3/31/2010

Talu am ddim

Mae Cyngor Sir Gâr yn codi ffioedd gwasanaeth ar denantiaid am wasanaethau nad ydynt yn eu derbyn, yn ôl Cyng Siân Thomas. Roedd Cyng Thomas wedi tynnu sylw at yr un broblem y llynedd, gan nodi fod tenantiaid ym Maes y Gors, Penygroes yn talu £2.17 yn ychwanegol bob wythnos am wasanaethau nad yw’r cyngor yn eu darparu, megis ystafell golchi dillad a system rheoli mynediad.

Dywedodd Cyng Thomas, “Codais i hyn gyda swyddogion y cyngor y llynedd, gan dynnu sylw at y ffaith yr oedd y tenantiaid yn talu am ddim. Dwi wedi derbyn cwynion ychwnaegol eleni – nid yn unig y mae’r tenantiaid yn dal i dalu am y gwasanaethau hyn, ond mae’r pris wedi cynyddu hefyd. I gyd o’r gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn ydy un golau ar y grisiau y maen nhw’n eu rhannu.

“Mae’r cyngor yn dweud eu bod yn cynnal arolwg trylwyr a chynhwysfawr o’r tâl gwasanaeth, ond ymddengys na ddaw unrhyw newidiadau i rym tan fis Ebrill nesaf – dwy flynedd ar ôl i fi godi’r broblem yn wreiddiol. Nid yw hyn yn ddigon da.”

3/30/2010

Pryderon am gynllun y 'Dreigiau Ifainc'

Ar ôl derbyn rhagor o wybodaeth gan y Cyngor Sir, mae arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor wedi mynegi pryderon ymhellach am natur y mudiad ‘Dreigiau Ifainc’. Ar lefel genedlaethol, sefydlwyd y mudiad i “gynyddu nifer y plant sy’n aelodau o’r mudiadau ieuenctid sy’n gwisgo lifrai, ac i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n eu rhedeg”. Sefydlwyd pwyllgor llywio lleol i weithredu’r cynllun yn Sir Gâr. Roedd Cyng Peter Hughes Griffiths wedi codi cwestiynau am y mater mewn cyfarfod o’r cyngor rhai misoedd yn ôl.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths yr wythnos hon, “Mae’r syniad o gydlynu mudiadau ieuenctid ar draws y sir yn syniad da, a dwi’n croesawu’r ymrwymiad a wnaed gan swyddogion y cyngor sir y byddant yn ceisio cynnwys grwpiau ieuenctid eraill megis yr Urdd a CFfI. Ond dwi ddim yn deall o hyd paham fod cylch gwaith y grŵp yn cyfeirio byth a beunydd at fudiadau lle mae’r plant yn gwisgo ‘lifrai’, a phaham fod y rhestr o fudiadau sy’n aelodau ar lefel genedlaethol ond yn cynnwys grwpiau sy’n cydymffurfio â hynny.

“Mae’n edrych i fi fel cyfyngiad cwbl ddi-angen, ac ni allaf ddeall paham bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno cylch gwaith mor gyfyng. Yn ogystal â chynnwys mudiadau eraill ar lefel leol, credafy y dylai’r cyngor sir fod yn pwyso am newid y Cylch Gwaith i sicrhau fod y prosiect cyfan yn fwy cynhwysol.”

3/24/2010

Cefnogaeth hyblyg

Mynegwyd pryderon ynghylch yr adnoddau sydd ar gael yn Sir Gâr i gefnogi pobl. Mae Cyng Emlyn Dole wedi codi’r mater mewn cyfarfod o’r cyngor wrth i’r cyngor drafod strategaeth fanwl.

Tynnodd Cyng Dole sylw’r cyngor yn benodol at y defnydd cynyddol o adnoddau ‘hyblyg’ yn hytrach nag adnoddau penodol, gan ddweud, “Dwi’n deall yr angen i’r cyngor for mor hyblyg â phosib wrth ddefnyddio ei adnoddau, ond dwi’n pryderu a yw cyfanswm yr adnoddau sydd ar gael yn ddigonol i ddiwallu’r holl anghenion. Ymddengys i mi os yw adnoddau wedi’u hymrwymo i wasanaethu unigolion penodol, mae’n haws gweld unrhyw fylchau. Ar y llaw arall, os yw’r un adnoddau’n ceisio helpu nifer mawr o bobl, gall fod yn anos o lawer i weld a yw pawb yn derbyn ystod lawn y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dydw i ddim yn erbyn ymdrechion y cyngor i fod yn fwy hyblyg, ond dwi’n credu fod yn rhaid i ni sicrhau nad oes bylchau yn y gwasanaeth o ganlyniad.”

3/23/2010

Toriadau di-angen

Mae Cyngor Sir Gâr yn torri mwy o’i gyllideb a’i wasanaethau nag sydd angen yn ôl cynghorwyr Plaid Cymru. Mae’r cyngor yn disgwyl derbyn grant o £1.9miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond mae wedi penderfynu peidio â chyfri’r arian hwnnw fel incwm am y flwyddyn, ac i fynd ymlaen gyda chyfres o doriadau. Yn y cyfarfod o’r cyngor i osod y gyllideb, bu i aelodau Plaid Cymru ymosod ar nifer o’r toriadau, ac wedyn cynigiodd arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, ffordd amgen ymlaen.

“Am y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Cyng Hughes Griffiths, “mae’r cyngor wedi penderfynu anwybyddu’r grant hwn, oherwydd nad oedden nhw ddim yn gallu bod yn sicr o’i dderbyn. Ond y gwir yw yr oedden nhw wedi’i dderbyn bob blwyddyn, a’i roi yn y cronfeydd wrth gefn. Rydym ni’n hyderus y bydd y cyfan yn cael ei dderbyn unwaith eto eleni. Ein dadl ni oedd y dylid cyfrif yr arian hwn fel rhan o incwm y cyngor, a’i ddefnyddio i osgoi rhai o’r toriadau y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwneud. Un o’r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ein herbyn oedd fod y cyngor heb dderbyn yr arian eto – ond wrth gwrs, mae’r un peth yn wir am y cyfan o’r arian y bydd y cyngor yn ei dderbyn y flwyddyn nesaf. Mae’r penderfyniad a ddylid cyfrif yr arian hwn neu beidio yn fater o farn – ac yn sgil profiad y blynyddoedd diwethaf, rydym yn hyderus iawn yn ein barn ni ar y mater.

Ar ôl i gynnig y Blaid gael ei drechu gan gynghorwyr o’r pleidiau Llafur ac Annibynnol, pleidleisiodd grŵp y Blaid i wrthod y gyllideb yn ei chrynswth.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Nid oeddem ni’n gallu, o ran cydwybod, derbyn cyllideb gyda chymaint o doriadau di-angen yn ein gwasanaethau. Fel grŵp ac fel plaid, byddwn yn dal i ddadlau o blaid cadw gwasanaethau hanfodol.”

3/22/2010

Strancio fydd hi

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu deddfu i sicrhau fod cynghorau sir yn rhannu’r cyfrifoldeb am gadeirio pwyllgorau craffu ar sail crfyder y gwahanol bleidiau ar bob cyngor. Byddai hyn yn newid sylweddol yn Sir Gâr, lle mae’r pleidiau Llafur ac Annibynnol wedi eithrio grŵp Plaid Cymru, gyda’i 29 o aelodau, yn gyfangwbl. Mewn cyfarfod o’r cyngor, cyfeiriodd Cyng Emlyn Dole at y ddeddf newydd arfaethedig, gan annog arweinwyr y cyngor i beidio ag aros iddo gael ei chymeradwyo cyn gweithredu.

Dywedodd Cyng Dole, “Eglurais iddyn nhw y bydd gorfodaeth arnyn nhw i weithredu’r drefn newydd yn y dyfodol agos, a bod ganddyn nhw ddewis felly rhwng gwneud y newid nawr o’u gwirfodd, neu gael eu gorfodi gan y ddeddf i wneud y newid pan fydd y gyfraith yn newid. Gofynnais iddyn nhw a oedden nhw am gael eu gweld yn strancio wrth gael eu gorfodi, ynteu’n gweithredu’n rhesymegol yn awr. O’r ateb a gefais, mae’n glir taw’r unig ffordd y bydd y pleidiau hyn yn caniatau democratiaeth o fewn y cyngor hwn fydd dan brotest. Mae’n adlewyrchu’n wael ar y ddwy blaid reoli.”

3/18/2010

Gor-ddatblygu Llandeilo

Mae Cyngor Sir Gâr wedi llunio canllawiau ar gyfer datblygiad a fydd yn ymestyn Llandeilo’n sylweddol, ond mae wedi denu nifer mawr o sylwadau a chwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n amlwg for nifer o bryderon difrifol am rai agweddau o’r datblygiad, a cheisiodd cynghorwyr Plaid Cymru newid y canllawiau er mwyn ymateb i’r pryderon hyn. Fodd bynnag, pleidleisiodd aelodau’r pleidiau Llafur ac Annibynnol yn erbyn y gwelliannau a gynigiwyd gan arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths.

Roedd Cyng Hughes Griffiths wedi galw am ohirio unrhyw ddatblygu tan ar ôl i’r ffordd osgoi gael ei hadeiladu, oherwydd pryderon difrifol am broblemau traffig. Awgrymodd hefyd y dylid sicrhau darpariaeth ddigonol yn yr ysgolion cyn i nifer y plant gynyddu, y dylai nifer a math y tai gael eu penderfynu ar sail anghenion lleol, ac y dylai fod canran penodol o dai fforddiadwy.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Credaf ei bod yn gwbl anghyfrifol i’r cyngor annog adeiladu nifer mawr o dai newydd cyn bod yr is-adeiledd yn ei le i gynnal y tŵf, a heb sicrhau fod y datblygiad yn diwallu anghenion lleol yn gyntaf ac yn bennaf. Mae Llandeilo’n dre hynafol, ac mae angen trin y mater o’i hehangu gyda gofal mawr, nid ei ruthro.”

Ychwanegodd Cyng Siân Thomas, “Mae’r cyngor eisoes wedi cydnabod y broblem ddifrifol o ran llygredd yn yr awyr yn y brif heol trwy Landeilo. Bydd unrhyw ddatblygiad newydd yn sicr o ychwanegu at y traffig, gan gynnwys traffig yr adeiladwyr tra bod y tai’n cael eu hadeiladu. Nid oes unrhyw bwrpas i’r gwaith mae’r cyngor wedi’i wneud i nodi’r ardaloedd gwaethaf am lygredd os bydd wedyn yn ychwanegu at y broblem trwy ei benderfyniadau ei hunan.”

3/14/2010

Diffyg Democratiaeth

Beirniadwyd Cyngor Sir Caerfyrddin yn llym gan Blaid Cymru am ddiffyg democratiaeth yn y penderfyniad am ail-drefnu ysgolion yn ardal Dinefwr a Gwendraeth. Mae’r Cyngor wedi cyflogi ymgynghorwyr allanol i ystyried y safleoedd posib, ond wedi gwrthod rhoi’r hawl i’r cynghorwyr wneud y penderfyniad terfynol. Mae arweinwyr y cyngor hefyd wedi gwrthod caniatau i’r cyngor llawn leisio barn ar unrhyw agwedd o’r cynllun ad-drefnu.

Dywedodd arweinydd y Blaid ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Dwi wedi gofyn am i’r cyngor llawn gael cyfle i bleidleisio ar y cynlluniau ad-drefnu, ond gwrthodwyd y cais hwnnw. Ni chaniateir i ni bleidleisio ar gategori iaith yr ysgolion, ar gyfuno neu gau ysgolion, nag ar leoliad yr ysgolion. Ni chaniateir i ni bleidleisio ar y cynnig a aiff i Lywodraeth y Cynulliad ar ran y cyngor ychwaith.

“Mewn gwirionedd, dywedwyd wrthyf taw’r unig fater y caniateir i gynghorwyr bleidleisio arno o gwbl fydd y penderfyniad i wario arian, yn nes ymlaen eleni. Mae hyn yn gwbl annemocrataidd – bydd yr holl benderfynaidau pwysig wedi’u cymryd ymhell cyn hynny.”