4/06/2010

Cost y cynllun parcio

Bydd y cynllun i osod peiriannau i godi am barcio yn Heol Awst yn costio oddeutu £24,000, mae’r cyngor sir wedi datgelu. Mewn llythyr at Gyng Arwel Lloyd, mae’r cyngor wedi rhoi’r ffigwr hwn ar gyfer cyfanswm y gost, gan gynnwys y costau cyfreithiol a’r costau hysbysebu wrth wneud y Gorchmynion perthnasol, yn ogystal â’r gost o brynu a gosod y peiriannau eu hunain.

Ymateb Cyng Lloyd oedd, “Mae hyn yn gost sylweddol i’r cyngor, a dwi’n amau y cymer rhai blynyddoedd i adennill y gost gychwynnol, heb sôn am y gost o’i fonitro a’i weinyddu. Mae’r cynllun yn amhoblogaidd ac yn ddi-angen. Fel yr ydym ni wedi dweud sawl tro, mae’r trefniadau presennol yn gweithio’n dda, ac nid oes angen newid, yn arbennig newid fydd yn effeithio ar nifer o fusnesau yn Heol Awst. Unwaith eto, rydym yn galw ar y cyngor i anghofio’r cynllun hwn.”