11/13/2009

Trethu'r Sul

Cafwyd ymateb cryf gan Blaid Cymru yn Sir Gâr i awgrym fod y Pleidiau Llafur ac Annibynnol yn y sir ar fin codi tâl am barcio ar y Sul ym meysydd parcio’r dref yn y dyfodol agos. Er bod yn rhaid talu rhwng 8:00am a 6:00pm o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn ar hyn o bryd, ni chodir am barcio min nos neu ar ddydd Sul.

Dywedodd John Dixn, ymgeisydd seneddol y Blaid am yr ardal, “Byddai hyn yn effeithio ar gannoedd, os nad miloedd, o bobl sy’n cael parcio am ddim ar ddydd Sul ar hyn o bryd. Byddai’n effeithio ar bawb sy’n gyrru i’r dref er mwyn mynychu’r eglwysi a’r capeli yng nghanol y dref, yn ogystal â’r rhai sy’n dod i’r dref i siopa ar y Sul neu am resymau eraill. Mae’n dreth gudd ar y Sul – codi am rywbeth sydd wedi bod yn rhad ac am ddim hyd yma - ac yn rhwystr arall i’r rhai sydd am ddefnyddio canol y dref yn hytrach na chanolfannau manwerthu mawr ar y cyrion. Beth nesaf? Codi am barcio min nos hefyd? Mae’r Blaid Lafur a’r Blaid Annibynnol yn gweld popeth yn nhermau ariannol; mae cyfle i godi arian at goffrau’r cyngor yn bwysicach iddyn nhw nag anghenion pobl a busnesau’r sir. Bydd y Blaid yn gwneud popeth yn ein gallu i atal y cynllun hwn.”

Dywedodd Cyng Peter Hughes Griffiths, arweinydd y Blaid ar y cyngor sir, “Pan glywais si fod y fath gynllun yn cael ei ystyried, roeddwn i’n methu â chredu’r peth. Ond, pan ofynnais i’r cyngor beth oedd yn digwydd, cefais gadarnhad fod y cynnig hwn yn cael ei ystyried. Mae’n awgrym crintachlyd, a’r unig fwriad yw codi mwy o arian o bocedi trigolion lleol. Bydd hyn yn dreth ar y rhai sy’n dod i’r dref i addoli – rhywbeth na ddylai’r cyngor byth fod yn ei ystyried.”

Cefnogwyd y ddau yn gryf gan Gynghorydd Arwel Lloyd, sydd wedi arwain ymgyrch y Blaid yn erbyn y cynllun i godi am barcio yn Heol Awst. “Mae ein hymgyrch wedi cael cefnogaeth eang iawn,” meddai. “Ar ôl gweld cryfder y gwrthwynebiad i’r cynigion ar gyfer Heol Awst, mae’n anhygoel i mi y gallan nhw hyd yn oed ystyried codi am barcio ar ddydd Sul. Bydd hyn yn effeithio ar hyd yn oed mwy o bobl na’r cynnig ar gyfer Heol Awst. Bydd pobl Caerfyrddin yn gynddeiriog ynghylch y syniad. Gallaf addo y bydd y cyngor yn gwynebu ymgyrch gref iawn yn erbyn y cynnig hwn.”

Roedd cynghorwyr eraill Plaid Cymru yn y dref, Gareth Jones ac Alan Speake, hefyd yn addo eu cefnogaeth lawn i’r ymgyrch yn erbyn y cynnig hwn.

No comments: