6/18/2010

Cau Llyfrgell Penygroes

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cau Llyrgell Penygroes yn sydyn, heb unrhyw rybudd nag ymgynghori yn ôl y cynghorydd lleol, Siân Thomas. Roedd Cyng. Thomas wedi gofyn i’r cyngor beth oedd y cynlluniau ar gyfer y llyfrgell o’r blaen, a chafodd ymateb cwbl bendant nad oedd unrhyw fwriad cau’r llyfrgell, ac nad oedd hyd yn oed ar restr i’w hystyried. Ond ar ddydd Gwener, 14eg Mai, fe’i caewyd gan y cyngor beth bynnag, gan roi gwasanaeth symudol ddwywaith y mis yn ei lle.

Dywedodd Cyng Thomas, “A minnau’n cynrychioli’r ward lleol, buaswn wedi disgwyl fan leiaf y buaswn wedi cael fy hysbysu ymlaen llaw fod y cyngor yn bwriadu cau’r llyfrgell, yn arbennig ar ôl i fi holi’r swyddogion perthnasol sawl tro. Cefais i ymateb clir iawn nad oedd y cyngor yn bwriadu cau’r llyfrgell hon, ac nad oedd y llyfrgell hyd yn oed ar unrhyw restr i’r cyngor ystyried ei chau.

“Pan godais i’r mater eto ar ôl iddi gau, dywedwyd wrthyf fod y penderfyniad wedi’i wneud wrth gymeradwyo cyllideb y cyngor. Ond, wedi edrych ar y cofnodion, i gyd sydd yno yw bod ‘6 llyfrgell fach i’w disodli gan wasanaeth symudol amlach’, heb enwi’r llyfrgelloedd o gwbl. Ac, wedi gofyn i fy nghyd-gynghorwyr ar y Pwyllgor Craffu Addysg, nid oedden nhw’n gwybod enwau’r llyfrgelloedd ychwaith.

“Dwi’n hynod siomedig ac yn grac iawn â’r ffordd y mae’r cyngor wedi delio â hyn. Mae’n enghraifft arall o’r ffordd annemocrataidd y mae cynghorwyr y pleidiau Annibynnol a Llafur yn rheoli’r cyngor.”