1/12/2012

Gwefan newydd i'r Blaid yn Sir Gar

Dyma wefan newydd Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin. Ni fydd y blog yma yn cael ei ddiweddaru o nawr 'mlaen, bydd yr holl newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf yn ymddangos ar y wefan newydd.

http://www.sirgar.plaidcymru.org

2/09/2011

IE Dros Gymru - Sir Gaerfyrddin

Pwyswch yma i ymweld â gwefan aml-bleidiol y grŵp yn Sir Gaerfyrddin sy'n cefnogi Pleidlais IE yn y Refferendwm ar Fawrth 3ydd...


7/01/2010

Ffermydd dan fygythiad

Y mae perygl o golli’r ffermydd bychain sydd yn eiddo i’r cyngor sir yn Sir Gâr, yn ôl Plaid Cymru. Mae’r cyngor yn ystyried eu gwerthu fel rhan o’i adolygiad o asedau’r sir. Bwriad gwreiddiol y ffermydd hyn oedd helpu pobl i ddod i mewn i’r dywydiant amaeth. Wrth ymateb i gwestiwn mewn cyfarfod o’r cyngor sir yn ddiweddar, gwrthododd arweinydd y Blaid Annibynnol, Cyng Meryl Gravell, roi unrhyw sicrwydd na werthir y ffermydd hyn.

Yn siarad ar ran grŵp y Blaid, dywedodd Cyng Tyssul Evans wedyn, “Mae nifer o ffermydd bychain wedi bod yn nwylo’r cyngor sir ers blynyddoedd mawr bellach. Maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ran helpu pobl i mewn i’r diwydiant, ac mae llawer wedi elwa ohonyn nhw dros y blynyddoedd. Byddai’n drychineb i sir amaethyddol fel Sir Gâr golli’r ffermydd hyn. Byddai eu gwerthu ar gyfer datblygu’n waeth byth.”

6/18/2010

Cau Llyfrgell Penygroes

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cau Llyrgell Penygroes yn sydyn, heb unrhyw rybudd nag ymgynghori yn ôl y cynghorydd lleol, Siân Thomas. Roedd Cyng. Thomas wedi gofyn i’r cyngor beth oedd y cynlluniau ar gyfer y llyfrgell o’r blaen, a chafodd ymateb cwbl bendant nad oedd unrhyw fwriad cau’r llyfrgell, ac nad oedd hyd yn oed ar restr i’w hystyried. Ond ar ddydd Gwener, 14eg Mai, fe’i caewyd gan y cyngor beth bynnag, gan roi gwasanaeth symudol ddwywaith y mis yn ei lle.

Dywedodd Cyng Thomas, “A minnau’n cynrychioli’r ward lleol, buaswn wedi disgwyl fan leiaf y buaswn wedi cael fy hysbysu ymlaen llaw fod y cyngor yn bwriadu cau’r llyfrgell, yn arbennig ar ôl i fi holi’r swyddogion perthnasol sawl tro. Cefais i ymateb clir iawn nad oedd y cyngor yn bwriadu cau’r llyfrgell hon, ac nad oedd y llyfrgell hyd yn oed ar unrhyw restr i’r cyngor ystyried ei chau.

“Pan godais i’r mater eto ar ôl iddi gau, dywedwyd wrthyf fod y penderfyniad wedi’i wneud wrth gymeradwyo cyllideb y cyngor. Ond, wedi edrych ar y cofnodion, i gyd sydd yno yw bod ‘6 llyfrgell fach i’w disodli gan wasanaeth symudol amlach’, heb enwi’r llyfrgelloedd o gwbl. Ac, wedi gofyn i fy nghyd-gynghorwyr ar y Pwyllgor Craffu Addysg, nid oedden nhw’n gwybod enwau’r llyfrgelloedd ychwaith.

“Dwi’n hynod siomedig ac yn grac iawn â’r ffordd y mae’r cyngor wedi delio â hyn. Mae’n enghraifft arall o’r ffordd annemocrataidd y mae cynghorwyr y pleidiau Annibynnol a Llafur yn rheoli’r cyngor.”

