3/30/2010

Pryderon am gynllun y 'Dreigiau Ifainc'

Ar ôl derbyn rhagor o wybodaeth gan y Cyngor Sir, mae arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor wedi mynegi pryderon ymhellach am natur y mudiad ‘Dreigiau Ifainc’. Ar lefel genedlaethol, sefydlwyd y mudiad i “gynyddu nifer y plant sy’n aelodau o’r mudiadau ieuenctid sy’n gwisgo lifrai, ac i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n eu rhedeg”. Sefydlwyd pwyllgor llywio lleol i weithredu’r cynllun yn Sir Gâr. Roedd Cyng Peter Hughes Griffiths wedi codi cwestiynau am y mater mewn cyfarfod o’r cyngor rhai misoedd yn ôl.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths yr wythnos hon, “Mae’r syniad o gydlynu mudiadau ieuenctid ar draws y sir yn syniad da, a dwi’n croesawu’r ymrwymiad a wnaed gan swyddogion y cyngor sir y byddant yn ceisio cynnwys grwpiau ieuenctid eraill megis yr Urdd a CFfI. Ond dwi ddim yn deall o hyd paham fod cylch gwaith y grŵp yn cyfeirio byth a beunydd at fudiadau lle mae’r plant yn gwisgo ‘lifrai’, a phaham fod y rhestr o fudiadau sy’n aelodau ar lefel genedlaethol ond yn cynnwys grwpiau sy’n cydymffurfio â hynny.

“Mae’n edrych i fi fel cyfyngiad cwbl ddi-angen, ac ni allaf ddeall paham bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno cylch gwaith mor gyfyng. Yn ogystal â chynnwys mudiadau eraill ar lefel leol, credafy y dylai’r cyngor sir fod yn pwyso am newid y Cylch Gwaith i sicrhau fod y prosiect cyfan yn fwy cynhwysol.”

No comments: