideb a roddwyd ger ein bron, ond mae’r cyngor yn gwybod yn iawn y bydd yn gallu gwireddu’r arbedion hyn. Dylai’r arbedion hyn gael eu pasio ymlaen i’r trethdalwyr trwy leihau’r dreth gyngor, eleni o bob blwyddyn. Bydd costau’n dal i ostwng yn ystod y flwyddyn sy’n dod, ond mae cyllideb y cyngor yn anwybyddu hynny er mwyn cyfiawnhau codiad uwch na’r angen yn y dreth gyngor.”

Gwaeth y grŵp apêl munud-olaf i Fwrdd Gweithredol y Cyngor i ail-feddwl ei gynnig, ac i roi ystyriaeth briodol i’r pwyntiau a wnaed gan y Blaid. Dywedodd Cyng. Hughes Griffiths ar ôl y cyfarfod, “Credaf i ni roi dadl resymol a synhwyrol i’r cyngor, ond bod aelodau Llafur ac Annibynnol wedi penderfynu anwybyddu’r pwyntiau a wnaethom ni. Roedd yn glir o rai o’r sylwadau a wnaed gan rai aelodau’r glymblaid eu bod wedi gwneud y penderfyniad yn barod ac nad ydynt yn deall y pwysau ariannol y bydd pobl gyffredin yn eu hwynebu yn ystod y flwyddyn sy’n dod.”

3/03/2009

Diffyg Democratiaeth

Mae Cyngor Sir Gâr wedi'i gyhuddo o ymddygiad annemocrataidd gan gynghorydd Plaid Cymru ar ôl i'r Bwrdd Gweithredol anwybyddu cais am fwy o wybodaeth gan un o'i Bwyllgorau Craffu. Roedd Cabinet y Cyngor wedi cynnig cau'r bwyty yn Neuadd y Sir oherwydd colledion ariannol. Ond, pan cafodd y mater ei drafod gan y Pwyllgor Craffu, penderfynodd y Pwyllgor ofyn am fwy o wybodaeth yn gyntaf, gan gynnwys opsiynau eraill, megis gwell cyhoeddusrwydd am y gwasanaeth.

Dywedodd Cyng Gwyneth Thomas, "Roedd mwyafrif clir yn y Pwyllgor Craffu o blaid oedi tra bod opsiynau eraill yn cael eu hystyried. Ond, ar ôl y cyfarfod, fe ddarganfuwyd fod y Bwrdd Gweithredol, heb aros am sylwadau'r Pwyllgor Craffu na neb arall, wedi rhuthro i roi rhybudd diswyddo i'r staff. Mae'r dull anneomcrataidd hwn o weithredu'n tanseilio'r holl broses craffu, ac yn amlygu sut mae'r glymblaid rhwng y Blaid Lafur a'r Blaid Annibynnol yn credu y gallant ddiystyru urhyw wrthwynebiad."

3/01/2009

Mae angen y swyddi'n gyntaf

Yng nghyfarfod diweddar o Gyngor Sir Gâr, mynegodd Cyng Mari Dafis, Plaid Cymru, ei phryderon yngylch strategaeth y llywodraeth ar gyfer hyfforddi pobl. Roedd Cyng Dafis yn dadlau nad ydym yn gwybod pryd mae swyddi’n cyrraedd na pha fath o swyddi, ac felly fod perygl ein bod yn darparu’r hyfforddiant anghywir – neu hyd yn oed fod angen ail-wneud yr hyfforddi os oedd gormod o oedi cyn ei defnyddio.

Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Cyng Dafis, “Dwi’n croesawu’n fawr y ffordd mae’r llywodraeth yn ehangu’r Cynllun Prentisiaeth Fodern, er enghraifft. A dwi’n falch iawn fod y Cyngor Sir yn ymdrechu i wneud mwy o ddefnydd o’r Cynllun. Ond, onibai fod sicrwydd y daw swyddi parhaol ar ôl y cyfnod hyfforddi, y mae perygl fod y fath gynllun ond yn cuddio gwir lefel diweithdra.

“Gall y bobl ifanc sy’n dysgu’r sgiliau hyn fynd yn rhwystredig iawn os na allan nhw byth arfer y sgiliau. Mae bron cynddrwg iddynt orffen eu hyfforddiant, ac wedyn gorfod ei ail-wneud gan fod cymaint o amser yn pasio cyn iddynt gael swyddi.”

2/23/2009

Dal i frwydro ar addysg

Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr wedi beirniadu unwaith yn rhagor agwedd y cyngor tuag at ail-drefnu ysgolion uwchradd yn ardaloedd Gwendraeth a Dinefwr. Er i’r Gweinidog Addysg roi sicrwydd clir fod y manylion yn fater i’r Cyngor Sir yn unig, mae arweinwyr y cyngor yn dal i honni eu bod yn dilyn cyfarwyddiadau a roddwyd iddynt gan Lywodraeth y Cynulliad.

Dywedodd Cyng John Edwards, “Allaf i ddim deall paham fod y Cyngor Sir yn rhuthro ymlaen gyda newidiadau mewn un ardal yn unig. Mae’n gwbl amlwg y bydd newidiadau mewn un ardal yn effeithio ar ardaloedd eraill, ac mae’n hurt i beidio ag ystyried y goblygiadau i’r sir gyfan. Dim ond trwy wneud hynny y gallwn sicrhau ein bod yn gweithredu yn y modd gorau i’r sir gyfan.”

Dywedodd arweinydd grŵp y Blaid yr oedd yn sioc iddo fe glywed rhai o’r sylwadau a wnaed, ymddengys, gan swyddogion y llywodraeth yng Nghaerdydd. “Dywedwyd wrth y cyngor,” meddai Cyng Peter Hughes Griffiths, “y gall y cyngor golli arian onibai ein bod yn rhuthro ymlaen fel hyn, oherwydd fod y llywodraeth yn rhoi arian i’r rhai sydd gyntaf i’r felin. Allaf i ddim credu y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn penderfynu ei strategaeth ar gyfer buddsoddi mewn addysg ar sail pwy sydd gyntaf i gyflwyno cynlluniau, gan adael dim byd ar ôl i’r cynghorau olaf, a diystyru anghenion. Mae hynny’n ffordd gwbl annerbyniol o rannu cyllid.”

2/19/2009

Cynghorwyr yn helpu busnesau

Cafodd grŵp o bobl sydd â busnesau yn Heol Awst gyfarfod â phedwar cynghorydd sir y Blaid sy’n cynrychioli Tref Caerfyrddin i drafod y newidiadau arfaethedig i drefniadau parcio yn Heol Awst. Trefnwyd y cyfarfod gan Gyng. Arwel Lloyd, Ward y De yn sgil pryderon a fynegwyd gan fasnachwyr ynghylch cynlluniau’r cyngor. Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Cyng Lloyd, “Y brif neges a gefais i oedd fod y trefniadau presennol yn gweithio’n dda, nid oes unrhyw broblem, ac nid oes angen newid. Ymddengys taw’r unig reswm sydd gan y Cyngor dros newid y drefn yw ymgais i gynyddu incwm y Cyngor. Ond ymddengys i mi nad ydynt hyd yn oed wedi ystyried y gall cau un busnes o ganlyniad i’r cynllun arwain at fwy o golled o ran trethi busnes nag unrhyw incwm a ddaw o’r taliadau parcio.”

Mae cynlluniau’r cyngor sir, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol y llynedd, yn cynnwys cyflwyno tâl am barcio ar hyd Heol Awst. Ar hyn o bryd, caiff bobl parcio am amser cyfyngedig yn unig, ond nid oes dim tâl. Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu symud y safle tacsi i ddefnyddio rhan o’r arosfan bws. Y bwriad oedd cyflwyno’r newidiadau ar 1af Ionawr eleni, ond yn sgil ymgyrch gan Blaid Cymru ac eraill, cytunodd y Bwrdd Gweithredol i ohirio’r cynllun am flwyddyn.

Ychwanegodd Cyng Lloyd, “Fel mae pethau ar hyn o bryd, mae’r cynllun ond wedi cael ei ohirio, nid ei atal. Mae busnesau yn Heol Awst wedi bod yn dioddef yn ddiweddar am nifer o resymau. Nid yw’r diffyg parcio dros dro oherwydd y datblygiadau newydd ddim wedi helpu. Gyda’r dirwasgiad hefyd, mae llawer o fusnesau’n teimlo eu bod yn gweithredu ar yr ymylon o safbwynt ariannol, a gall unrhyw newid sy’n lleihau eu hincwm beri iddynt gau. Y mae perygl y bydd cynlluniau’r cyngor yn golygu fod llai o bobl yn dod i Heol Awst o gwbl – a gall hynny fod yn andwyol i rai busnesau.

"Mae’r cyngor yn dweud nad ydynt yn bwriadu codi ond 20c am barcio ar y cychwyn, ond dwi’n ofni nad yw hyn ond yn flaen y cyllell. Unwaith fod yr egwyddor wedi’i dderbyn, nid oes dim i rwystro’r cyngor rhag codi’r tâl bob blwyddyn, felly mae’n bwysig ein bod yn brwydro yn erbyn y cynlluniau. Byddaf i’n dal i gefnogi’r busnesau, ac yn gweithio gyda nhw i gyflwyno dadl yn gofyn i’r Bwrdd Gweithredol ailystyried ei benderfyniad. Fel y dywedodd un o’r bobl wrthym yn y cyfarfod, ‘Does dim byd yn bod ar y trefniadau presennol – pam fod angen eu newid?’”

2/15/2009

Ad-drefnu addysg yn codi pryderon


Yn sgil cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus llwyddiannus iawn ar addysg yn ardal Gwendraeth / Dinefwr, mae’r Blaid wedi datgan fod pryderon mawr ynghylch cynlluniau’r cyngor sir i ad-drefnu ysgolion uwchradd yr ardal. Dywedodd arweinydd y Blaid ar Gyngor Sir Gâr, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Daeth llawer iawn o bobl i’n cyfarfodydd. Mynegwyd pryder mawr am gynigion y Cyngor, a dim ond ychydig iawn o bobl oedd yn gefnogol i’r cyngor. Roedd y pryderon mwya’n ymwneud â’r amserlen fer a’r ffordd y mae’r cyngor wedi dewis ystyried rhan yn unig o’r sir, yn hytrach na llunio cynllun cynhwysfawr.”
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, a fynychodd y cyfarfod yn Llangadog, yr oedd yn anfodlon â’r neges yr oedd y Cyngor Sir yn ei rhoi i bobl. “Clywsom bobl yn dweud fod y cyngor sir wedi dweud wrthynt nad oedd unrhyw ddewis wrth lunio’r cynlluniau. Ymddengys fod y cyngor sir wedi honni ei fod yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Fel AC, dwi wedi trafod hyn gyda’r Gweinidog Addysg, a gallaf ddweud yn gwbl bendant fod hyn yn anghywir.

"Mae Jane Hutt wedi bod yn glir iawn, gan ddweud wrthyf nad yw hi na’r un o’i swyddogion wedi rhoi unrhyw gyfarwyddyd i’r cyngor sir am natur manwl y cynlluniau. Mae hynny’n fater i’r cyngor sir yn unig – a dyna sut y dylai fod. Dwi ddim yn deall pam fod y cyngor sir mor benderfynol o gamarwain pobl ar hyn.”

Dywedodd AS Dwyrain Caerfyrddin, Adam Price, a fu mewn dau o’r cyfarfodydd, “Dwi’n falch iawn o weld sut mae grŵp y Blaid ar y cyngor sir yn dangos sut dylai ymgynghori weithio. Nid oedd ganddynt unrhyw rhag-canfyddiadau, dim cynlluniau i’w rhoi o flaen pobl; aethon nhw allan a gwrando. Cawsant ymateb da iawn i’r dull hwnnw o weithredu – ac roedd pobl yn dweud wrthyf pa mor wahanol oedd dull Plaid Cymru a dull y cyngor sir o weithredu. Mae addysg yn un o brif gyfrifoldebau’r cyngor sir, ac mae’n hanfodol rhoi ystyriaeth briodol i farn y bobl o’r cychwyn cyntaf. Mae paratoi ystod cyfyngedig o opsiynau a gofyn i bobl ddewis rhyngddynt ymhell o fod yn ymgynghoriad go iawn.”

Ar ôl cynnal tri chyfarfod, yn Cross Hands, Llangadog, a Rhydaman, bydd y Blaid bellach yn paratoi eu cynlluniau eu hunain ar yr opsiynau posib, a cheisio newid polisi’r cyngor o ganlyniad. Wrth wneud hynny, byddant yn cydweithio gyda llefarydd Addysg newydd y Blaid yn y Cynulliad, Nerys Evans AC, sydd â’i swyddfa yng Nghaerfyrddin.

Mae hi wedi addo cydweithrediad llawn i’r cynghorwyr, a dywedodd hi yr wythnos hon, “Dwi wedi codi’r mater hwn gyda Jane Hutt ar sawl achlysur, a bob tro mae’n dweud wrthyf taw mater i Sir Gâr yn unig yw’r manylion. Nid oes dim byd ym mholisïau Llywodraeth y Cynulliad sy’n gorfodi unrhyw gyngor i gau neu gyfuno ysgolion. Mae opsiynau eraill ar gael, a byddwn ni’n eu hystyried yn fanwl.”

Dywedodd Cyng Peter Hughes Griffiths wrth gloi, “Mae hyn wedi bod yn broses werthfawr iawn, a dwi’n meddwl fod pobl leol wedi dod i’r un casgliad. Mae’n ddull o ymgynghori y byddwn ni’n ei ddefnyddio eto yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth i’n cyfarfodydd – rhaid oedd y cyfanswm trsd 300 – a cheisiwn adlewyrchu’r holl safbwyntiau a fynegwyd yn ein cynigion ninnau.”