1/25/2010

Penderfyniad pwy?

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi mynnu gwybod pwy sy’n gwneud y penderfyniadau yn y sir, a phryd. Mae hyn yn dilyn enghraifft lle mae’n ymddangos fod penderfyniad wedi’i weithredu cyn iddo gael ei wneud. Gofynnodd Cyng Marie Binney yng nghyfarfod y cyngor ar 9fed Rhagfyr a fyddai pobl yn cael parcio am ddim ym meysydd parcio’r cyngor yn y cyfnod cyn y Nadolig, fel oedd wedi digwydd ym mlynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Cyng Binney, “Roeddwn yn falch iawn o glywed fod arweinwyr y cyngor wedi cytuno caniatáu i bobl barcio am ddim eto eleni, am bythefnos yn cychwyn ar 10fed Rhagfyr. Wedyn, ychydig ar ôl y Nadolig, darllenais i gofnodion y Bwrdd Gweithredol ar 14eg Rhagfyr, gan ddarganfod na chymrwyd y penderfyniad tan y cyfarfod hwnnw. Yn syml iawn, ymddengys fod y penderfyniad wedi’i weithredu bedwar diwrnod cyn ei gymryd!

“Wedyn, fe ges i wybod fod y penderfyniad wedi’i gyhoeddi yn rhifyn diwethaf papur propaganda’r cyngor, Newyddion Cymuned. Argraffwyd y papur hwnnw ar 25ain Tachwedd, a deallaf fod yn rhaid i’r deunydd fod yn barod 10 diwrnod cyn hynny, fel y gellir ei gyfieithu a’i osod ac ati. Felly, pwy gymerodd y penderfyniad, a phryd? Ar awdurdod pwy y cynhwyswyd y stori yn y papur, ac ar awdurdod pwy oedd y cyngor wedi peidio â chodi am barcio ar ôl 10fed Rhagfyr?

“Er fy mod yn meddwl fod y cyngor wedi cymryd y penderfyniad iawn yn yr achos hwn, mae gen i bryder mawr am y ffordd y gwnaed y penderfyniad. A yw’r cyngor wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy weithredu’r penderfyniad cyn y cyfarfod, neu a yw wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy wneud y penderfyniad mewn rhyw gyfarfod cyfrinachol, heb rybudd priodol? Rydyn ni wedi mynegi’n pryder i’r Prif Weithredwr, gan ofyn am esboniad llawn.

No comments: