2/15/2009

Ad-drefnu addysg yn codi pryderon


Yn sgil cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus llwyddiannus iawn ar addysg yn ardal Gwendraeth / Dinefwr, mae’r Blaid wedi datgan fod pryderon mawr ynghylch cynlluniau’r cyngor sir i ad-drefnu ysgolion uwchradd yr ardal. Dywedodd arweinydd y Blaid ar Gyngor Sir Gâr, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Daeth llawer iawn o bobl i’n cyfarfodydd. Mynegwyd pryder mawr am gynigion y Cyngor, a dim ond ychydig iawn o bobl oedd yn gefnogol i’r cyngor. Roedd y pryderon mwya’n ymwneud â’r amserlen fer a’r ffordd y mae’r cyngor wedi dewis ystyried rhan yn unig o’r sir, yn hytrach na llunio cynllun cynhwysfawr.”
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, a fynychodd y cyfarfod yn Llangadog, yr oedd yn anfodlon â’r neges yr oedd y Cyngor Sir yn ei rhoi i bobl. “Clywsom bobl yn dweud fod y cyngor sir wedi dweud wrthynt nad oedd unrhyw ddewis wrth lunio’r cynlluniau. Ymddengys fod y cyngor sir wedi honni ei fod yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Fel AC, dwi wedi trafod hyn gyda’r Gweinidog Addysg, a gallaf ddweud yn gwbl bendant fod hyn yn anghywir.

"Mae Jane Hutt wedi bod yn glir iawn, gan ddweud wrthyf nad yw hi na’r un o’i swyddogion wedi rhoi unrhyw gyfarwyddyd i’r cyngor sir am natur manwl y cynlluniau. Mae hynny’n fater i’r cyngor sir yn unig – a dyna sut y dylai fod. Dwi ddim yn deall pam fod y cyngor sir mor benderfynol o gamarwain pobl ar hyn.”

Dywedodd AS Dwyrain Caerfyrddin, Adam Price, a fu mewn dau o’r cyfarfodydd, “Dwi’n falch iawn o weld sut mae grŵp y Blaid ar y cyngor sir yn dangos sut dylai ymgynghori weithio. Nid oedd ganddynt unrhyw rhag-canfyddiadau, dim cynlluniau i’w rhoi o flaen pobl; aethon nhw allan a gwrando. Cawsant ymateb da iawn i’r dull hwnnw o weithredu – ac roedd pobl yn dweud wrthyf pa mor wahanol oedd dull Plaid Cymru a dull y cyngor sir o weithredu. Mae addysg yn un o brif gyfrifoldebau’r cyngor sir, ac mae’n hanfodol rhoi ystyriaeth briodol i farn y bobl o’r cychwyn cyntaf. Mae paratoi ystod cyfyngedig o opsiynau a gofyn i bobl ddewis rhyngddynt ymhell o fod yn ymgynghoriad go iawn.”

Ar ôl cynnal tri chyfarfod, yn Cross Hands, Llangadog, a Rhydaman, bydd y Blaid bellach yn paratoi eu cynlluniau eu hunain ar yr opsiynau posib, a cheisio newid polisi’r cyngor o ganlyniad. Wrth wneud hynny, byddant yn cydweithio gyda llefarydd Addysg newydd y Blaid yn y Cynulliad, Nerys Evans AC, sydd â’i swyddfa yng Nghaerfyrddin.

Mae hi wedi addo cydweithrediad llawn i’r cynghorwyr, a dywedodd hi yr wythnos hon, “Dwi wedi codi’r mater hwn gyda Jane Hutt ar sawl achlysur, a bob tro mae’n dweud wrthyf taw mater i Sir Gâr yn unig yw’r manylion. Nid oes dim byd ym mholisïau Llywodraeth y Cynulliad sy’n gorfodi unrhyw gyngor i gau neu gyfuno ysgolion. Mae opsiynau eraill ar gael, a byddwn ni’n eu hystyried yn fanwl.”

Dywedodd Cyng Peter Hughes Griffiths wrth gloi, “Mae hyn wedi bod yn broses werthfawr iawn, a dwi’n meddwl fod pobl leol wedi dod i’r un casgliad. Mae’n ddull o ymgynghori y byddwn ni’n ei ddefnyddio eto yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth i’n cyfarfodydd – rhaid oedd y cyfanswm trsd 300 – a cheisiwn adlewyrchu’r holl safbwyntiau a fynegwyd yn ein cynigion ninnau.”

No comments: