6/30/2009

Croesawu llwyddiant ysgol

Mae'r newyddion fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ennill gwobr am waith a wnaed yn Ysgol Carwe wedi derbyn croeso cynnes gan y cynghorydd lleol, Tyssul Evans. Mae'r cynllun yn ymwneud â Llwybrau Diogel i'r ysgol, ac enillwyd y wobr yn y categori 'lleihau anafiadau i blant".

Dywedodd Cyng Evans o Blaid Cymru, sydd hefyd yn gadeirydd y Cyngor Sir eleni, "Dwi'n hynod o falch o glywed am y wobr hon am waith a wnaed mewn ysgol yn fy ward i. Mae cynllun Llwybrau Diogel yn gynllun pwysig; ac mae ennill gwobr yn dangos sut y gall hyd yn oed ysgol gymharol fach chwarae rhan mewn cynlluniau o'r fath. Llongyfarchiadau i bawb am hyn - ond yn arbennig, wrth gwrs , i staff a disgyblion yr ysgol."

6/29/2009

Plaid yn herio am dai fforddiadwy

Mewn cyfarfod o Gyngor Sir Caerfyrddin, heriwyd arweinwyr y cyngor gan arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, ar dai fforddiadwy. "Mae polisi'r cyngor yn dda iawn, ar y cyfan," dywedodd Cyng Hughes Griffiths, "ond mae gen i rywfaint o bryder nad ydym bob amser yn glynu ato. Pan fydd datblygwyr yn ceisio caniatad i adeiladu mwy o dai yn y sir, mae'r cyngor yn ceisio bob tro i gael cytundeb fod canran o'r tai yn dai fforddiadwy. Ymddengys ar adegau, fodd bynnag, ei bod yn rhy hawdd i'r datblygwyr ddod yn ôl i'r cyngor ar ôl derbyn caniatad, a newid y cytundeb - fel arfer er mwyn lleihau nifer y tai fforddiadwy.

"Y canlyniad yw bod y datblygiadau a welwn yn ein pentrefi a'n trefi'n methu â mynd yn ddigon pell i ddiwallu anghenion pobl leol. Mae'n fater anodd, oherwydd i swyddogion y cyngor ein rhybuddio'n glir fod yn rhaid i ni fod yn barod i drafod yn rhesymol, neu ynteu fod perygl o apêl gostus; a gallai'r cyngor golli'r fath apêl. I mi, mae hyn yn dangos fod gwendid yn y system cynllunio. Pan fydd y cyngor yn gwneud penderfyniad, dylem ddisgwyl gweithredu'r penderfyniad hwnnw."

Mynegodd Cyng John Edwards ei bryder yntau na fydd y cyngor yn cwrdd â'i dargedau ei hunan ar gyfer tai fforddiadwy ar sail y ffigyrau a gyflwynwyd i'r cyngor. Ychwanegodd, "Beth sydd ei angen yw system o gynllunio sy'n cychwyn trwy asesu'r anghenion lleol ac wedyn yn ymateb i'r anghenion hynny, yn hytrach na system lle mae datblygwyr yn ceisio adeiladu'r tai fydd yn creu'r elw mwyaf iddyn nhw. Dylid cynllunio ar sail angen."

6/24/2009

Dryswch ynghylch adeiladu tai

Yn sgil apêl gan gynghorydd Llafur y dylai'r llywodraeth fod yn annog Cyngor Sir Caerfyrddin i adeiladu mwy o dai, mae Plaid Cymru wedi ymateb trwy dynnu sylw at y ffaith taw'r Blaid Lafur sy'n rhwystro'r cyngor rhag gwneud hyn.

Dywedodd llefarydd Tai'r Blaid ar y Cyngor, y Cyng Joy Williams, "Dwi'n falch iawn o weld fod y cyngor yn ymddangos i fod yn unfrydol o blaid cael yr hawl i adeiladu mwy o dai cyngor. Gall hyn fod yn rhan bwysig o'n hymateb i'r galw am fwy o dai fforddiadwy yn ein cymunedau. Ymddengys fod pob grŵp ar y cyngor yn cytuno â hyn.

"Fodd bynnag, ymddengys nad yw'r Blaid Lafur yn deall taw rheolau'r Trysorlys yn Llundain sy'n ein rhwystro, nid Llywodraeth y Cynulliad. Canghellor y Trysorlys o'r Blaid Lafur sy'n gyfrifol am y sefyllfa hon."

6/22/2009

Rheoli'r traffig yn well trwy Lannon

Yn sgil sylwadau a wnaed gan Cynghorwyr Sir Plaid Cymru, Emlyn Dole a Phil Williams, mae'r Cyngor Sir wedi cytuno i ystyried cymryd camau i dawelu'r traffig ar y priffordd yr holl ffordd trwy Lannon. Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Cyng Emlyn Dole, "Mae'r ffordd hon yn syth iawn mewn mannau, a'r canlyniad yw fod gyrwyr yn gyrru'n gynt na'r cyfyngiad swyddogol. Mae hyn yn beryglus i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, yn arbennig plant. Gobeithio y bydd yr hyn a wneir gan y cyngor yn helpu sicrhau fod gyrwyr yn cadw at y cyfyngiad cyflymdra, ac y bydd hynny'n gwella diogelwch."

Ar hyn o bryd, nid oes penderfyniad pendant ar natur y camau sydd i'w cymryd. Mae'r ddau gynghorydd wedi trefnu sesiwn agored yn y pentref, lle bydd swyddogion y cyngor yn amlinellu eu cynlluniau, a byddant ar gael i glywed barn trigolion am y ffordd orau ymlaen.

Ychwanegodd Cyng Dole, "Dwi'n falch fod y cyngor sir mor fodlon gwrando ar y farn leol ar y mater hwn, ac yn edrych ymlaen at weithredu buan ar ôl i'r trigolion ddweud eu dweud."

6/18/2009

Goryrru trwy Lanllwni

Ysgol Llanllwni yw'r unig ysgol yn Sir Gâr lle na chyfyngir cyflymdra cerbydau i 30mya neu'n llai, yn ôl y cynghorydd sir lleol, Linda Davies Evans.

Mae'r cynghorydd, sy'n aelod o Blaid Cymru, yn gweithio gyda swyddogion y Cyngor Sir i geisio gostyngiad yn y cyflymder uchaf ac i ystyried camau eraill y gellir eu cymryd y tu allan i'r ysgol, a thrwy bentref Llanllwni yn gyffredinol, er mwyn gwella diogelwch.

"Mae Ysgol Llanllwni wrth ymyl y briffordd," meddai'r Cynghorydd Evans. "Rydyn ni i gyd yn gwybod yn iawn fod cyflymder yn cael effaith mawr ar ddififoldeb unrhyw anafiadau mewn damwain. Mae'r cyfyngiad yn 30 neu hyd yn oed 20mya y tu allan i bob ysgol arall yn y sir, ac mae'r galw am gyfyngiad o 20mya y tu allan i bob ysgol yn cynyddu. Ond yn fan hyn, y cyfyngiad yw 40mya. Mewn gwirionedd, mae hynny'n golygu fod y traffig yn gyrru heibio ar gyflymder o hyd at 50mya.

"Dwi'n gofyn i'r Cyngor Sir osod cyfyngiad is ar unwaith, ac hefyd i ystyried camau eraill y gellir eu cymryd i sicrhau fod gyrwyr yn cadw at y cyfyngiad newydd. Rhaid rhoi'r flaenoriaeth i ddiogelwch, yn arbennig diogelwch ein plant," dywedodd Cyng Evans.

6/08/2009

Pryderon am werth tai cyngor

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi mynegu eu pryder am yr oedi wrth roi pwerau newydd dros Dai i'r Cynulliad. Mae'r Cynulliad wedi gofyn am yr hawl i atal gwerthu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae prinder tai, ond mae ASau Llafur a Thorïaidd wedi bod yn cydweithio ers misoedd i rwystro'r Cynulliad rhag cael y pwerau hyn. Hyd yma, nid oes ateb i'r broblem, ond mae'r sefyllfa'n newid yn lleol yn y cyfamser.

Dywedodd Cyng Linda Davies Evans yr wythnos hon, "Mae Sir Gâr yn un o'r ychydig gynghorau yng Nghymru sydd wedi penderfynu cadw ei stoc o dai cyngor yn hytrach na'u trosglwyddo i asiantaeath allanol, a dwi'n cefnogi hynny'n gryf iawn. Nid hynny'n unig - mae'r cyngor hefyd yn buddsoddi'n sylweddol er mwyn gwella'r tai sydd yn ei feddiant.

"Y mae perygl, fodd bynnag, y gall hyn arwain at golli nifer o dai, gan y bydd y tai'n fwy deniadol i'w prynu. Dwi ddim yn awgrymu am eiliad na ddylem ni ddim gwella'r tai - wrth gwrs fe ddylem ni. Mae'n hanfodol fod y cyngor yn landlord da, ac yn darparu tai o safon i'w denantiaid. Ond mae hefyd angen i ni sicrhau fod y buddsoddiad yn helpu nid yn unig tenantiaid heddiw, ond hefyd tenantiaid y dyfodol, a bod tai ar gael i'n pobl ifanc."

Ychwanegodd llefarydd Tai y Blaid ar y Cyngor, Cyng Joy Williams, "Mae Llywodraeth Cymru'n Un wedi cydnabod y problemau a all godi, ac wedi gofyn am rymoedd newydd i sicrhau fod cynghorau'n gallu dal eu gafael ar dai ar ôl eu gwella. Mae'n hollol annerbyniol fod ASau Llafur a Cheidwadol yn tanseilio hyn yn y fath fodd; ac mae'n bosib eu bod nhw'n peryglu gallu'r cyngor i ddal i ddarparu cartrefi yn y dyfodol."