11/28/2008

Dim tâl am barcio yn Heol Awst!

Mae’r Cyngor Sir yn bwriadu codi tâl am barcio yn Heol Awst, Caerfyrddin. Dwi a’m cyd-gynghorwyr wedi cytuno i ymladd yn erbyn y cynllun yma, a fydd yn rhwystro pobl rhag parcio’n rhad ac am ddim yn y dref ar ymweliad byr.

Dim ond parcio am gyfnod byr sydd yn cael ei ganiatau yn Heol Awst ar hyn o bryd, ond mae’n creu cyfle ar gyfer pobl sydd ond yn ymweld am un neu ddau o eitemau penodol. Bydd codi am barcio naill ai yn cynyddu cost y fath ymweliad neu ynteu’n golygu nad yw pobl ddim yn dod i’r dref ar ymweliad byr yn y dyfodol. Yn yr hinsawdd economaidd presennol, ni ddylem wneud unrhyw beth sy’n golygu costau ychwanegol i bobl na bygythiad ychwanegol i fusnesau lleol.

Rydym ni’n credu y dylid parhau gyda’r system bresennol o barcio’n rhad ac am ddim am gyfnod cyfyngedig. Mae’n gweithio’n iawn.

Cyng Arwel Lloyd, De Tref Caerfyrddin

11/19/2008

Cefnogi Busnesau Gelli Onn

Mae gen i bryderon mawr am fusnesau Ward Lliedi sydd wedi dioddef colled sylweddol o ganlyniad i’r gwaith yng Ngelli Onn – yn arbennig yn Thomas Street.

Mae datblygiad Gelli Onn wedi creu anawsterau annisgwyl o fath nas gwelwyd o’r blaen, yn ogystal â cholled ariannol i’r busnesau. Mae cwsmeriaid posib wedi defnyddio ffyrdd eraill i gyrraedd y dref gan osgoi Thomas Street, ac maent yn dal i ddefnyddio’r ffyrdd hynny, hyd yn oed ar ôl cwpla’r gwaith.

Rhan o’r rheswm yw fod y pafin yn fwy cul sydd hefyd yn ei gwneud hi’n anos llwytho a dadlwytho – gwydr yn arbennig – a dwi wedi cael ar ddeall fod un busnes, a gwynodd am y mater, wedi’i fygwth gyda gwaharddiad parcio!

O ystyried y golled ariannol, fe gredaf fod gan y Cyngor Sir gyfrifoldeb moesol, a dyletswydd gofal, i ddi-golledu’r busnesau hyn a darparu cymaint o gefnogaeth ag sy’n bosib i’w galluogi i ddal i fasnachu.

Felly, dwi wedi apelio am i’r Prif Weithredwr – yn ogystal ag Arweinydd y Cyngor, a’r penaethiaid cyfreithiol ac ariannol – gwrdd â’r busnesau hyn i drafod eu hanghenion, ac i archwilio dulliau posib o’u cefnogi. Efallai y bydd hyn yn golygu fod yn rhaid i’r Awdurdod fynd y tu hwnt i’r hyn i’w gyfrifoldeb statudol, ond mae’n ddyletswydd arnom i ymateb gyda chydymdeimlad, ac i helpu gyda thaliadau a mathau eraill o gefnogaeth a fydd yn adfywio’r busnesau bach lleol sy’n asgwrn cefn yr economi lleol.

Mae angen gwrando arnynt, a dylai’r Awdurdod, trwy ei swyddogion, fod yn barod i wneud hynny. Dwi wedi awgrymu y dylid cynnal cyfarfod i’r perwyl hwn mor fuan a phosib.

Cyng Huw Lewis, Lliedi

11/17/2008

Pwy sy'n rhedeg y Cyngor?

Yn ôl y cyfansoddiad o leiaf, y cynghorwyr sy'n aelodau'r Bwrdd Geithredol sy'n gyfrifol am redeg y Cyngor. Ond weithiau, dwi ddim mor siwr.

Ystyriwch yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod diwethaf er enghraifft. Un o'r pethau mwyaf sylweddol ar yr agenda oedd adroddiad ar arolwg o Wasanaethau Cymdeithasol y Sir. Roedd yr adroddiad yn dda, gan ddangos llawer o gynnydd ers yr arolwg diwethaf, er, o ran Gwasanaethau i Oedolion yn benodol, roedd y man cychwyn yn isel iawn, gan ddilyn adroddiad beirniadol o'r blaen.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan aelod o'r Bwrdd Gweithredol, Cyng Kevin Madge, Llafur. Ar ôl ychydig o frawddegau cyffredinol am ba mor dda oedd y cyngor a faint o waith da a wnaed, eisteddodd i lawr, a rhoddwyd cyfle i gynghorwyr eraill godi cwestiynau.

Cafwyd cyfres o gwestiynau gan gynghorwyr y Blaid ar nifer o agweddau o'r adroddiad. Byddai dyn wedi disgwyl i'r aelod Bwrdd Gweithredol ymateb i'r rhain - wedi'r cyfan, efe sy'n gyfrifol ac yn atebol am yr hyn mae'r cyngor yn ei wneud - ac efe sy'n derbyn lwfans cyfrifoldeb arbennig am hynny. Dim gobaith.

Atebwyd pob un cwestiwn gan rywun arall, gan fwyaf gan y Cyfarwyddwr gyda chymorth y Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor - er yr oedd ei chyfraniad hithau, gan fwyaf, yn ymgais i feio'r Gweinidog Llafur yn Llywodraeth y Cynulliad. Dim ond ar y diwedd, pan ddaeth yr amser i gloi'r drafodaeth, oedd gan Gyng Madge unrhyw beth arall i'w ddweud. Hyd yn oed wedyn, nid ymateb i'r drafodaeth a wnaeth, ond ceisio beio ACau Plaid Cymru am benderfyniad Gweinidog Llafur yn y Cynulliad.

Ymddengys taw Cyng Madge sy'n gyfrifol mewn enw, ond ei fod naill ai yn anfodlon, neu ynteu ddim yn gallu ymateb i unrhyw bwyntiau manwl am y gwasanaethau y mae'n gyfrifol amdanynt. Neu efallai fod yr Arweinydd yn ofni na fydd yn rhoi'r ateb 'cywir'?

Cyng Peter Hughes Griffiths, Arweinydd y Grŵp

11/13/2008

Llafur yn ymosod ar Lafur

Un o nodweddion cyfarfodydd y cyngor llawn yn Sir Gâr yw'r ffordd y mae arweinwyr y ddwy blaid sydd yn ffurfio clymblaid - sef y Blaid Lafur a'r Blaid Annibynnol - yn treulio cymaint o'u hamser yn ymosod ar benderfyniadau Llywodraeth y Cynulliad. Ni chafwyd eithriad ddoe.

Yn gyntaf, bu i arweinydd y grŵp Llafur, y Cynghorydd Kevin Madge, gwyno'n arw am benderfyniad y Llywodraeth i docio 1% o gyllideb pob cyngor, gan fynnu y gall pob Cyngor ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o o leiaf y lefel hon. Yn nes ymlaen, bu i arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd "Annibynnol" Meryl Gravell ymuno yn y sbri trwy gwyno am oedi wrth basio arian i'r Cyngor Sir i fynd i'r afael â blocio gwelyau yn y sir.

Nawr, wrth gwrs, mae'n hysbys i bawb ond y ddau gynghorydd hwn fod y Gweinidog Llywodraeth lleol a'r Gweinidog Iechyd ill dau'n aelodau'r Blaid Lafur - ond rhywsut, mae'r cynghorwyr yn ymosod ar Blaid Cymru am fethiannau Gweinidogion y Blaid Lafur! Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol o'r ffordd y mae'r llywodraeth yn gweithredu.

Mae Peter Hughes Griffiths, arweinydd grŵp y Blaid ar y cyngor, bellach wedi gofyn am help ACau lleol Plaid Cymru i roi pwysau ar y ddau Weinidog i ymateb i'r cwynion.

11/06/2008

Gwib Holi

Cynhaliwyd sawl sesiwn 'Gwib Holi' ar draws y sir yn ddiweddar i roi cyfle i bobl ifanc gwrdd â chynghorwyr a thrafod eu gwaith gyda nhw. Bu nifer o gynghorwyr o grŵp y Blaid yno i gael eu holi.

Cafodd y bobl ifanc ychydig o funudau i holi cynghorydd ar ei waith, cyn symud ymlaen at gynghorydd arall. Ar ddiwedd y sesiwn, gofynnwyd iddynt werthuso perfformiad y gwahanol gynghorwyr.

Daeth Cynghorydd Gwyneth Thomas o Langennech ar y blaen yn ardal Llanelli. Dywedodd wedyn, "Bu'n ddigwyddiad diddorol iawn. Roedd cael cwestiynau gan bobl ifanc fel awyr ffres, ac roedd yn galonogol gweld eu diddordeb yn ein gwaith. Dwi'n edrych ymlaen at y tro nesaf!"

Yn ardal y Gwendraeth, dywedodd y bobl ifanc taw Cyng Emlyn Dole o Lannon oedd y gorau. Dywedodd Cyng Dole, "Roedd yn brofiad pur wahanol, ond mwynheais yn fawr. Mae'n bwysig ein bod ni fel cynghorwyr yn rhoi cyfle i'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli ein holi, ac roedd yn arbennig o werthfawr fod pobl ifanc yn gofyn y cwestiynau."