12/18/2008

Mwy na le i gwrdd

"Mae ysgolion bach gwledig yn llawer mwy pwysig na llefydd i gynnal cyfarfodydd," yn ôl Cyng Eirwyn Williams. Roedd Cyng Williams, sy'n llefarydd addysg Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin, yn ymateb i adroddiad gan bwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol. "Maent yn cyflawni swyddogaeth llawer ehangach na hynny, ac yn aml iawn, maent yng nghanol gweithgarwch y gymuned."

Wrth gyhoeddi adroddiad ei bwyllgor, roedd yr AC Llafur sy'n ei gadeirio wedi awgrymu fod rhai o'r bobl sy'n ymgyrchu dros gadw ysgolion bychain ar agor yn gwneud hynny dim ond er mwyn cadw man cyfarfod at ddefnydd y gymuned. Dywedodd Cyng Williams fod hyn yn gamddealltwriaeth difrifol o bryderon cymunedau lleol, ac yn dangos nad oedd yr AC Llafur ddim yn deall Cymru wledig.

Fodd bynnag, roedd rhai pwyntiau yn yr adroddiad oedd yn synhwyrol iawn, meddai Cyng Williams. "Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r angen i ystyried pob ysgol yn unigol cyn dod i benderfyniad," dywedodd Cyng Williams. "Dyma'r union bwynt yr ydym ni fel grŵp Plaid Cymru wedi bod yn ei bwysleisio yn Sir Gâr yn ystod y misoedd diwethaf. Mae'r glymblaid rhwng y pleidiau Llafur ac Annibynnol yn gweithredu yn ôl cynllun canolog - nid ydynt yn ystyried, nag ymateb i, anghenion a phryderon lleol, ac yn bendant, nid ydynt yn ystyried pob ysgol yn unigol.

"Yn sgil yr adroddiad diwethaf 'ma, dylai'r cyngor ail-feddwl."

12/08/2008

Cyngor yn gwrthod ymateb i'r galw am addysg Gymraeg

Yng nghyfarfod mis Tachwedd o Gyngor Sir Gâr, bu i gynghorwyr Plaid Cymru o ardal Llanelli ymosod yn gryf ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor am beidio â gwneud digon i ddiwallu'r angen am addysg Gymraeg yn ardal Llanelli.

Dywedodd Cyng. Huw Lewis, "Mae argyfwng mawr yn addysg Gymraeg yn ardal Llanelli. Dyw plant ddim yn derbyn yr addysg y mae eu rhieni'n dymuno, ac maent yn aml yn gorfod apelio yn erbyn penderfyniadau'r adran addysg. Dwi'n gwybod fod capasiti’n cynyddu, ond nid yw'n cynyddu'n ddigon cyflym i gwrdd â'r angen, sy'n tyfu trwy'r amser.

"O edrych ymlaen tan fis Medi nesaf, mae Ysgol Dewi Sant eisoes wedi derbyn 128 o geisiadau am 60 o lefydd. Mae'r sefyllfa'n mynd yn argyfwng, ac nid yw rhieni sydd eisiau addysg Gymraeg i'w plant yn cael chwarae teg. Mae'n hollol annheg fod rhieni'n cael lle yn yr ysgol o'u dewis os ydynt am gael addysg Saesneg, ond fod yn rhaid iddyn nhw ymladd pob cam i gael lle mewn ysgol Gymraeg. Nid dyma sut y dylai polisi dwyieithog weithredu."

Cefnogwyd ei alwad am weithredu ar frys gan y Cyng. Gwyn Hopkins, a dynnodd sylw at y canran isel o blant sy'n derbyn addysg Gymraeg yn Llanelli, o gymharu â gweddill y sir. "Yn ardal Llanelli," meddai fe, "dim ond rhyw 25% o'r plant sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, o gymharu â 60% yng ngweddill y sir. Mae hynny'n amlygu'r gwahaniaeth enfawr yn y ddarpariaeth gan y Cyngor, ac yn tanlinellu'r angen i drin Llanelli fel achos arbennig.

"Mae'r polisi a gymeradwywyd gan y Cyngor rhai blynyddoedd yn ôl yn mynd yn llai perthnasol wrth i'r galw gynyddu ynghynt na'r disgwyl, ac mae hynny'n golygu fod cynlluniau presennol y cyngor yn methu â darparu digon o lefydd pan fydd eu hangen.

"Yn Llangennech yn unig, lle mae ffrydiau Saesneg a Chymraeg ar wahân, rydym yn gweld fod y ffrwd Gymraeg yn tyfu'n gyson, a'r ffrwd Saesneg yn gostwng ar yr un pryd. Rhaid i'r Cyngor ymateb i'r galw yn gyflymach nag y mae ar hyn o bryd, ac mae hynny'n golygu, fel y cam lleiaf posib, cynllunio ar gyfer ysgol newydd ychwanegol ar ben popeth arall sy'n digwydd."