4/06/2010

Cost y cynllun parcio

Bydd y cynllun i osod peiriannau i godi am barcio yn Heol Awst yn costio oddeutu £24,000, mae’r cyngor sir wedi datgelu. Mewn llythyr at Gyng Arwel Lloyd, mae’r cyngor wedi rhoi’r ffigwr hwn ar gyfer cyfanswm y gost, gan gynnwys y costau cyfreithiol a’r costau hysbysebu wrth wneud y Gorchmynion perthnasol, yn ogystal â’r gost o brynu a gosod y peiriannau eu hunain.

Ymateb Cyng Lloyd oedd, “Mae hyn yn gost sylweddol i’r cyngor, a dwi’n amau y cymer rhai blynyddoedd i adennill y gost gychwynnol, heb sôn am y gost o’i fonitro a’i weinyddu. Mae’r cynllun yn amhoblogaidd ac yn ddi-angen. Fel yr ydym ni wedi dweud sawl tro, mae’r trefniadau presennol yn gweithio’n dda, ac nid oes angen newid, yn arbennig newid fydd yn effeithio ar nifer o fusnesau yn Heol Awst. Unwaith eto, rydym yn galw ar y cyngor i anghofio’r cynllun hwn.”

3/31/2010

Talu am ddim

Mae Cyngor Sir Gâr yn codi ffioedd gwasanaeth ar denantiaid am wasanaethau nad ydynt yn eu derbyn, yn ôl Cyng Siân Thomas. Roedd Cyng Thomas wedi tynnu sylw at yr un broblem y llynedd, gan nodi fod tenantiaid ym Maes y Gors, Penygroes yn talu £2.17 yn ychwanegol bob wythnos am wasanaethau nad yw’r cyngor yn eu darparu, megis ystafell golchi dillad a system rheoli mynediad.

Dywedodd Cyng Thomas, “Codais i hyn gyda swyddogion y cyngor y llynedd, gan dynnu sylw at y ffaith yr oedd y tenantiaid yn talu am ddim. Dwi wedi derbyn cwynion ychwnaegol eleni – nid yn unig y mae’r tenantiaid yn dal i dalu am y gwasanaethau hyn, ond mae’r pris wedi cynyddu hefyd. I gyd o’r gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn ydy un golau ar y grisiau y maen nhw’n eu rhannu.

“Mae’r cyngor yn dweud eu bod yn cynnal arolwg trylwyr a chynhwysfawr o’r tâl gwasanaeth, ond ymddengys na ddaw unrhyw newidiadau i rym tan fis Ebrill nesaf – dwy flynedd ar ôl i fi godi’r broblem yn wreiddiol. Nid yw hyn yn ddigon da.”

3/30/2010

Pryderon am gynllun y 'Dreigiau Ifainc'

Ar ôl derbyn rhagor o wybodaeth gan y Cyngor Sir, mae arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor wedi mynegi pryderon ymhellach am natur y mudiad ‘Dreigiau Ifainc’. Ar lefel genedlaethol, sefydlwyd y mudiad i “gynyddu nifer y plant sy’n aelodau o’r mudiadau ieuenctid sy’n gwisgo lifrai, ac i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n eu rhedeg”. Sefydlwyd pwyllgor llywio lleol i weithredu’r cynllun yn Sir Gâr. Roedd Cyng Peter Hughes Griffiths wedi codi cwestiynau am y mater mewn cyfarfod o’r cyngor rhai misoedd yn ôl.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths yr wythnos hon, “Mae’r syniad o gydlynu mudiadau ieuenctid ar draws y sir yn syniad da, a dwi’n croesawu’r ymrwymiad a wnaed gan swyddogion y cyngor sir y byddant yn ceisio cynnwys grwpiau ieuenctid eraill megis yr Urdd a CFfI. Ond dwi ddim yn deall o hyd paham fod cylch gwaith y grŵp yn cyfeirio byth a beunydd at fudiadau lle mae’r plant yn gwisgo ‘lifrai’, a phaham fod y rhestr o fudiadau sy’n aelodau ar lefel genedlaethol ond yn cynnwys grwpiau sy’n cydymffurfio â hynny.

“Mae’n edrych i fi fel cyfyngiad cwbl ddi-angen, ac ni allaf ddeall paham bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno cylch gwaith mor gyfyng. Yn ogystal â chynnwys mudiadau eraill ar lefel leol, credafy y dylai’r cyngor sir fod yn pwyso am newid y Cylch Gwaith i sicrhau fod y prosiect cyfan yn fwy cynhwysol.”