1/08/2009

Gwrthdaro Buddiannau

Mae Pwyllgor Iechyd, Lles, a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd y trefniadau craffu mewn cynghorau sir. Fel rhan o'r ymchwiliad, bu dau Aelod Cynulliad yn ymweld â Sir Gâr yn ddiweddar i weld Pwyllgor Craffu'n gweithio. Mae Pwyllgor y Cynulliad hefyd wedi gwahodd sylwadau ffurfiol ar yr holl system graffu.

Mae arweinydd Plaid Cymru ar y Cyngor Sir, Cyng Peter Hughes Griffiths, wedi cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad ar ran ei grŵp.

"Rydym wedi tynnu sylw at rywbeth yr ydym ni yn tybio sy'n wendid sylfaenol yn y system," meddai Cyng Hughes Griffiths. "Pleidiau'r glymblaid sy'n rheoli'r cyngor sy'n penodi’r holl gadeiryddion craffu, ac, mewn gwirionedd, mae hynny'n golygu fod pob cadeirydd yn cael ei benodi naill ai gan arweinydd y grŵp Llafur, neu gan arweinydd y Blaid Annibynnol. Wedyn, maent yn derbyn arian ychwanegol am eu gwaith. Yn ei hanfod, y bobl sy'n eu penodi, ac sy'n rheoli eu lwfansau yw'r union bobl y mae'r pwyllgor craffu i fod craffu arnynt.

Dwi ddim yn pardduo gonestrwydd neb o'r cadeiryddion, ond mae'n amlwg fod potensial enfawr am wrthdaro buddiannau yn y mater hwn. Er enghraifft, gall unrhyw gadeirydd sy'n meiddio beirniadu arweinyddiaeth y Cyngor gael ei ddiswyddo gan y person a feirniadir, gan golli swm sylweddol o arian o ganlyniad. Ni all hynny fod yn iawn, ac ni all sicrhau craffu teg, agored, a diduedd."

Bu i Cyng Hughes Griffiths ail-bwysleisio barn y Blaid y dylai'r holl gynghorwyr fod yn cydweithio er lles y sir, ond ychwanegodd, "Mae'r Blaid Annibynnol a'r Blaid Lafur wedi penderfynu eu bod am gael system lle mae rhai cynghorwyr yn rhan o'r Weinyddiaeth tra bod y lleill yn ffurfio Gwrthblaid. Dan system o'r fath, byddai'r broses graffu'n llawer mwy agored a thryloyw os oedd pob cadeirydd pwyllgor craffu yn cael ei benodi gan, ac o, grŵp yr wrthblaid. Dyna'r unig ffordd o sicrhau eu bod yn wirioneddol annibynnol o'r glymblaid sy'n rhedeg y Cyngor."

No comments: