1/16/2009

Ysgol Newydd yn Llanelli?

Yn dilyn cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys y bydd arian ychwanegol ar gael am brosiectau cyfalaf newydd, mae Cyng Huw Lewis o Blaid Cymru wedi awgrymu y dylid defnyddio'r arian i godi ysgol Gymraeg newydd yn Llanelli fel blaenoriaeth. Mae'r cyngor sir wedi gwrthod gweithredu ar hyn yn ddiweddar, gan honni nad oedd digon o arian ar gael, ond mae Cyng Lewis wedi dweud nad yw'r rheswm yma'n ddilys bellach.

"Mae'r galw am fwy o ddarpariaeth gyfrwng Gymraeg yn Llanelli yn gwbl glir," dywedodd Cyng Lewis. "Pan godais i'r mater hwn yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw sgôp yng nghyllideb cyfalaf y cyngor am ysgol ychwanegol. Ond yr wythnos hon, mae'r Canghellor wedi cyhoeddi y bydd £140 miliwn ar gael yn ychwanegol am wariant cyfalaf yng Nghymru. Dwi'n credu y dylai Cyngor Sir Caerfyrddin gyflwyno cais ar unwaith am ran o'r arian ar gyfer yr ysgol angenrheidiol newydd yn Llanelli."

1/08/2009

Gwrthdaro Buddiannau

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles, a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd y trefniadau craffu mewn cynghorau sir. Fel rhan o'r ymchwiliad, bu dau Aelod Cynulliad yn ymweld â Sir Gâr yn ddiweddar i weld Pwyllgor Craffu'n gweithio. Mae Pwyllgor y Cynulliad hefyd wedi gwahodd sylwadau ffurfiol ar yr holl system graffu.

Mae arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor Sir, Cyng Peter Hughes Griffiths, wedi cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad ar ran ei grŵp.

"Rydym wedi tynnu sylw at rywbeth yr ydym ni yn tybio sy'n wendid sylfaenol yn y system," meddai Cyng Hughes Griffiths. "Pleidiau'r glymblaid sy'n rheoli'r cyngor sy'n penodi’r holl gadeiryddion craffu, ac, mewn gwirionedd, mae hynny'n golygu fod pob cadeirydd yn cael ei benodi naill ai gan arweinydd y grŵp Llafur, neu gan arweinydd y Blaid Annibynnol. Wedyn, maent yn derbyn arian ychwanegol am eu gwaith. Yn ei hanfod, y bobl sy'n eu penodi, ac sy'n rheoli eu lwfansau yw'r union bobl y mae'r pwyllgor craffu i fod craffu arnynt.

Dwi ddim yn pardduo gonestrwydd neb o'r cadeiryddion, ond mae'n amlwg fod potensial enfawr am wrthdaro buddiannau yn y mater hwn. Er enghraifft, gall unrhyw gadeirydd sy'n meiddio beirniadu arweinyddiaeth y Cyngor gael ei ddiswyddo gan y person a feirniadir, gan golli swm sylweddol o arian o ganlyniad. Ni all hynny fod yn iawn, ac ni all sicrhau craffu teg, agored, a diduedd."

Bu i Cyng Hughes Griffiths ail-bwysleisio barn y Blaid y dylai'r holl gynghorwyr fod yn cydweithio er lles y sir, ond ychwanegodd, "Mae'r Blaid Annibynnol a'r Blaid Lafur wedi penderfynu eu bod am gael system lle mae rhai cynghorwyr yn rhan o'r Weinyddiaeth tra bod y lleill yn ffurfio Gwrthblaid. Dan system o'r fath, byddai'r broses graffu'n llawer mwy agored a thryloyw os oedd pob cadeirydd pwyllgor craffu yn cael ei benodi gan, ac o, grŵp yr wrthblaid. Dyna'r unig ffordd o sicrhau eu bod yn wirioneddol annibynnol o'r glymblaid sy'n rhedeg y Cyngor."