1/18/2010

Gorfodi'r Cyngor i newid

Ymddengys ei bod yn debyg y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei orfodi i newid ei ddull o benodi cadeiryddion i’w bwyllgorau o dan Fesur newydd o eiddo Llywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth wedi dweud wrth awdurdodau lleol ers rhai blynyddoedd bellach y dylid rhannu’r swyddi ar draws y pleidiau gwleidyddol ar sail gyfrannol, ond mae’r pleidiau Llafur ac Annibynnol sy’n rheoli’r cyngor ar hyn o bryd wedi mynnu cael mwy na’u cyfran deg o’r swyddi. Mae’n debyg y bydd y Llywodraeth hefyd yn mynnu fod cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn dod o’r wrthblaid – rhywbeth arall y mae Cyngor Sir Gâr wedi gwrthod gwneud.

Dywedodd Cyng Gwyn Hopkins, ”Ymddengys na fydd y Blaid Lafur na’r Blaid Annibynnol yn y sir hon yn newid eu hagwedd ond dan orfodaeth. Ni ddaw democratiaeth, o’r fath sy’n gyffredin mewn siroedd eraill, i Sir Gaerfyrddin heb newid y gyfraith. Mae’r Blaid wedi dadlau yn gyson ers blynyddoedd y dylid rhannu swyddi o fewn y cyngor ar sail deg, gan roi cyfle i’r holl bleidiau gael rhywfaint o ddylanwad ar benderfyniadau, ond mae Meryl Gravell a’i chlîc wedi bod yn benderfynol o gadw cymaint ag sy’n bosib o rym iddyn nhw eu hunain, gan gloi Plaid Cymru allan. Rydyn ni wedi rhoi sawl cyfle iddyn nhw ddilyn y cyngor a gafwyd gan y Llywodraeth, ond gwrthod a wnaethan nhw ar bob adeg. Ymddengys bellach y byddant yn gorfod newid – ond y tebygrwydd yw taw dan brotest yn unig y digwyddith hynny.”

No comments: