3/23/2010

Toriadau di-angen

Mae Cyngor Sir Gâr yn torri mwy o’i gyllideb a’i wasanaethau nag sydd angen yn ôl cynghorwyr Plaid Cymru. Mae’r cyngor yn disgwyl derbyn grant o £1.9miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond mae wedi penderfynu peidio â chyfri’r arian hwnnw fel incwm am y flwyddyn, ac i fynd ymlaen gyda chyfres o doriadau. Yn y cyfarfod o’r cyngor i osod y gyllideb, bu i aelodau Plaid Cymru ymosod ar nifer o’r toriadau, ac wedyn cynigiodd arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, ffordd amgen ymlaen.

“Am y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Cyng Hughes Griffiths, “mae’r cyngor wedi penderfynu anwybyddu’r grant hwn, oherwydd nad oedden nhw ddim yn gallu bod yn sicr o’i dderbyn. Ond y gwir yw yr oedden nhw wedi’i dderbyn bob blwyddyn, a’i roi yn y cronfeydd wrth gefn. Rydym ni’n hyderus y bydd y cyfan yn cael ei dderbyn unwaith eto eleni. Ein dadl ni oedd y dylid cyfrif yr arian hwn fel rhan o incwm y cyngor, a’i ddefnyddio i osgoi rhai o’r toriadau y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwneud. Un o’r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ein herbyn oedd fod y cyngor heb dderbyn yr arian eto – ond wrth gwrs, mae’r un peth yn wir am y cyfan o’r arian y bydd y cyngor yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf. Mae’r penderfyniad a ddylid cyfrif yr arian hwn neu beidio yn fater o farn – ac yn sgil profiad y blynyddoedd diwethaf, rydym yn hyderus iawn yn ein barn ni ar y mater.

Ar ôl i gynnig y Blaid gael ei drechu gan gynghorwyr o’r pleidiau Llafur ac Annibynnol, pleidleisiodd grŵp y Blaid i wrthod y gyllideb yn ei chrynswth.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Nid oeddem ni’n gallu, o ran cydwybod, derbyn cyllideb gyda chymaint o doriadau di-angen yn ein gwasanaethau. Fel grŵp ac fel plaid, byddwn yn dal i ddadlau o blaid cadw gwasanaethau hanfodol.”

No comments: