1/25/2010

Penderfyniad pwy?

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi mynnu gwybod pwy sy’n gwneud y penderfyniadau yn y sir, a phryd. Mae hyn yn dilyn enghraifft lle mae’n ymddangos fod penderfyniad wedi’i weithredu cyn iddo gael ei wneud. Gofynnodd Cyng Marie Binney yng nghyfarfod y cyngor ar 9fed Rhagfyr a fyddai pobl yn cael parcio am ddim ym meysydd parcio’r cyngor yn y cyfnod cyn y Nadolig, fel oedd wedi digwydd ym mlynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Cyng Binney, “Roeddwn yn falch iawn o glywed fod arweinwyr y cyngor wedi cytuno caniatáu i bobl barcio am ddim eto eleni, am bythefnos yn cychwyn ar 10fed Rhagfyr. Wedyn, ychydig ar ôl y Nadolig, darllenais i gofnodion y Bwrdd Gweithredol ar 14eg Rhagfyr, gan ddarganfod na chymrwyd y penderfyniad tan y cyfarfod hwnnw. Yn syml iawn, ymddengys fod y penderfyniad wedi’i weithredu bedwar diwrnod cyn ei gymryd!

“Wedyn, fe ges i wybod fod y penderfyniad wedi’i gyhoeddi yn rhifyn diwethaf papur propaganda’r cyngor, Newyddion Cymuned. Argraffwyd y papur hwnnw ar 25ain Tachwedd, a deallaf fod yn rhaid i’r deunydd fod yn barod 10 diwrnod cyn hynny, fel y gellir ei gyfieithu a’i osod ac ati. Felly, pwy gymerodd y penderfyniad, a phryd? Ar awdurdod pwy y cynhwyswyd y stori yn y papur, ac ar awdurdod pwy oedd y cyngor wedi peidio â chodi am barcio ar ôl 10fed Rhagfyr?

“Er fy mod yn meddwl fod y cyngor wedi cymryd y penderfyniad iawn yn yr achos hwn, mae gen i bryder mawr am y ffordd y gwnaed y penderfyniad. A yw’r cyngor wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy weithredu’r penderfyniad cyn y cyfarfod, neu a yw wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy wneud y penderfyniad mewn rhyw gyfarfod cyfrinachol, heb rybudd priodol? Rydyn ni wedi mynegi’n pryder i’r Prif Weithredwr, gan ofyn am esboniad llawn.

1/21/2010

Methu â rhagweld

Mae Cyngor Sir Gâr yn methu â chynllunio’n iawn ar gyfer costau poblogaeth hŷn, mae Cyng David Jenkins wedi honni. Mae e wedi codi cyfres o gwestiynau manwl am sefyllfa ariannol y cyngor, gan gynnwys y rhesymau am or-wario sylweddol ar wasanaethau i’r henoed.

Dywedodd Cyng Jenkins, “Mae digon o ddata ar gael yn nodi fod y boblogaeth yn heneiddio, ond ymddengys nad yw’r cyngor ddim wedi darparu’n ddigonol ar gyfer hyn yn ei gyllideb. Pan godais i gwestiwn ar hyn, yr ateb a gefais oedd fod y cyngor yn ceisio cynllunio ar gyfer y sefyllfa yma, ond wedi tanamcangyfri’r costau. Gwaeth byth, fe ddywedon nhw wrthyf eu bod wedi cael y ffigwr yn anghywir bob blwyddyn am sawl mlynedd bellach. Ymddengys nad ydynt yn dysgu o’u camgymeriadau.

“Mae’r ffaith fod y cyngor wedi tanamcangyfrif nifer yr henoed yn gyson yn berthnasol hefyd yng nghyd-destun eu hawydd i gau cartrefi’r henoed. Mae’n wirion i geisio cau cartrefi pan maen nhw’n cyfaddef, mewn gwirionedd, nad ydyn nhw’n gwybod faint o bobl fydd angen gofal. Ar sail y dystiolaeth hanesyddol, gallwn fod yn weddol sicr eu bod wedi tanamcanfgyfrif y galw.”

1/19/2010

Diffyg paratoi am y tywydd garw

Mae Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi beirniadu’r cyngor sir am ei ddiffyg paratoi ar gyfer yr eira a’r rhew yn ddiweddar. Cafodd ardaloedd gwledig eu heffeithio’n benodol gan yr oedd y cyngor yn canolbwyntio ei ymdrechion ar y priffyrdd yn unig, gan anwybyddu ffyrdd eraill yn gyfangwbl.

Dywedodd arwewinydd y grŵp ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wledig iawn; mae’r rhan fwyaf o’r ffyrdd mewn ardaloedd gwledig. Ond ymddengys nad oedd y cyngor yn pryderu fawr ddim am anghenion pobl yn yr ardaloedd hynny, ac anwybyddwyd ffyrdd trwy bentrefi ar draws y sir, gan greu anawsterau mawr i drigolion lleol. Wrth gwrs fod cost i’w thalu, ond mewn egwyddor nid yw mor anodd â hynny i raeanu ffyrdd gwledig. Ymddengys nad yw’r sir ond yn gofalu am y trefi, gan anwybyddu’r pentrefi. Rwyf yn galw am adolygiad trylwyr o’r polisi ar raeanu, gyda’r bwriad o wneud mwy i sicrhau fod modd defnyddio ffyrdd gwledig yn ystod cyfnodau o dywydd garw.”

1/18/2010

Gorfodi'r Cyngor i newid

Ymddengys ei bod yn debyg y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei orfodi i newid ei ddull o benodi cadeiryddion i’w bwyllgorau o dan Fesur newydd o eiddo Llywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth wedi dweud wrth awdurdodau lleol ers rhai blynyddoedd bellach y dylid rhannu’r swyddi ar draws y pleidiau gwleidyddol ar sail gyfrannol, ond mae’r pleidiau Llafur ac Annibynnol sy’n rheoli’r cyngor ar hyn o bryd wedi mynnu cael mwy na’u cyfran deg o’r swyddi. Mae’n debyg y bydd y Llywodraeth hefyd yn mynnu fod cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn dod o’r wrthblaid – rhywbeth arall y mae Cyngor Sir Gâr wedi gwrthod gwneud.

Dywedodd Cyng Gwyn Hopkins, ”Ymddengys na fydd y Blaid Lafur na’r Blaid Annibynnol yn y sir hon yn newid eu hagwedd ond dan orfodaeth. Ni ddaw democratiaeth, o’r fath sy’n gyffredin mewn siroedd eraill, i Sir Gaerfyrddin heb newid y gyfraith. Mae’r Blaid wedi dadlau yn gyson ers blynyddoedd y dylid rhannu swyddi o fewn y cyngor ar sail deg, gan roi cyfle i’r holl bleidiau gael rhywfaint o ddylanwad ar benderfyniadau, ond mae Meryl Gravell a’i chlîc wedi bod yn benderfynol o gadw cymaint ag sy’n bosib o rym iddyn nhw eu hunain, gan gloi Plaid Cymru allan. Rydyn ni wedi rhoi sawl cyfle iddyn nhw ddilyn y cyngor a gafwyd gan y Llywodraeth, ond gwrthod a wnaethan nhw ar bob adeg. Ymddengys bellach y byddant yn gorfod newid – ond y tebygrwydd yw taw dan brotest yn unig y digwyddith hynny.”

1/05/2010

Galw am fwy o fanylion

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi galw am fwy o wybodaeth am gynllun newydd i annog pobl ifanc i ymuno â mudiadau ieuenctid sy’n gwisgo lifrai. Mae’r cynllun, Dreigiau Ifainc, yn cael ei weithredu mewn dwy ardal yng Nghymru fel rhan o gynllun peilot. Y ddwy ardal yw Sir Gâr a Blaenau Gwent. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y cynllun.

Dywedodd arweinydd y Blaid ar y cyngor, Cyng Peter Hughes Griffiths, “Dwi wedi gofyn am i fwy o wybodaeth ddod i’r Pwyllgor Craffu perthnasol fel y gall cynghorwyr drafod y cynllun. Dywedwyd wrthyf fod y cyngor am gynnwys mudiadau eraill, megis CFfI a’r Urdd, yn y cynllun, ac mae hynny’n bwynt pwysig. Dyna ddau o’r mudiadau ieuenctid pwysicaf yn y sir – ac yn wahanol i lawer o fudiadau eraill, maent yn gweithredu’n ddwyieithog hefyd. Mae hynny’n hanfodol o bwysig yn Sir Gâr. Dwi ddim yn deall paham fod pwyslais ar y syniad o wisgo lifrai; ac mae gen i bryderon am y bwyslais honno.”