11/20/2009

Newid trefn casglu trethi dŵr

Mae cynghorydd Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi galw am newid y drefn am gasglu trethi dŵr gan denantiaid y cyngor. Mae Cyng Marion Binney wedi dweud ei bod wedi delio â nifer o achosion lle mae tenantiaid yn hwyr gyda thaliadau i'r cyngor, nid am eu bod wedi methu â thalu eu rhenti, ond oherwydd eu bod wedi methu â thalu trethi dŵr. Y drefn bresennol yw bod y Cyngor Sir yn talu'r trethi dŵr cyn eu casglu o'r tenantiaid gyda'u rhent, ac mae Cyng Binney'n dweud bod hyn yn gam di-angen yn y broses, ac y gall arwain at berygl y bydd tenantiaid yn colli eu cartrefi oherwydd dyledion i gwmni arall, nid i'r cyngor.

"Dwi'n credu y dylai tenantiaid dalu eu trethi dŵr eu hunain yn uniongyrchol," dywedodd Cyng Binney. "Byddai hynny'n osgoi sefyllfa lle mae'r cyngor yn mynd ar ôl tenantiaid am ddyledion i gorff arall. Byddai hefyd yn rhoi'r tenantiaid yn yr un sefyllfa â phawb arall - yn gyfrifol am dalu eu biliau dŵr yn uniongyrchol i'r cwmni dŵr. Byddai hyn yn helpu'r tenantiaid ac yn helpu'r cyngor.

"Deallaf y byddai hefyd yn golygu fod rhai teuluoedd yn gallu ceisio am wahanol gynlluniau sydd ar gael trwy'r cwmnïoedd dŵr; cynlluniau nad ydyn nhw'n gymwys amdanyn nhw os bydd y cyngor yn casglu'r trethi a'u hanfon ymlaen i'r cwmni. Er enghraifft, mae'n bosib i deulu gyda thri o blant dan 19 sydd ar fudd-daliadau neu rywun sydd â rhai anhwylderau penodol ac sy'n derbyn budd-daliadau, fod yn gymwys. Dwi'n amau fod y cyngor yn derbyn comisiwn o ryw fath gan y cwmni dŵr am gasglu'r trethi ar ei ran, ond ni ddylai'r fath yna o drefn fod yn bwysicach na diwallu anghenion y tenantiaid. Ac yn bendant, ni ddylai fod yn sail i denantiaid wynebu'r posibiliad o golli eu cartrefi am ddyledion i gorff hollol wahanol."

11/17/2009

Cyngor yn methu'r targed

Mae Cyngor Sir Gâr yn debyg o fethu â chyrraedd ei darged ei hunan am dai fforddiadwy yn ôl Cyng John Edwards. Roedd Cyng Edwrads yn siarad ar ôl cyfarfod o'r pwyllgor craffu. Yn ystod y cyfarfod, daeth yn amlwg fod nifer o broblemau o ran cyrraedd y targed.

Dywedodd Cyng Edwards, "Y mae llai a llai o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu o dan gytundebau adran 106, lle mae'r cyngor yn rhoi caniatad cynllunio ar yr amod fod tai fforddiadwy yn cael eu darparu. Ar ben hynny, mae'r sefyllfa ariannol yn golygu ei bod hi'n anos cael morgais, gyda'r benthycwyr yn mynnu blaendal uwch."

"I wneud pethau'n waeth," meddai Cyng Edwards, "ymddengys fod rhi o'r benthycwyr yn gwrthwynebu'r amod ar ail-werthu. Gwell ganddyn nhw allu gwerthu'r tai ar y farchnad agored fel bod mwy o sicrwydd ganddyn nhw, y banciau. Ond mae'r amod ar ail-werthu'n hanfodol er mwyn sicrhau fod y tai yn dal ar gael i bobl leol. Mae'n gwbl annerbyniol i'r polisi ar ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol gael ei danseilio gan y banciau er mwyn diogelu eu helw nhw."

11/16/2009

Anfodlon â'r enw newydd

Mae trigolion Alltwalis yn anfodlon â'r bwriad i ail-enwi'r fferm wynt sydd newydd ei hadeiladu yn eu hardal, yn ôl eu cynghorydd lleol, Cyng Linda Evans. Mae'r tyrbeinau'n cael eu comisyunu ar hyn o bryd, ac mae'r cwmni am ail-enwi'r datblygiad yn Fferm Wynt Alltwalis. Dim ond oddeutu 40 o dai sydd yn Alltwalis ei hunan, ond mae trigolion lleol wedi casglu llofnodau o ymron i bob un ohonyn nhw, yn gwrthwynebu'r enw newydd.

Mae Cyng Evans wedi cyflwyno'r ddeiseb i'r cwmni, a dywedodd "Mae'r cwmni am newid yr enw, ond nid wyf i na'r trigolion lleol yn deall paham eu bod am ei enwi ar ôl un o'r pentrefi lleol. Ymgynghorwyd â'r trigolion yn yr holl bentrefi lleol, gan ofyn pa un ddylai fenthyca ei enw i'r Fferm Eynt. Mae'n wir fod y rhan fwyaf wedi cefnogi Alltwalis fel yr enw, ond ymddengys fod yr holl bleidleisiau ar gyfer yr enw hwnnw wedi dod o bob pentref ac eithrio Alltwalis. Mae'n annheg defnyddio enw un pentref ar sail pleidleisiau'r pentrefi eraill.

"Paham nad ydyn nhw'n trefnu cystadleuaeth agored i bobl leol i awgrymu enw newydd yn hytrach na defnyddio enw un o'r pentrefi? Neu hyd yn oed gofyn i'r plant yn yr ysgolion newydd awgrymu enw Cymraeg da? Byddai hynny'n well o lawer nae'r hyn a wnaed gan y cmwni hyd yma."

11/13/2009

Trethu'r Sul

Cafwyd ymateb cryf gan Blaid Cymru yn Sir Gâr i awgrym fod y Pleidiau Llafur ac Annibynnol yn y sir ar fin codi tâl am barcio ar y Sul ym meysydd parcio’r dref yn y dyfodol agos. Er bod yn rhaid talu rhwng 8:00am a 6:00pm o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn ar hyn o bryd, ni chodir am barcio min nos neu ar ddydd Sul.

Dywedodd John Dixn, ymgeisydd seneddol y Blaid am yr ardal, “Byddai hyn yn effeithio ar gannoedd, os nad miloedd, o bobl sy’n cael parcio am ddim ar ddydd Sul ar hyn o bryd. Byddai’n effeithio ar bawb sy’n gyrru i’r dref er mwyn mynychu’r eglwysi a’r capeli yng nghanol y dref, yn ogystal â’r rhai sy’n dod i’r dref i siopa ar y Sul neu am resymau eraill. Mae’n dreth gudd ar y Sul – codi am rywbeth sydd wedi bod yn rhad ac am ddim hyd yma - ac yn rhwystr arall i’r rhai sydd am ddefnyddio canol y dref yn hytrach na chanolfannau manwerthu mawr ar y cyrion. Beth nesaf? Codi am barcio min nos hefyd? Mae’r Blaid Lafur a’r Blaid Annibynnol yn gweld popeth yn nhermau ariannol; mae cyfle i godi arian at goffrau’r cyngor yn bwysicach iddyn nhw nag anghenion pobl a busnesau’r sir. Bydd y Blaid yn gwneud popeth yn ein gallu i atal y cynllun hwn.”

Dywedodd Cyng Peter Hughes Griffiths, arweinydd y Blaid ar y cyngor sir, “Pan glywais si fod y fath gynllun yn cael ei ystyried, roeddwn i’n methu â chredu’r peth. Ond, pan ofynnais i’r cyngor beth oedd yn digwydd, cefais gadarnhad fod y cynnig hwn yn cael ei ystyried. Mae’n awgrym crintachlyd, a’r unig fwriad yw codi mwy o arian o bocedi trigolion lleol. Bydd hyn yn dreth ar y rhai sy’n dod i’r dref i addoli – rhywbeth na ddylai’r cyngor byth fod yn ei ystyried.”

Cefnogwyd y ddau yn gryf gan Gynghorydd Arwel Lloyd, sydd wedi arwain ymgyrch y Blaid yn erbyn y cynllun i godi am barcio yn Heol Awst. “Mae ein hymgyrch wedi cael cefnogaeth eang iawn,” meddai. “Ar ôl gweld cryfder y gwrthwynebiad i’r cynigion ar gyfer Heol Awst, mae’n anhygoel i mi y gallan nhw hyd yn oed ystyried codi am barcio ar ddydd Sul. Bydd hyn yn effeithio ar hyd yn oed mwy o bobl na’r cynnig ar gyfer Heol Awst. Bydd pobl Caerfyrddin yn gynddeiriog ynghylch y syniad. Gallaf addo y bydd y cyngor yn gwynebu ymgyrch gref iawn yn erbyn y cynnig hwn.”

Roedd cynghorwyr eraill Plaid Cymru yn y dref, Gareth Jones ac Alan Speake, hefyd yn addo eu cefnogaeth lawn i’r ymgyrch yn erbyn y cynnig hwn.

11/06/2009

Gwallau yn yr ymgynghoriad

Roedd gwallau mawr yn y ffordd yr ymynghorwyd â rhieni yngylch dewis iaith addysg uwchradd yn ardal Gwendraeth a Dinefwr yn ôl grŵp y Blaid ar y cyngor. Yn ôl adroddiad ar ganlyniadau’r arolwg ymhlith rhieni, a anfonwyd at bob cynghorydd, llai na hanner y rhieni atebodd o gwbl. Dywedodd arweinydd grŵp y Blaid, Cyng Peter Hughes Griffiths, fod hyn yn sail hollol annigonol ar gyfer asesiad go iawn o ddymuniadau rhieni yn yr ardal.

Roedd y Blaid eisoes wedi beirniadu’r holiadur am gael ei drefnu ar frys, ac am fod yn aneglur, gan ddweud nad oedd y cyngor sir hyd yn oed wedi dilyn ei bolisi ei hun yn y ffordd y cyflwynwyd y cwestiwn. Mae’r Blaid bellach yn dweud fod y canlyniad yn profi yr oedden nhw’n iawn yn y lle cyntaf, ac mae’r Blaid wedi galw ar y cyngor, unwaith yn rhagor, i gynnal arolwg trylwyr a diffuant.

Dywedodd Cyng Hughes Griffiths, “Ar y cychwyn, gwrthododd y cyngor gynnal unrhyw fath o arolwg o gwbl, ac fe fynnon nhw basio cynnig yn y cyngor yn ymwrthod â’r syniad. Wedyn, dan bwysau o gyfeiriad Llywodraeth Cymru, fe ruthron nhw i gynnal arolwg ar sail holiadur gwallus na chyflwynodd y cwestiwn i rieni mewn ffordd deg nag eglur. Roedd llawer o rieni’n methu â deall beth oedd y cwestiwn a ofynnwyd iddyn nhw. ‘Sdim syndod o gwbl nad oes ond 40% wedi ymateb.

“Mae’r cyngor yn honni ei fod yn annog rhieini i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant; ond nid oedd y dogfennau a anfonwyd at rieini’n sôn am hynny o gwbl. Ni wnaed unrhyw ymdrech i hyrwyddo polisi’r cyngor; ond yn waeth na hynny, ni esboniwyd yr opsiynau i rieni yn glir ychwaith. Y canlyniad yw set o ffigyrau di-ystyr, a’r lle priodol iddyn nhw yw’r bin ailgylchu.”

Roedd Cyng Hughes Griffiths hefyd yn tynnu sylw at adroddiad diweddar Estyn yn y sir, gan ddweud, “Ymddengys fod y cyngor yn benderfynol o ruthro ymlaen gyda model ysgolion ‘dwyieithog’; model sydd wedi methu. Mewn un adroddiad yn ddiweddar, roedd Estyn wedi tynnu sylw penodol at rai agweddau o bolisi dwyieithrwydd un o’n hysgolion ‘dwyieithog’. Y gwir plaen yw fod model dwyieithrwydd y cyngor yn y rhan fwyaf o’n hysgolion uwchradd wedi methu’n llwyr, a dangoswyd hynny tro ar ôl tro. Mae’r model hwn wedi’i wrthod gan y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru, sydd wedi cydnabod taw ysgolion Cymraeg yw’r unig ffordd effeithiol o symud ymlaen. Mae’r cyngor yn honni ei fod yn cefnogi’r iaith Gymraeg mewn addysg, ond mae’r honiad hwnnw yn gwbl groes i’r ffeithiau mewn ardaloedd helaeth o’r sir.”

Mae’r Blaid wedi galw am ail-feddwl sylfaenol ar ran y cyngor, gan ddweud y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i atal gweithredu cynlluniau niweidiol y cyngor. Gorffennodd Cyng Hughes Griffiths trwy ddweud, “Rydyn ni wedi dweud o’r cychwyn cyntaf fod angen canfod gwir lefel y galw am addysg Gymraeg yn y sir. Ymddengys fod pob cyngor arall yng Nghymru’n gwybod yn iawn fod y galw yn fwy na’r ddarpariaeth a bod y galw’n dal i gynyddu. Ymddengys fod Sir Gâr yn ceisio celu ac atal y galw trwy gynnal ffug-arolygon i’w asesu. Nid ydyn nhw’n gwasanaethu’r sir na’r genedl, a byddwn yn ymladd bob cam yn erbyn eu cynigion.”