10/05/2009

Mwy o gwestiynau am Deledu Sir Gâr

Mae gwleidyddion Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi codi mwy o gwestiynau am y defnydd o arian y trethdalwyr i ariannu sianel teledu ar y rhyngrwyd yn Sir Gâr. Mae Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir, dan arweiniad y Cyng “Annibynnol” Meryl Gravell, a’r Bartneriaeth Gwasanaethau Lleol eisoes wedi cytuno i roi symiau sylweddol tuag at y gost. Mae’r Cyngor wedi cytuno i dalu hyda at £30,000 (heb gynnwys cost amser y swyddogion – a’r disgwyl yw y bydd hynny’n swm sylweddol ychwanegol), ac mae Bwrdd y Bartneriaeth wedi cytuno i gyfrannu £10,000. Nid yw cyfanswm y gost wedi’i gyhoeddi, ond mae’r Cyngor Sir yn honni fod y rhan fwyaf o’r arian yn dod o lywodraeth y Cynulliad. Deëllir fod disgwyl y bydd cyrff cyhoeddus eraill hefyd yn gwneud cyfraniadau sylweddol tuag at y gost.

Daeth y cynnig i sefydlu’r sianel gan gwmni preifat sydd a’i bencadlys yn y sir. Aethan nhw at y cyngor sir a chyrff cyhoeddus eraill, ar ôl i rai cynghorau yn Lloegr lansio cynlluniau tebyg. Lansiodd Cyngor Sir Caint, er enghraifft, wasanaeth peilot a gostiodd £1.2 miliwn am y ddwy flynedd gyntaf, a £400,000 yn ychwanegol am y drydedd blwyddyn. Mae Cynghorwyr Plaid Cymru bellach wedi codi cwestiynau am y broses a ddilynwyd.

Mae arweinydd y Blaid ar y cyngor, y Cyng Peter Hughes Griffiths wedi ysgrifennu at Brif Swyddog y cyngor i ofyn pam na ddilynwyd proses dendro ffurfiol. Dywedodd, “Am ymron i bopeth mae’r cyngor yn ei wneud, mae’n rhaid i ni fynd trwy broses dendro ffurfiol, fel bod nifer o ddarparwyr yn cael cyfle i gynnig eu gwasanaethau, ac fel bod y cyngor yn sicrhau gwerth am arian. Ond, yn yr achos hwn, roedd yn ymddangos i mi na wnaed unrhyw ymdrech i weld a oedd cwmnïoedd eraill oedd yn gallu darparu’r gwasanaeth. Yr argraff a roddwyd oedd fod y cyngor wedi rhoi’r contract i’r cwmni cyntaf i awgrymu’r syniad. Roeddwn yn falch o gael gwybod nad oedd yr argraff hwn yn gywir o gwbl. Er bod un cwmni wedi dod at y cyngor, dwi wedi derbyn sicrwydd y bydd proses gystadleuol i benderfynu pa gwmni sy’n derbyn y contract, a chymryd fod pob un o’r cyrff perthnasol yn cytuno i gyfrannu.

“Rydym ni fel grŵp yn dal i gredu taw camgymeriad yw’r holl gynllun, a’i fod yn wastraff o arian cyhoeddus. Ond, os yw’r cyngor yn bernderfynol o yrru’r cynllun hwn yn ei flaen, y lleiaf y dylen nhw ei wneud ydy dilyn eu prosesau arferol eu hunain, a sicrhau cystadleuaeth am y contract. Heblaw am ddim byd arall, mae hynny’n rhoi cyfle arall i ni geisio rhwystro’r cyngor rhag cyfrannu at y cynllun hwn. Ac un cwestiwn allweddol nas atebwyd hyd yma yw beth yw cyfanswm cost y cynllun. Faint mae’r cyhoedd yn talu ar ôl cyfrif yr holl gyfraniadau gan y gwahanol gyrff cyhoeddus?

Codwyd cwestiynau hefyd am yr arian sydd i ddod gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae Nerys Evans, AC rhanbarthol yr ardal, wedi dweud ei bod hi’n holi Llywodraeth y Cynulliad am y mater. “Ar adeg pan mae’n debyg y bydd angen cwtogi gwariant llywodraeth leol, ymddengys yn od iawn i mi,” dywedodd Ms Evans, “fod Llywodraeth y Cynulliad yn dargyfeirio arian o wasanaethau’r rheng flaen i wasanaeth teledu. Dwi’n gofyn i’r gweinidogion perthnasol egluro faint maen nhw’n cyfrannu, o ba gyllideb y daw, a sut y cytunir y contract.”

No comments: