3/11/2009

Y Blaid yn erbyn codi'r dreth

Yng nghyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos ddiwethaf, ceisiodd grŵp y Blaid atal codi’r dreth gyngor o fwy na chwyddiant eleni. Roedd y glymblaid rhwng y pleidiau Llafur ac Annibynnol sy’n rhedeg y cyngor wedi cynnig codi’r dreth o 3.3%, er bod disgwyl i chwyddiant gwympo i sero neu lai yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd Arweinydd grŵp y Blaid, Cyng. Peter Hughes Griffiths, “Mae’r sefyllfa economaidd bresennol yn gwbl eithriadol. Ymddengys nad dim ond dirwasgiad o’r math a welwn o bryd i’w gilydd yw hyn, ond rhywbeth llawer gwaeth. Ar hyn o bryd, does neb yn gwybod pa mor ddwfn fydd e, neu am faint fydd e’n para. O dan y fath amgylchiadau, mae ond yn iawn i’r cyngor fod yn gweithredu mewn ffordd eithriadol i ymateb i’r argyfwng, ac felly roeddwn i a fy ngrŵp wedi dadlau y dylem anelu - am eleni yn unig - i gadw’r codiad mor agos at sero ag sy’n bosib. Cynigion ni nifer o syniadau er mwyn cyflawni hynny, ond yn anffodus, doedd y glymblaid ddim yn fodlon gwrando ar ein dadleuon.”

Un awgrym a wnaed gan y grŵp oedd cyfrif y grantiau ychwanegol a ddisgwylir gan Lywodraeth y Cynulliad - cyfanswm o ryw £1.9 miliwn. Dywedodd Cyng. Gwyneth Thomas, “Mae’r Cyngor wedi derbyn gwybodaeth y bydd yn derbyn grant ychwanegol, ond mae wedi dewis anwybyddu’r arian hyn yn gyfan gwbl wrth lunio’r gyllideb. Mae angen cwrdd â rhai amodau cyn derbyn yr arian, ac mae’n bosib y bydd rhai costau bach er mwyn cwrdd â’r amodau hynny. Ond dwi’n hyderus y bydd y rhan fwyaf o’r arian hwn ar gael i’r cyngor. Hyd yn oed os nad oedden nhw ond yn cyfrif hanner o’r arian, byddai gyda nhw ddigon i dorri’r codiad treth yn sylweddol. Yn lle gwneud hynny, ymddengys eu bod nhw am anwybyddu’r arian yn llwyr, gan ofyn i’r trethdalwyr dalu mwy.

Roedd Cyng. David Jenkins wedi tynnu sylw at lwyddiant y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf yn arbed arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau. Nododd fod y cyngor wedi cyrraedd ei darged ynghynt na’r disgwyl, ac yn dal i wella ei berfformiad. Dywedodd Cyng. Jenkins, “Nid yw’r arbedion ychwanegol hyn wedi’u cynnwys yn y gyllideb a roddwyd ger ein bron, ond mae’r cyngor yn gwybod yn iawn y bydd yn gallu gwireddu’r arbedion hyn. Dylai’r arbedion hyn gael eu pasio ymlaen i’r trethdalwyr trwy leihau’r dreth gyngor, eleni o bob blwyddyn. Bydd costau’n dal i ostwng yn ystod y flwyddyn sy’n dod, ond mae cyllideb y cyngor yn anwybyddu hynny er mwyn cyfiawnhau codiad uwch na’r angen yn y dreth gyngor.”

Gwaeth y grŵp apêl munud-olaf i Fwrdd Gweithredol y Cyngor i ail-feddwl ei gynnig, ac i roi ystyriaeth briodol i’r pwyntiau a wnaed gan y Blaid. Dywedodd Cyng. Hughes Griffiths ar ôl y cyfarfod, “Credaf i ni roi dadl resymol a synhwyrol i’r cyngor, ond bod aelodau Llafur ac Annibynnol wedi penderfynu anwybyddu’r pwyntiau a wnaethom ni. Roedd yn glir o rai o’r sylwadau a wnaed gan rai aelodau’r glymblaid eu bod wedi gwneud y penderfyniad yn barod ac nad ydynt yn deall y pwysau ariannol y bydd pobl gyffredin yn eu hwynebu yn ystod y flwyddyn sy’n dod.”

No comments: