12/08/2008

Cyngor yn gwrthod ymateb i'r galw am addysg Gymraeg

Yng nghyfarfod mis Tachwedd o Gyngor Sir Gâr, bu i gynghorwyr Plaid Cymru o ardal Llanelli ymosod yn gryf ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor am beidio â gwneud digon i ddiwallu'r angen am addysg Gymraeg yn ardal Llanelli.

Dywedodd Cyng. Huw Lewis, "Mae argyfwng mawr yn addysg Gymraeg yn ardal Llanelli. Dyw plant ddim yn derbyn yr addysg y mae eu rhieni'n dymuno, ac maent yn aml yn gorfod apelio yn erbyn penderfyniadau'r adran addysg. Dwi'n gwybod fod capasiti’n cynyddu, ond nid yw'n cynyddu'n ddigon cyflym i gwrdd â'r angen, sy'n tyfu trwy'r amser.

"O edrych ymlaen tan fis Medi nesaf, mae Ysgol Dewi Sant eisoes wedi derbyn 128 o geisiadau am 60 o lefydd. Mae'r sefyllfa'n mynd yn argyfwng, ac nid yw rhieni sydd eisiau addysg Gymraeg i'w plant yn cael chwarae teg. Mae'n hollol annheg fod rhieni'n cael lle yn yr ysgol o'u dewis os ydynt am gael addysg Saesneg, ond fod yn rhaid iddyn nhw ymladd pob cam i gael lle mewn ysgol Gymraeg. Nid dyma sut y dylai polisi dwyieithog weithredu."

Cefnogwyd ei alwad am weithredu ar frys gan y Cyng. Gwyn Hopkins, a dynnodd sylw at y canran isel o blant sy'n derbyn addysg Gymraeg yn Llanelli, o gymharu â gweddill y sir. "Yn ardal Llanelli," meddai fe, "dim ond rhyw 25% o'r plant sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, o gymharu â 60% yng ngweddill y sir. Mae hynny'n amlygu'r gwahaniaeth enfawr yn y ddarpariaeth gan y Cyngor, ac yn tanlinellu'r angen i drin Llanelli fel achos arbennig.

"Mae'r polisi a gymeradwywyd gan y Cyngor rhai blynyddoedd yn ôl yn mynd yn llai perthnasol wrth i'r galw gynyddu ynghynt na'r disgwyl, ac mae hynny'n golygu fod cynlluniau presennol y cyngor yn methu â darparu digon o lefydd pan fydd eu hangen.

"Yn Llangennech yn unig, lle mae ffrydiau Saesneg a Chymraeg ar wahân, rydym yn gweld fod y ffrwd Gymraeg yn tyfu'n gyson, a'r ffrwd Saesneg yn gostwng ar yr un pryd. Rhaid i'r Cyngor ymateb i'r galw yn gyflymach nag y mae ar hyn o bryd, ac mae hynny'n golygu, fel y cam lleiaf posib, cynllunio ar gyfer ysgol newydd ychwanegol ar ben popeth arall sy'n digwydd."

No comments: