6/29/2009

Plaid yn herio am dai fforddiadwy

Mewn cyfarfod o Gyngor Sir Caerfyrddin, heriwyd arweinwyr y cyngor gan arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, ar dai fforddiadwy. "Mae polisi'r cyngor yn dda iawn, ar y cyfan," dywedodd Cyng Hughes Griffiths, "ond mae gen i rywfaint o bryder nad ydym bob amser yn glynu ato. Pan fydd datblygwyr yn ceisio caniatad i adeiladu mwy o dai yn y sir, mae'r cyngor yn ceisio bob tro i gael cytundeb fod canran o'r tai yn dai fforddiadwy. Ymddengys ar adegau, fodd bynnag, ei bod yn rhy hawdd i'r datblygwyr ddod yn ôl i'r cyngor ar ôl derbyn caniatad, a newid y cytundeb - fel arfer er mwyn lleihau nifer y tai fforddiadwy.

"Y canlyniad yw bod y datblygiadau a welwn yn ein pentrefi a'n trefi'n methu â mynd yn ddigon pell i ddiwallu anghenion pobl leol. Mae'n fater anodd, oherwydd i swyddogion y cyngor ein rhybuddio'n glir fod yn rhaid i ni fod yn barod i drafod yn rhesymol, neu ynteu fod perygl o apêl gostus; a gallai'r cyngor golli'r fath apêl. I mi, mae hyn yn dangos fod gwendid yn y system cynllunio. Pan fydd y cyngor yn gwneud penderfyniad, dylem ddisgwyl gweithredu'r penderfyniad hwnnw."

Mynegodd Cyng John Edwards ei bryder yntau na fydd y cyngor yn cwrdd â'i dargedau ei hunan ar gyfer tai fforddiadwy ar sail y ffigyrau a gyflwynwyd i'r cyngor. Ychwanegodd, "Beth sydd ei angen yw system o gynllunio sy'n cychwyn trwy asesu'r anghenion lleol ac wedyn yn ymateb i'r anghenion hynny, yn hytrach na system lle mae datblygwyr yn ceisio adeiladu'r tai fydd yn creu'r elw mwyaf iddyn nhw. Dylid cynllunio ar sail angen."

No comments: