3/18/2010

Gor-ddatblygu Llandeilo

Mae Cyngor Sir Gâr wedi llunio canllawiau ar gyfer datblygiad a fydd yn ymestyn Llandeilo’n sylweddol, ond mae wedi denu nifer mawr o sylwadau a chwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n amlwg for nifer o bryderon difrifol am rai agweddau o’r datblygiad, a cheisiodd cynghorwyr Plaid Cymru newid y canllawiau er mwyn ymateb i’r pryderon hyn. Fodd bynnag, pleidleisiodd aelodau’r pleidiau Llafur ac Annibynnol yn erbyn y gwelliannau a gynigiwyd gan arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths.

Roedd Cyng Hughes Griffiths wedi galw am ohirio unrhyw ddatblygu tan ar ôl i’r ffordd osgoi gael ei hadeiladu, oherwydd pryderon difrifol am broblemau traffig. Awgrymodd hefyd y dylid sicrhau darpariaeth ddigonol yn yr ysgolion cyn i nifer y plant gynyddu, y dylai nifer a math y tai gael eu penderfynu ar sail anghenion lleol, ac y dylai fod canran penodol o dai fforddiadwy.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Credaf ei bod yn gwbl anghyfrifol i’r cyngor annog adeiladu nifer mawr o dai newydd cyn bod yr is-adeiledd yn ei le i gynnal y tŵf, a heb sicrhau fod y datblygiad yn diwallu anghenion lleol yn gyntaf ac yn bennaf. Mae Llandeilo’n dre hynafol, ac mae angen trin y mater o’i hehangu gyda gofal mawr, nid ei ruthro.”

Ychwanegodd Cyng Siân Thomas, “Mae’r cyngor eisoes wedi cydnabod y broblem ddifrifol o ran llygredd yn yr awyr yn y brif heol trwy Landeilo. Bydd unrhyw ddatblygiad newydd yn sicr o ychwanegu at y traffig, gan gynnwys traffig yr adeiladwyr tra bod y tai’n cael eu hadeiladu. Nid oes unrhyw bwrpas i’r gwaith mae’r cyngor wedi’i wneud i nodi’r ardaloedd gwaethaf am lygredd os bydd wedyn yn ychwanegu at y broblem trwy ei benderfyniadau ei hunan.”

No comments: