1/21/2010

Methu â rhagweld

Mae Cyngor Sir Gâr yn methu â chynllunio’n iawn ar gyfer costau poblogaeth hŷn, mae Cyng David Jenkins wedi honni. Mae e wedi codi cyfres o gwestiynau manwl am sefyllfa ariannol y cyngor, gan gynnwys y rhesymau am or-wario sylweddol ar wasanaethau i’r henoed.

Dywedodd Cyng Jenkins, “Mae digon o ddata ar gael yn nodi fod y boblogaeth yn heneiddio, ond ymddengys nad yw’r cyngor ddim wedi darparu’n ddigonol ar gyfer hyn yn ei gyllideb. Pan godais i gwestiwn ar hyn, yr ateb a gefais oedd fod y cyngor yn ceisio cynllunio ar gyfer y sefyllfa yma, ond wedi tanamcangyfri’r costau. Gwaeth byth, fe ddywedon nhw wrthyf eu bod wedi cael y ffigwr yn anghywir bob blwyddyn am sawl mlynedd bellach. Ymddengys nad ydynt yn dysgu o’u camgymeriadau.

“Mae’r ffaith fod y cyngor wedi tanamcangyfrif nifer yr henoed yn gyson yn berthnasol hefyd yng nghyd-destun eu hawydd i gau cartrefi’r henoed. Mae’n wirion i geisio cau cartrefi pan maen nhw’n cyfaddef, mewn gwirionedd, nad ydyn nhw’n gwybod faint o bobl fydd angen gofal. Ar sail y dystiolaeth hanesyddol, gallwn fod yn weddol sicr eu bod wedi tanamcanfgyfrif y galw.”

No comments: