8/28/2009

Buddsoddiad yn gam cyntaf

Mae dau o gynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr, sydd wedi mynegi eu pryderon o'r blaen am y gwasanaeth rheilffordd i Gaerfyrddin, wedi rhoi croeso i gynlluniau'r Llywodraeth i fuddsoddi yn y rheilffyrdd, a all wella'r sefyllfa.

Dywedodd Cyng Alan Speake, "Newyddion da yw clywed fod Gweinidog Trafnidiaeth Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau y caiff y rheilffordd ei drydaneiddio mor bell ag Abertawe, er yr oedd llywodraeth Llundain yn bwriadu mynd mor bell â Bryste yn unig. Ond rhaid i ni weld hyn fel cam cyntaf. Mae'n hanfodol i Orllewin Cymru fod gweddill y lein, i Gaerfyrddin ac ymhellach, yn cael ei drydaneiddio hefyd, fel y gall trenau fynd trwodd yn hytrach na gorfod newid trên yn Abertawe."

Ychwanegodd Cyng Linda Davies Evans, "Mae Llywodraeth Cymru'n Un wedi cytuno hefyd i fuddsoddi er mwyn dyblu'r trac o gwmpas gorllewin Abertawe, a bydd hyn yn caniatáu i drenau redeg yn fwy aml i Orllewin Cymru. Mae hyn yn gam pwysig arall, a gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau'n fuan, fel bod modd rhedeg mwy o drenau, a sicrhau fod y gwasanaeth i gyd yn fwy dibynadwy."

8/14/2009

Cais am gyfyngu cyflymdra yn Denham Avenue

Mae Cynghorydd Sir Plaid Cymru, Mari Dafis, wedi gofyn am gyfyngu cyflymder traffig i 20mya yn Denham Avenue, Llanelli, am resymau diogelwch. Dywedodd Cyng Dafis yr wythnos hon, "Mae problemau difrifol yn Denham Avenue. Er bod cyfyngiad o 30mya ar hyn o bryd, mae nifer o gerbydau yn teithio ar gyflymder o hyd at 50mya ar y ffordd hon.

"Cafwyd problemau wrth i geir ddifrodi ceir wedi'u parcio o ganlyniad, a dwi'n pryderu'n fawr y gallwn weld damwain difrifol os nad ydym yn gweithredu. Y mae dwy ysgol yn y cyffiniau, a dylai hynny fod yn rheswm digonol dros ostwng y cyfyngiad i 20mya a chymryd camau eraill i sicrhau fod y traffig yn cadw o fewn y cyfyngiad.

"Mae'r Cyngor yn dweud wrthyf nad oes modd gweithredu eleni oherwydd y sefyllfa ariannol, ond byddaf yn dal i bwyso am hyn yn y gobaith y gallwn weithredu mor fuan ag y bydd arian ar gael."

8/08/2009

Ymateb y Blaid i'r strategaeth dysgu Cymraeg

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth ddrafft newydd ar gyfer Addysg Gyfrwng Cymraeg, a'r wythnos hon mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr wedi cyhoeddi ei ymateb. Dywedodd arweinydd y grŵp, y Cyng Peter Hughes Griffiths, "Mae Sir Gâr yn un o'r ychydig siroedd yng Nghymru gyda mwyafrif o Gymry Cymraeg o hyd. Mae'n hanfodol o bwysig i sir fel hon fod â strategaeth glir a chadarn am ehangu addysg Gymraeg, ac rydym yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi'r strategaeth genedlaethol gyntaf erioed ar gyfer hynny. Fodd bynnag, y mae nifer o wendidau yn y ddogfen, ac yr ydym wedi amlygu'r rheiny yn ein hymateb.

"Rydym yn croesawu'n fawr cynnig Llywodraeth Cymru'n Un i sicrhau cynnal arolwg trylwyr a chadarn o'r galw am addysg Gymraeg. Rydym wedi galw am hyn yn y cyngor sir yn barod, ond mae'r pleidiau Llafur ac Annibynnol sy'n rhedeg y sir wedi gwrthod. Yn wir, dim ond arolwg ffug a gawsom, mewn rhan yn unig o'r sir, heb unrhyw ymgais i esbonio manteision addysg Gymraeg. Ond yn bwysicaf oll, nid oes unrhyw ddiben gorfodi cynghorau i gynnal arolwg heb eu gorfodi wedyn i ymateb i'r galw hwnnw yn llawn.

"Roeddem ni'n teimlo hefyd nad oedd y llywodraeth yn gosod targedau digon uchelgeisiol, yn arbennig mewn sir fel hon, ac rydym wedi galw ar y llywodraeth i osod targedau mwy heriol."

8/03/2009

Croeso i gynllun i ehangu addysg Gymraeg yn Llanelli

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gâr wedi croesawu adroddiad gan swyddogion y sir sy'n cymell nifer o opsiynau ar gyfer cynyddu nifer y llefydd sydd ar gael ar gyfer addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd Llanelli. Mae'r galw am addysg Gymraeg wedi cynyddu'n syfrdanol yn y dref, ac mae'r Cyngor Sir wedi cael anawsterau mawr wrth ymateb i lefel y galw ers rhyw ddwy flynedd bellach. Yn ôl y cynlluniau diweddaraf, mae'r Cyngor yn bwriadu cynyddu nifer y llefydd ym mhob un o'r ysgolion Cymraeg presennol, ac yn cydnabod fod angen cynllunio nawr am fwy o ysgolion Cymraeg yn y dyfodol agos.

Dywedodd Cyng Dyfrig Thomas, "Mae mwy a mwy o rieni'n dewis addysg Gymraeg i'w plant yn yr ardal. Maen nhw'n deall y manteision o sicrhau fod eu plant yn gwbl ddwyieithog, ac yn deall hefyd taw ysgolion Cymraeg yw'r ffordd orau o wneud hynny.

“Dwi'n croesawu'n fawr y cynlluniau i gynyddu nifer y llefydd yn Ysgol Dewi Sant yn ogystal â chynnydd mawr iawn yn Ysgol Ffwrnes, ac mae hyn ar ben yr ysgol newydd ar gyfer Brynsierfel. Ond ymateb tymor byr yn unig yw hyn - mae'r ffigyrau'n dangos yn glir fod angen dod o hyd i safle am un ysgol newydd ar frys, ac mae'n debyg fod angen cynllunio am ysgol arall ar ôl hynny."

Ychwanegodd Cyng Thomas, "Mae'n galonogol iawn i nodi fod y galw'n cynyddu ym mhob rhan o'r dref, gan bobl ym mhob cymuned."