2/11/2010

Gwastraffu arian, a chamarwin y bobl

Mae Cyngor Sir Gâr wedi gwastraffu miloedd o bunnoedd o arian y trethdalwyr trwy logi ymgynghorwyr i werthuso safleoedd posib ar gyfer ysgol newydd yn Ninefwr, yn ôl Plaid Cymru. Gofynnodd y Cyngor i’r ymgynghorwyr ystyried 14 o safloedd posib ar gyfer ysgol uwchradd newydd i wasanaethu ardal Dinefwr. Byddai’r ysgol newydd yn cymryd lle dwy ysgol bresennol, sef Tre-gib yn Llandeilo, a Phantycelyn yn Llanymddyfri. Fodd bynnag, roedd y cyfarwyddyd a roddwyd i’r ymgynghorwyr yn llwyr anwybyddu y mater o iaith yr addysg. Yn ôl Plaid, mae’r canlyniadau’n gwbl ddi-ystyr o ganlyniad.

Dywedodd arweinydd y Blaid ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Rydym wedi pwyso ar y cyngor o’r cychwyn cyntaf i gynnal arolwg o’r rhieni i asesu’r galw am addysg Gymraeg, ond ymddengys eu bod yn benderfynol o anwybyddu’r cwestiwn. Ond wrth wneud hynny, maen nhw hefyd yn anwybyddu polisi’r cyngor ei hun, a pholisi Llywodraeth Cymru. Mae’r ddau bolisi yn dweud y dylid parchu dymuniad y rhieni, ac y dylid annog rhieni i ddewis addysg Gymraeg.

“Rhoddwyd cyfarwyddyd i’r ymgynghorwyr ynghylch maint yr ysgol a’r niferoedd tebygol o blant. Ond mae hyn i gyd wedi’i seilio ar y dybiaeth y bydd holl rieni’r ardal yn dewis anfon eu plant i’r ysgol newydd, ac na fydd neb yn mynnu addysg Gymraeg. Mae hynny, yn amlwg, yn nonsens llwyr – ac mae canlyniadau’r astudiaeth yn gwbl annilys o ganlyniad. Mewn gair, mae’r cyngor wedi gwastraffu miloedd o bunnoedd o arian y trethdalwyr.”

Mae’r Blaid hefyd yn cyhuddo’r cyngor o gamarwain rhieni yng ngogledd y sir ynghylch lleoliad posib unrhyw ysgol newydd. “Pan gynhaliwyd arolwg o’r rhieni am yr opsiynau cyfyngedig a roddwyd o’u blaen,” dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “fe ddywedon nhw wrth bobl yn ardal Llanymddyfri y byddai unrhyw ysgol newydd yn cael ei hadeiladu, yn ôl pob tebyg, yn ardal Llangadog, tua hanner ffordd rhwng y ddwy ysgol bresennol. Dwi’n gwybod i sicrwydd fod rhai rhieni wedi rhoi eu cefnogaeth i’r syniad o gael ysgol newydd ar sail y dybiaeth honno ynghylch y lleoliad.

“Dyna oedd yr unig leoliad posib a awgrymwyd gan y Cyngor Sir ar y pryd. I ddweud nawr eu bod yn bwriadu codi’r ysgol newydd i’r Dde o Landeilo yn rhywbeth a fydd yn ergyd drom i’r rhieni. Mae hefyd yn annilysu unrhyw gasgliadau a wnaed ar sail ymateb y rhieni.”

Gorffennodd Cyng Hughes Griffiths trwy ddweud, “Yr hyn sy’n dod yn gynyddol amlwg yw bod y cyngor wedi penderfynu’r cyfan cyn hyd yn oed dechrau siarad â’r rhieni, ac mae’r holl ymgynghori wedi bod yn gwbl anniffuant. Byddan nhw’n ceisio gyrru eu cynlluniau yn eu blaen beth bynnag mae’r rhieni yn ei ddweud, gan ddiystyru’r hyn sydd orau o ran addysg ein plant a dyfodol ein hiaith. Byddwn ni ym Mhlaid Cymru’n dal i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ymgynghoriad teg a dilys, a bod y cyngor yn parchu dewis y rhieni.”

No comments: