2/24/2010

Na i dalu am drafnidiaeth i'r ysgol

Mae arweinwyr Cyngor Sir Gâr wedi cynnig diddymu trafnidiaeth rhad ac am ddim ar gyfer plant dros 16 oed er mwyn arbed arian. Er fod y cyngor dan ofyniad statudol i ddarparu trafnidiaeth am blant iau, nid oes unrhyw ofyniad ar ôl hynny. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n dewis darparu’r fath drafnidiaeth.

Mynegodd Cyng Phil Williams ei bryder am y syniad, gan ddweud, “Byddai hyn yn gost ddifrifol ychwanegol i rieni, yn arbennig yng nghanol dirwasgiad. Fe all hyd yn oed arwain at sefyllfa lle mae rhai plant yn gadael addysg ar ôl TGAU yn hytrach nag aros i wneud lefel A, neu ddewis mynd i golegau sy’n dal i ddarparu trafnidiaeth gan wanhau’r chweched dosbarth mewn rhai o’n hysgolion. Dwi o’r farn y dylai’r Cyngor ddal i ddarparu’r gwasanaeth hwn.”

Fe’i cefnogwyd gan Cyng Siân Thomas, a ychwanegodd, “Mae’r llywodraeth yn dweud wrthym trwy’r amser fod datblygu sgiliau’n pobl ifanc yn allweddol er mwyn adeiladu economi gwell at y dyfodol. Ni ddylem wneud dim sy’n tanseilio’r ymgyrch i ddatblygu gweithlu gyda sgiliau ac addysg well, a dylai’r cyngor anghofio’r syniad hwn.”

2/22/2010

Mynnu defnyddio'r Gymraeg

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cael ei annog i ddefnyddio ei sefyllfa fel landlord i sicrhau fod busnesau a phobl eraill sy’n defnyddio ei adeiladau’n cadw at bolisi’r cyngor ar ddefnyddio’r Gymraeg. Dywedodd Cyng Mari Dafis yr wythnos hon, “Mae gan y cyngor bolisi o sicrhau fod ei holl arwyddion a thaflenni ac ati’n ddwyieithog. Fodd bynnag, pan fydd y cyngor yn caniatáu i fusnesau a chyrff eraill weithredu o’i adeiladau, caniateir iddyn nhw anwybyddu polisi iaith y cyngor yn llwyr. I’r rhan fwyaf ohonyn nhw, mater bach a syml fyddai cyfieithu eu harwyddion, ac yn achos cwmnïau arlwyo, au bwydlenni. Efallai y gall y cyngor hyd yn oed ganiatáu i’r cyrff perthnasol ddefnyddio cyfieithwyr y cyngor i’w helpu. Cam bach fyddai hyn, ond mae’n gwbl anghyson i gael dau bolisi gwahanol yn yr un adeilad.”

2/11/2010

Gwastraffu arian, a chamarwin y bobl

Mae Cyngor Sir Gâr wedi gwastraffu miloedd o bunnoedd o arian y trethdalwyr trwy logi ymgynghorwyr i werthuso safleoedd posib ar gyfer ysgol newydd yn Ninefwr, yn ôl Plaid Cymru. Gofynnodd y Cyngor i’r ymgynghorwyr ystyried 14 o safloedd posib ar gyfer ysgol uwchradd newydd i wasanaethu ardal Dinefwr. Byddai’r ysgol newydd yn cymryd lle dwy ysgol bresennol, sef Tre-gib yn Llandeilo, a Phantycelyn yn Llanymddyfri. Fodd bynnag, roedd y cyfarwyddyd a roddwyd i’r ymgynghorwyr yn llwyr anwybyddu y mater o iaith yr addysg. Yn ôl Plaid, mae’r canlyniadau’n gwbl ddi-ystyr o ganlyniad.

Dywedodd arweinydd y Blaid ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Rydym wedi pwyso ar y cyngor o’r cychwyn cyntaf i gynnal arolwg o’r rhieni i asesu’r galw am addysg Gymraeg, ond ymddengys eu bod yn benderfynol o anwybyddu’r cwestiwn. Ond wrth wneud hynny, maen nhw hefyd yn anwybyddu polisi’r cyngor ei hun, a pholisi Llywodraeth Cymru. Mae’r ddau bolisi yn dweud y dylid parchu dymuniad y rhieni, ac y dylid annog rhieni i ddewis addysg Gymraeg.

“Rhoddwyd cyfarwyddyd i’r ymgynghorwyr ynghylch maint yr ysgol a’r niferoedd tebygol o blant. Ond mae hyn i gyd wedi’i seilio ar y dybiaeth y bydd holl rieni’r ardal yn dewis anfon eu plant i’r ysgol newydd, ac na fydd neb yn mynnu addysg Gymraeg. Mae hynny, yn amlwg, yn nonsens llwyr – ac mae canlyniadau’r astudiaeth yn gwbl annilys o ganlyniad. Mewn gair, mae’r cyngor wedi gwastraffu miloedd o bunnoedd o arian y trethdalwyr.”

Mae’r Blaid hefyd yn cyhuddo’r cyngor o gamarwain rhieni yng ngogledd y sir ynghylch lleoliad posib unrhyw ysgol newydd. “Pan gynhaliwyd arolwg o’r rhieni am yr opsiynau cyfyngedig a roddwyd o’u blaen,” dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “fe ddywedon nhw wrth bobl yn ardal Llanymddyfri y byddai unrhyw ysgol newydd yn cael ei hadeiladu, yn ôl pob tebyg, yn ardal Llangadog, tua hanner ffordd rhwng y ddwy ysgol bresennol. Dwi’n gwybod i sicrwydd fod rhai rhieni wedi rhoi eu cefnogaeth i’r syniad o gael ysgol newydd ar sail y dybiaeth honno ynghylch y lleoliad.

“Dyna oedd yr unig leoliad posib a awgrymwyd gan y Cyngor Sir ar y pryd. I ddweud nawr eu bod yn bwriadu codi’r ysgol newydd i’r Dde o Landeilo yn rhywbeth a fydd yn ergyd drom i’r rhieni. Mae hefyd yn annilysu unrhyw gasgliadau a wnaed ar sail ymateb y rhieni.”

Gorffennodd Cyng Hughes Griffiths trwy ddweud, “Yr hyn sy’n dod yn gynyddol amlwg yw bod y cyngor wedi penderfynu’r cyfan cyn hyd yn oed dechrau siarad â’r rhieni, ac mae’r holl ymgynghori wedi bod yn gwbl anniffuant. Byddan nhw’n ceisio gyrru eu cynlluniau yn eu blaen beth bynnag mae’r rhieni yn ei ddweud, gan ddiystyru’r hyn sydd orau o ran addysg ein plant a dyfodol ein hiaith. Byddwn ni ym Mhlaid Cymru’n dal i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ymgynghoriad teg a dilys, a bod y cyngor yn parchu dewis y rhieni.”