12/18/2008

Mwy na le i gwrdd

"Mae ysgolion bach gwledig yn llawer mwy pwysig na llefydd i gynnal cyfarfodydd," yn ôl Cyng Eirwyn Williams. Roedd Cyng Williams, sy'n llefarydd addysg Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin, yn ymateb i adroddiad gan bwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol. "Maent yn cyflawni swyddogaeth llawer ehangach na hynny, ac yn aml iawn, maent yng nghanol gweithgarwch y gymuned."

Wrth gyhoeddi adroddiad ei bwyllgor, roedd yr AC Llafur sy'n ei gadeirio wedi awgrymu fod rhai o'r bobl sy'n ymgyrchu dros gadw ysgolion bychain ar agor yn gwneud hynny dim ond er mwyn cadw man cyfarfod at ddefnydd y gymuned. Dywedodd Cyng Williams fod hyn yn gamddealltwriaeth difrifol o bryderon cymunedau lleol, ac yn dangos nad oedd yr AC Llafur ddim yn deall Cymru wledig.

Fodd bynnag, roedd rhai pwyntiau yn yr adroddiad oedd yn synhwyrol iawn, meddai Cyng Williams. "Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r angen i ystyried pob ysgol yn unigol cyn dod i benderfyniad," dywedodd Cyng Williams. "Dyma'r union bwynt yr ydym ni fel grŵp Plaid Cymru wedi bod yn ei bwysleisio yn Sir Gâr yn ystod y misoedd diwethaf. Mae'r glymblaid rhwng y pleidiau Llafur ac Annibynnol yn gweithredu yn ôl cynllun canolog - nid ydynt yn ystyried, nag ymateb i, anghenion a phryderon lleol, ac yn bendant, nid ydynt yn ystyried pob ysgol yn unigol.

"Yn sgil yr adroddiad diwethaf 'ma, dylai'r cyngor ail-feddwl."

12/08/2008

Cyngor yn gwrthod ymateb i'r galw am addysg Gymraeg

Yng nghyfarfod mis Tachwedd o Gyngor Sir Gâr, bu i gynghorwyr Plaid Cymru o ardal Llanelli ymosod yn gryf ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor am beidio â gwneud digon i ddiwallu'r angen am addysg Gymraeg yn ardal Llanelli.

Dywedodd Cyng. Huw Lewis, "Mae argyfwng mawr yn addysg Gymraeg yn ardal Llanelli. Dyw plant ddim yn derbyn yr addysg y mae eu rhieni'n dymuno, ac maent yn aml yn gorfod apelio yn erbyn penderfyniadau'r adran addysg. Dwi'n gwybod fod capasiti’n cynyddu, ond nid yw'n cynyddu'n ddigon cyflym i gwrdd â'r angen, sy'n tyfu trwy'r amser.

"O edrych ymlaen tan fis Medi nesaf, mae Ysgol Dewi Sant eisoes wedi derbyn 128 o geisiadau am 60 o lefydd. Mae'r sefyllfa'n mynd yn argyfwng, ac nid yw rhieni sydd eisiau addysg Gymraeg i'w plant yn cael chwarae teg. Mae'n hollol annheg fod rhieni'n cael lle yn yr ysgol o'u dewis os ydynt am gael addysg Saesneg, ond fod yn rhaid iddyn nhw ymladd pob cam i gael lle mewn ysgol Gymraeg. Nid dyma sut y dylai polisi dwyieithog weithredu."

Cefnogwyd ei alwad am weithredu ar frys gan y Cyng. Gwyn Hopkins, a dynnodd sylw at y canran isel o blant sy'n derbyn addysg Gymraeg yn Llanelli, o gymharu â gweddill y sir. "Yn ardal Llanelli," meddai fe, "dim ond rhyw 25% o'r plant sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, o gymharu â 60% yng ngweddill y sir. Mae hynny'n amlygu'r gwahaniaeth enfawr yn y ddarpariaeth gan y Cyngor, ac yn tanlinellu'r angen i drin Llanelli fel achos arbennig.

"Mae'r polisi a gymeradwywyd gan y Cyngor rhai blynyddoedd yn ôl yn mynd yn llai perthnasol wrth i'r galw gynyddu ynghynt na'r disgwyl, ac mae hynny'n golygu fod cynlluniau presennol y cyngor yn methu â darparu digon o lefydd pan fydd eu hangen.

"Yn Llangennech yn unig, lle mae ffrydiau Saesneg a Chymraeg ar wahân, rydym yn gweld fod y ffrwd Gymraeg yn tyfu'n gyson, a'r ffrwd Saesneg yn gostwng ar yr un pryd. Rhaid i'r Cyngor ymateb i'r galw yn gyflymach nag y mae ar hyn o bryd, ac mae hynny'n golygu, fel y cam lleiaf posib, cynllunio ar gyfer ysgol newydd ychwanegol ar ben popeth arall sy'n digwydd."

11/28/2008

Dim tâl am barcio yn Heol Awst!

Mae’r Cyngor Sir yn bwriadu codi tâl am barcio yn Heol Awst, Caerfyrddin. Dwi a’m cyd-gynghorwyr wedi cytuno i ymladd yn erbyn y cynllun yma, a fydd yn rhwystro pobl rhag parcio’n rhad ac am ddim yn y dref ar ymweliad byr.

Dim ond parcio am gyfnod byr sydd yn cael ei ganiatau yn Heol Awst ar hyn o bryd, ond mae’n creu cyfle ar gyfer pobl sydd ond yn ymweld am un neu ddau o eitemau penodol. Bydd codi am barcio naill ai yn cynyddu cost y fath ymweliad neu ynteu’n golygu nad yw pobl ddim yn dod i’r dref ar ymweliad byr yn y dyfodol. Yn yr hinsawdd economaidd presennol, ni ddylem wneud unrhyw beth sy’n golygu costau ychwanegol i bobl na bygythiad ychwanegol i fusnesau lleol.

Rydym ni’n credu y dylid parhau gyda’r system bresennol o barcio’n rhad ac am ddim am gyfnod cyfyngedig. Mae’n gweithio’n iawn.

Cyng Arwel Lloyd, De Tref Caerfyrddin

11/19/2008

Cefnogi Busnesau Gelli Onn

Mae gen i bryderon mawr am fusnesau Ward Lliedi sydd wedi dioddef colled sylweddol o ganlyniad i’r gwaith yng Ngelli Onn – yn arbennig yn Thomas Street.

Mae datblygiad Gelli Onn wedi creu anawsterau annisgwyl o fath nas gwelwyd o’r blaen, yn ogystal â cholled ariannol i’r busnesau. Mae cwsmeriaid posib wedi defnyddio ffyrdd eraill i gyrraedd y dref gan osgoi Thomas Street, ac maent yn dal i ddefnyddio’r ffyrdd hynny, hyd yn oed ar ôl cwpla’r gwaith.

Rhan o’r rheswm yw fod y pafin yn fwy cul sydd hefyd yn ei gwneud hi’n anos llwytho a dadlwytho – gwydr yn arbennig – a dwi wedi cael ar ddeall fod un busnes, a gwynodd am y mater, wedi’i fygwth gyda gwaharddiad parcio!

O ystyried y golled ariannol, fe gredaf fod gan y Cyngor Sir gyfrifoldeb moesol, a dyletswydd gofal, i ddi-golledu’r busnesau hyn a darparu cymaint o gefnogaeth ag sy’n bosib i’w galluogi i ddal i fasnachu.

Felly, dwi wedi apelio am i’r Prif Weithredwr – yn ogystal ag Arweinydd y Cyngor, a’r penaethiaid cyfreithiol ac ariannol – gwrdd â’r busnesau hyn i drafod eu hanghenion, ac i archwilio dulliau posib o’u cefnogi. Efallai y bydd hyn yn golygu fod yn rhaid i’r Awdurdod fynd y tu hwnt i’r hyn i’w gyfrifoldeb statudol, ond mae’n ddyletswydd arnom i ymateb gyda chydymdeimlad, ac i helpu gyda thaliadau a mathau eraill o gefnogaeth a fydd yn adfywio’r busnesau bach lleol sy’n asgwrn cefn yr economi lleol.

Mae angen gwrando arnynt, a dylai’r Awdurdod, trwy ei swyddogion, fod yn barod i wneud hynny. Dwi wedi awgrymu y dylid cynnal cyfarfod i’r perwyl hwn mor fuan a phosib.

Cyng Huw Lewis, Lliedi

11/17/2008

Pwy sy'n rhedeg y Cyngor?

Yn ôl y cyfansoddiad o leiaf, y cynghorwyr sy'n aelodau'r Bwrdd Geithredol sy'n gyfrifol am redeg y Cyngor. Ond weithiau, dwi ddim mor siwr.

Ystyriwch yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod diwethaf er enghraifft. Un o'r pethau mwyaf sylweddol ar yr agenda oedd adroddiad ar arolwg o Wasanaethau Cymdeithasol y Sir. Roedd yr adroddiad yn dda, gan ddangos llawer o gynnydd ers yr arolwg diwethaf, er, o ran Gwasanaethau i Oedolion yn benodol, roedd y man cychwyn yn isel iawn, gan ddilyn adroddiad beirniadol o'r blaen.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan aelod o'r Bwrdd Gweithredol, Cyng Kevin Madge, Llafur. Ar ôl ychydig o frawddegau cyffredinol am ba mor dda oedd y cyngor a faint o waith da a wnaed, eisteddodd i lawr, a rhoddwyd cyfle i gynghorwyr eraill godi cwestiynau.

Cafwyd cyfres o gwestiynau gan gynghorwyr y Blaid ar nifer o agweddau o'r adroddiad. Byddai dyn wedi disgwyl i'r aelod Bwrdd Gweithredol ymateb i'r rhain - wedi'r cyfan, efe sy'n gyfrifol ac yn atebol am yr hyn mae'r cyngor yn ei wneud - ac efe sy'n derbyn lwfans cyfrifoldeb arbennig am hynny. Dim gobaith.

Atebwyd pob un cwestiwn gan rywun arall, gan fwyaf gan y Cyfarwyddwr gyda chymorth y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor - er yr oedd ei chyfraniad hithau, gan fwyaf, yn ymgais i feio'r Gweinidog Llafur yn Llywodraeth y Cynulliad. Dim ond ar y diwedd, pan ddaeth yr amser i gloi'r drafodaeth, oedd gan Gyng Madge unrhyw beth arall i'w ddweud. Hyd yn oed wedyn, nid ymateb i'r drafodaeth a wnaeth, ond ceisio beio ACau Plaid Cymru am benderfyniad Gweinidog Llafur yn y Cynulliad.

Ymddengys taw Cyng Madge sy'n gyfrifol mewn enw, ond ei fod naill ai yn anfodlon, neu ynteu ddim yn gallu ymateb i unrhyw bwyntiau manwl am y gwasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt. Neu efallai fod yr Arweinydd yn ofni na fydd yn rhoi'r ateb 'cywir'?

Cyng Peter Hughes Griffiths, Arweinydd y Grŵp

11/13/2008

Llafur yn ymosod ar Lafur

Un o nodweddion cyfarfodydd y cyngor llawn yn Sir Gâr yw'r ffordd y mae arweinwyr y ddwy blaid sydd yn ffurfio clymblaid - sef y Blaid Lafur a'r Blaid Annibynnol - yn treulio cymaint o'u hamser yn ymosod ar benderfyniadau Llywodraeth y Cynulliad. Ni chafwyd eithriad ddoe.

Yn gyntaf, bu i arweinydd y grŵp Llafur, y Cynghorydd Kevin Madge, gwyno'n arw am benderfyniad y Llywodraeth i docio 1% o gyllideb pob cyngor, gan fynnu y gall pob Cyngor ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o o leiaf y lefel hon. Yn nes ymlaen, bu i arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd "Annibynnol" Meryl Gravell ymuno yn y sbri trwy gwyno am oedi wrth basio arian i'r Cyngor Sir i fynd i'r afael â blocio gwelyau yn y sir.

Nawr, wrth gwrs, mae'n hysbys i bawb ond y ddau gynghorydd hwn fod y Gweinidog Llywodraeth lleol a'r Gweinidog Iechyd ill dau'n aelodau'r Blaid Lafur - ond rhywsut, mae'r cynghorwyr yn ymosod ar Blaid Cymru am fethiannau Gweinidogion y Blaid Lafur! Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol o'r ffordd y mae'r llywodraeth yn gweithredu.

Mae Peter Hughes Griffiths, arweinydd grŵp y Blaid ar y cyngor, bellach wedi gofyn am help ACau lleol Plaid Cymru i roi pwysau ar y ddau Weinidog i ymateb i'r cwynion.

11/06/2008

Gwib Holi

Cynhaliwyd sawl sesiwn 'Gwib Holi' ar draws y sir yn ddiweddar i roi cyfle i bobl ifanc gwrdd â chynghorwyr a thrafod eu gwaith gyda nhw. Bu nifer o gynghorwyr o grŵp y Blaid yno i gael eu holi.

Cafodd y bobl ifanc ychydig o funudau i holi cynghorydd ar ei waith, cyn symud ymlaen at gynghorydd arall. Ar ddiwedd y sesiwn, gofynnwyd iddynt werthuso perfformiad y gwahanol gynghorwyr.

Daeth Cynghorydd Gwyneth Thomas o Langennech ar y blaen yn ardal Llanelli. Dywedodd wedyn, "Bu'n ddigwyddiad diddorol iawn. Roedd cael cwestiynau gan bobl ifanc fel awyr ffres, ac roedd yn galonogol gweld eu diddordeb yn ein gwaith. Dwi'n edrych ymlaen at y tro nesaf!"

Yn ardal y Gwendraeth, dywedodd y bobl ifanc taw Cyng Emlyn Dole o Lannon oedd y gorau. Dywedodd Cyng Dole, "Roedd yn brofiad pur wahanol, ond mwynheais yn fawr. Mae'n bwysig ein bod ni fel cynghorwyr yn rhoi cyfle i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli ein holi, ac roedd yn arbennig o werthfawr fod pobl ifanc yn gofyn y cwestiynau."

10/22/2008

Angen Datganoli Plismona

Roeddwn i yng nghyfarfod Awdurdodau Heddlu Cymru ar 17eg Hydref, a chawsom ni adroddiad manwl, a ysgrifennwyd gan Brif Weithredwr Awdurdodau Heddlu Cymru, ar Bapur Gwyrdd y Llywodraeth ar ddyfodol Awdurdodau Heddlu.

Roedd yn hollol amlwg i mi, ac i'r rhan fwyaf o'r bobl oedd yno dwi'n credu, fod Llywodraeth Llundain - a'r Swyddfa Gartref yn benodol - yn gweithredu fel eu bod yn anymwybodol o fodolaeth Cymru. Maen nhw hyd yn oed yn awgrymu y dylai heddluoedd Cymru ddarparu gwasanaethau trwy ddefnyddio cronfa sydd ar gael yn Lloegr yn unig. Ymhellach na hynny, nid oes unrhyw fewnbwn o Gymru i drafodaethau ar y gronfa hon, gan nad yw Cymdeithas Cynghorau Cymru ddim yn derbyn gwahoddiad i'r trafodaethau.

Mae rhwystredigaeth gyda'r ffordd mae'r Swyddfa Gartref yn anwybyddu'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr yn cynyddu, i'r fath radd fel yr oedd yr adroddiad yn cynnwys y frawddeg 'Nid yw'r Swyddfa Gartref yn rhoi unrhyw arwydd o barchu amrywiaeth yng Nghymru, ac yn wir, yr argraff yw ei bod yn gweithredu i danseilio datganoli'.

Gwn yn iawn nad y fi oedd yr unig un i ddod i'r casgliad y dylid pasio cyfrifoldeb am blismona yng Nghymru i'r Cynulliad cyn gynted ag y bo modd. Wedi'r cyfan, mae llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon - a hyd yn oed llywodraethau'r gwledydd bychain fel Jersey, Guernsey, ac Ynys Manaw - i gyd yn gyfrifol am blismona. Pa gyfiawnhad sydd, felly, i wadu'r hawl i Gymru gael yr un cyfrifoldeb?

Cyng Gwyn Hopkins, Llangennech

Galw am newid polisi ariannu ysgolion

Mae Cynghorwyr Fiona Hughes ac Eirwyn Williams wedi ysgrifennu at bob aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr yn galw am iddynt gadw at addewidion a wnaed ynghylch ariannu ysgol Carreg Hirfaen. Mae'r ysgol, sydd yn gweithredu dros dair safle yng Ngwm-Ann, Llanycrwys a Ffarmers wedi gorfod cynnig cau dwy safle yn sgil penderfyniad y Cyngor i ddisytyru dau addewid pendant a wnaed iddi.

Dywedodd Cyng Eirwyn Williams, "Pan ffurfiwyd ffederasiwn rhwng y tair ysgol yn 2000, rhoddwyd ymrwymiad clir gan y Cynulliad Cenedlaethol y byddai'r ysgol yn dal i gael ei thrin fel tair ysgol at ddibenion y fformiwla ariannu. Onibai am yr addewid clir hwn, ni fyddai'r cyrff llywodraethu wedi cytuno i ffederaleiddio, gan yr oedd yn glir y byddai'r cyllid yn annigonol.

"Hefyd, penderfynodd y cyngor sir ddiogelu cyflogau'r prifathrawon, gan ymrwymo i ddarparu'r arian i gwrdd â'r gost o wneud hynny. Mae'r newidiadau diweddar i'r ffordd y mae'r sir yn ariannu ysgolion yn golygu eu bod yn di-ystyru'r addewidion hyn. Felly, rydym yn galw am i'r Bwrdd Gweithredol wrthdroi ei benderfyniadau.

Ychwanegodd Cyng Williams, "Mae gan y Cyngor bolisi o leihau nifer y plant sy'n cael eu dysgu mewn adeiladau dros dro. Ond, canlyniad eu penderfyniadau yn yr achos hwn yw y bydd dau adeilad parhaol yn cau, a bydd mwy o blant yn cael eu symud i adeiladau dros dro ar safle'r trydedd ysgol. Mae hyn yn gwbl groes i bolisi'r Cyngor ei hunan, ac ynddo'i hun yn ddigon o reswm dros amrywio'r fformiwla ariannu yn yr achos penodol hwn. Dylid caniatau i'r plant barhau gyda'u haddysg yn yr adeiladau presennol."

10/20/2008

Pryder am fywyd gwyllt y môr

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru wedi mynegi pryder mawr am ansawdd y dŵr yn ardal Porth Tywyn. Dywedodd y Cyng Siân Caiach, "Mae llawer wedi sôn am yr effaith ar gocos, ond mae wedi dod i'r amlwg fod cryn effaith ar anifeiliaid eraill, gan gynnwys yr adar sy'n byw ar lan y môr.

"Mae'n amlwg fod ystod o gemegau a deunyddiau yn achosi'r effeithiau hyn, ond taw gwraidd y broblem ydy'r system carthffosiaeth yn yr ardal, sy'n gwbl annigonol erbyn hyn."

Dywedodd Cyng Winston Lemon, "Bues i mewn cyfarfod o Fforwm Llifogydd Llanelli yn ddiweddar, ac roeddwn i'n synnu'n fawr i glywed nad ydym ni ddim hyd yn oed yn gwybod lle mae'r draens yn yr ardal, nag ychwaith pa rai sy'n cario carthffosiaeth a dŵr wyneb gyda'i gilydd. Mae hyn yn anhygoel, ond heb yr wybodaeth hon, mae'n anodd gweld sut y gallwn weithredu'n effeithiol."

Dywedodd Cyng Caiach hefyd, “Mae gyda ni broblem ddifrifol yn fan hyn, ac nid oes neb yn mynd i'r afael â hi'n effeithiol. Yn y cyfamser, rydym ni'n dal i ddatblygu mwy o dai ac ati, nid yng Nghaerfyrddin yn unig, ond hefyd o amgylch Abertawe, sydd ond yn gwaethygu'r broblem."

Mae'r cynghorwyr yn cydweithio'n agos gyda'r AC lleol, Helen Mary Jones, sydd wedi annog Llywodraeth Cymru'n Un i drefnu ymchwiliad annibynnol i'r sefyllfa.

10/16/2008

Sir ar ei hennill

Roedd pawb yn gwybod y byddai'r setliad o Lywodraeth y Cynulliad eleni yn un anodd i gynghorau ar draws Cymru. Ond mae'r ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru'n Un yn rhoi codiad o 4.2% i Sir Gâr. Dyma'r canran uchaf yng Nghymru, ac yn uwch o dipyn na'r canran o 2.9% ar gyfer Cymru oll.

Wrth gwrs, gyda chwyddiant yn cynyddu i 5.2% yr wythnos hon, nid yw'n ddelfrydol, ond doedd neb yn disgwyl setliad hael iawn eleni. O ystyried lefel gymharol uchel setliad Sir Gâr, rydym ni'n disgwyl i'r clymblaid sy'n rhedeg y sir - sef y Blaid Lafur a'r Blaid Annibynol - ganolbwyntio ar ddiogelu'n gwasanaethau, yn hytrach na chwyno am lefel y setliad.

Peter Hughes Griffiths, Arweinydd y Grŵp

10/14/2008

Plaid yn cwyno am ddiffyg democratiaeth

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gar wedi mynegi eu siom am y penderfyniad i gau Pwll Nofio'r Hendy, ac yn benodol am y ffordd y gwnaed y penderfyniad.

Dywedodd Cyng Dyfrig Thomas - dirprwy arweinydd grŵp y Blaid ar y cyngor, "Dwi'n anhapus, unwaith yn rhagor, fod y cyngor wedi cymryd y penderfyniad hwn mewn ffordd mor annemocrataidd. Nid penderfyniad y cyngor llawn mo hyn - dim hyd yn oed penderfyniad pwyllgor. Na, fe wnaed y penderfyniad hwn gan un cynghorydd yn unig yn rhinwedd ei swydd fel aelod o'r Bwrdd Gweithredol. Mae'n tanlinellu, unwaith yn rhagor, yr angen am fwy o ddemocratiaeth yn Sir Gâr."

Cafodd Cyng Thomas gefnogaeth gan ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Llanelli, Myfanwy Davies, a ddywedodd, "Dwi wedi bod yn gwrando ar gyflwyniadau ac arddangosfeyd o gynlluniau'r datblygwyr am y parc, ond dwi'n synnu'n fawr nad yw'r Cyngor wedi trafod y cynlluniau yn y cyngor llawn, nag ychwaith rhoi cyfle i gynghorwyr bleidleisio arnynt. Mae pobl yr Hendy'n haeddu gwell na hyn gan y Cyngor. Mae'r Cyngor yn gweithredu mewn modd sy'n cau'r cyhoedd allan o'u penderfyniadau yn hytrach na gwrando arnynt."

10/06/2008

Ffederaleiddio Ysgolion Gwledig

Mae dyfodol ysgolion gwledig yn fater pwysig i lawer ohonom ni yma yn Sir Gar. Dwi wedi codi pryderon o’r blaen am bolisi’r Cyngor Sir, sydd, ymddengys, wedi’i ymrwymo i gau ysgolion bychain a chanoli addysg mewn nifer llai o ysgolion mwy. Rydym ni’n credu fod dyfodol cynaliadwy i lawer o ysgolion gwledig, dim ond i’r Cyngor Sir fod yn fwy parod i fod yn hyblyg.

Mewn cyfarfod diweddar o’r Cyngor Sir, gofynnodd grŵp Plaid Cymru am i’r Cyngor Sir atal cau ysgolion, oherwydd yr oeddem ni’n gwybod fod Llywodraeth y Cynulliad ar fin cyhoeddi canllawiau newydd a fyddai’n ei gwneud hi’n haws i gadw ysgolion ar ffurff ffederal. Yn anffodus, gwrthododd y grŵp sy’n rhedeg y cyngor.

Mae’r canllawiau newydd wedi’u cyhoeddi bellach, ac ar gael yn fan hyn. Dwi’n annog rhieni a llywodraethwyr yn ardaloedd gwledig y sir lle mae eu hysgolion dan fygythiad i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Dwi hefyd yn galw eto am i’r Cyngor Sir atal cau ysgolion er mwyn rhoi cyfle teg i rieni a llywodraethwyr ystyried yr opsiwn newydd yn drylwyr.

Cyng Eirwyn Williams, Cynwyl Gaeo