4/17/2009

Banciau heb wneud digon

Er i'r trethdalwr roi biliynau o bunnoedd i'r banciau i'w hachub, maen nhw'n dal i fethu â rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i gadw busnesau'n mynd, yn ôl Plaid Cymru yn Sir Gâr. Mae Cyng David Jenkins, llefarydd Cyllid y Blaid ar y Cyngor Sir wedi croesawu'r hyn mae'r cyngor yn ei wneud i geisio cefnogi busnesau lleol yn ystod y dirwasgiad, ond mae hefyd wedi beirniadu'r banciau am beidio â gwneud digon.

"Rydym ni'r trethdalwyr wedi rhoi biliynau o bunnoedd i'r banciau er mwyn eu hachub," dywedodd Cyng Jenkins, "ond ymddengys eu bod yn dal heb ddarparu'r credyd sydd ei angen i gadw busnesau lleol yn fyw. Y mae nifer fawr o fusnesau lleol sy'n gynaliadwy yn y tymor hir, ond sy'n dioddef anawsterau tymor byr, ond ymddengys fod y banciau'n anfodlon iawn eu helpu."

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr wedi cymeradwyo adroddiad sy'n amlygu nifer o gamau y bydd y cyngor yn eu cymryd i gynnig cefnogaeth i fusnesau lleol, gan gynnwys benthyciadau tymor byr, a gohirio taliadau treth a rhent. Dywedodd Cyng Jenkins ei fod yn croesawu'r cynigion hyn, ac yn cefnogi ymdrechion y cyngor i helpu. Roedd ganddo air o rybudd hefyd, fodd bynnag, gan ddweud, "Mae perygl y bydd y Cyngor Sir mewn sefyllfa lle mae'n rhoi benthyciasdau ar lefel uchel o risg, lle mae'r banciau eisoes wedi gwrthod helpu. Credaf fod y cyngor yn iawn i wneud hyn, o dan yr amgylchiadau presennol, gan fod gweithredu felly yn well i drigolion y sir na gadael i fusnesau fethu. Ond wir, ni ddylai fod angen i'r cyngor sir ymgymryd â gwaith y banciau. Dylai'r llywodraeth ganolog wneud mwy i sicrhau fod y banciau'n gwasanaethu anghenion ein heconomi."

No comments: